GIG Cymru: 'Erioed wedi gweld pethau cynddrwg â hyn'
- Cyhoeddwyd
Mae'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn waeth nag erioed, yn ôl dau feddyg blaenllaw yng Nghymru.
Yn ôl cyn-gadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu y BMA yng Nghymru, Dr Phil White, mae pob gaeaf yn straen ond oherwydd ffliw a Covid, mae eleni'n waeth.
Dywedodd Dr Olwen Williams, Is-Lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, fod "batris staff i gyd yn isel iawn ar y funud".
Daw eu sylwadau ar ôl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gyhoeddi "digwyddiad mewnol difrifol" arall wrth iddyn nhw geisio ymdopi â "galwadau digynsail" ar draws eu system iechyd a gofal.
Mae rhai apwyntiadau wedi cael eu gohirio ddydd Mawrth o ganlyniad.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pobl sydd â chyflyrau nad ydynt yn peryglu bywyd i ddefnyddio gwefan 111 GIG Cymru yn y lle cyntaf.
Beth yw'r sefyllfa yn yr holl fyrddau iechyd?
Yn y gogledd mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gohirio rhai triniaethau ddydd Mawrth.
Ond maen nhw'n dweud y dylai unrhyw un sydd ag apwyntiad o ddydd Mercher ymlaen gymryd fod hwnnw'n mynd yn ei flaen os nad ydyn nhw'n cael gwybod yn wahanol gan y bwrdd iechyd.
Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi annog teuluoedd cleifion sy'n disgwyl i gael eu rhyddhau o ysbytai'r ardal i wneud "popeth o fewn eu gallu i'w cefnogi i fynd adref cyn gynted â phosib".
Dywedon nhw fod 280 o gleifion yn ysbytai'r ardal - digon i lenwi Ysbyty Singleton yn Abertawe - sy'n ddigon iach i fynd adref, ond nad oes gofal iddynt yn y gymuned.
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi rhybuddio pobl i gadw draw o adrannau brys oni bai fod hynny'n "gwbl angenrheidiol" oherwydd "pwysau eithafol".
Yn ôl Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan maen nhw ar "lefel rhybudd coch" oherwydd pwysau a galw gormodol ar draws pob safle a gwasanaeth.
Dywedodd Hywel Dda fod ysbytai'r ardal "yn parhau'n hynod brysur" a'u bod yn blaenoriaethu trin y cleifion mwyaf difrifol yn gyntaf, ac felly y bydd unrhyw un sydd ddim mewn cyflwr difrifol yn wynebu oedi mawr.
Dywed Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod hwythau "dan bwysau sylweddol a pharhaus", a'u bod yn annog y cyhoedd i feddwl yn ofalus am ba wasanaeth sydd ei angen arnynt.
Does gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yr un ysbyty cyffredinol yn yr ardal, ond dywedon nhw eu bod yn "cefnogi'r system yn ehangach i ymateb i'r heriau presennol".
Mae Enid Baines wedi bod yn aros am driniaeth yn Ysbyty Gwynedd, Bangor am chwe mis ar ôl i'w hapwyntiad cyntaf yn yr uned endoscopi gael ei ganslo ym mis Gorffennaf oherwydd nad oedd y llawfeddyg iawn ar gael.
Dywedodd ei merch Menna Baines, cynghorydd sir sy'n cynrychioli ward Faenol ym Mangor, fod apwyntiadau eraill wedi cael eu canslo yn Hydref a Thachwedd.
"Wedyn mi gafodd ddyddiad ym mis Rhagfyr, sef dydd Mercher diwethaf," meddai'r Cynghorydd Baines.
"Wrth gwrs oeddan ni'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac roedden ni'n poeni wedyn a oedd y lawdriniaeth yma yn mynd i fynd yn ei blaen.
"Felly dyma'n ni'n meddwl well i ni ffonio rhag ofn ac o fewn awr neu ddwy i ni gychwyn o dŷ mam ym Mhen-y-groes mi gawson ni wybod bod y llawdriniaeth honno hefyd wedi cael ei chanslo.
'Llygedyn o obaith'
"A be oedd yn annerbyniol y tro yma oedd nad oeddan ni wedi cael gwybod, ni oedd wedi ffonio," ychwanegodd Ms Baines.
"Dwi'n llawn ymwybodol o'r pwysau sydd ar y gwasanaeth ond mi fysa'n help petai cyfathrebu yn well - yn enwedig pan maen nhw yn canslo triniaeth heb ddweud wrth y person bod nhw wedi ei chanslo, mae hynny'n fater o gyfathrebu yn dydi.
"Dan ni wedi sgwennu at ein AS Siân Gwenllian gan gopïo Uned Endoscopy i mewn ac yn sgil hynny mae'n rhaid i mi nodi bod ni wedi cael ymateb heddiw.
"Mae rhywun o'r ysbyty wedi ffonio mam ac yn addo trio rhoi amserlen synhwyrol a realistig iddi o fewn yr wythnos.
"Felly mae hynny'n newyddion da ond efo pethau fel maen nhw 'dan ni ddim yn gallu bod yn hollol ffyddiog ond mae 'na lygedyn o obaith gobeithio."
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Dr Olwen Williams, sy'n gweithio yn y gogledd yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, fod niferoedd staff yn broblem a'u hiechyd eu hunain yn cael ei effeithio.
"Dydy'r llif drwy'r system ddim yn gweithio... mae'r pwysau ar y gweithlu yn ofnadwy," meddai.
"'Dan ni'n gwybod fod pobl efo moral injury a burnout ac yn teimlo'n sâl eu hunain achos bod gynnon nhw ffliw a ma' 'na afiechydon eraill o gwmpas.
"Ma' iselder yn beth mawr iawn ac wrth gwrs os 'dach chi'n dod i mewn i'ch gwaith a ddim yn gallu gwneud eich gwaith ma' hwnna'n cael effaith fawr iawn arnach chi.
"Ma'n batris ni gyd yn isel iawn ar y funud... dwi ddim yn gweld dim gola' ar y funud mae gen i ofn."
Cafodd rhai apwyntiadau'n cael eu gohirio yn y gogledd ddydd Mawrth oherwydd "diffyg gwlâu a phrinder staff".
Mae achosion o'r ffliw ar gynnydd ar draws Gymru ac afiechydon anadlol eraill fel Covid.
Ond pryderu mai gwaethygu eto wnaiff y sefyllfa y mae Dr Phil White. O ohirio apwyntiadau, dywedodd mai cynyddu eto fydd y rhestrau aros.
"Mae pobl wedi bod yn aros misoedd os nad blynyddoedd am rhai o'r apwyntiadau 'ma ac wrth gwrs, iddyn nhw gael eu canslo funud ola', mae'n anodd iawn.
"Bydd yn rhaid iddyn nhw ddisgwyl tipyn bach mwy a 'nawn ni ond gweld y rhestrau aros ma'n gwaethygu dros y gaeaf."
'Byth cynddrwg â hyn'
Dywedodd Dr White mai dyma'r sefyllfa waethaf iddo weld gan ddweud mai prinder staff a gofalwyr yw "gwraidd y broblem".
Mae'n annog pawb sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw neu Covid i wneud hynny.
"'Dan ni wedi cael problemau efo ffliw yn y gorffennol ond o ran Covid hefyd 'dan ni wedi weld, dwi byth wedi gweld pethau cynddrwg â hyn.
"Fydd bob gaeaf yn straen ond yn y gaeaf yma ma' popeth yn mynd i fod yn anodd iawn i'r gwasanaeth iechyd a dwi'n annog unrhyw un sydd heb gael brechlyn, ac sy'n gymwys i'w gael, i fynd i gael y frechlyn ffliw ac os gawn nhw gynnig brechlyn Covid i fynd am honno hefyd.
"Dyma'r unig ffordd i ni gadw'r pwysau i lawr ar ein ysbytai ni."
"Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gefnogi cleifion sy'n feddygol ffit i gael eu rhyddhau o'r ysbyty ac rydym yn defnyddio'r holl staff sydd ar gael," dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Nyrsio bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
"Mae hwn yn gyfnod eithriadol o heriol i gydweithwyr ar draws ein gwasanaethau iechyd ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr ymdrechion parhaus sy'n cael eu gwneud mewn amgylchiadau mor anodd."
Cadw draw o'r ysbyty os nad oed angen
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod y GIG yn "wynebu pwysau digynsail y gaeaf hwn wrth ymateb i achosion o ffliw a Covid.
"Bydd penderfyniadau staffio priodol yn cael eu gwneud i liniaru'r risgiau gyda ffocws ar barhau i ddarparu gofal achub bywyd a chynnal bywyd.
"Mae Byrddau Iechyd Lleol yn canolbwyntio ar ryddhau'r cleifion hynny nad oes angen gofal ysbyty arnynt mwyach.
"Er mwyn helpu i leihau'r pwysau ar wasanaethau, gofynnwn i bobl â symptomau tebyg i ffliw gadw draw o'r ysbyty oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol ac annog pawb sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw i wneud hynny.
"Cynghorir unrhyw un sydd â chyflyrau nad ydynt yn peryglu bywyd i ddefnyddio gwefan 111 GIG Cymru yn y lle cyntaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2022