Teyrngedau i gyn-olygydd Radio Cymru, Aled Glynne Davies
- Cyhoeddwyd
Mae llu o deyrngedau wedi eu rhoi i gyn-olygydd Radio Cymru Aled Glynne Davies wedi i'r heddlu gadarnhau ar 4 Ionawr eu bod wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio amdano. Roedd Mr Davies wedi bod ar goll ers Nos Galan, 31 Rhagfyr.
Gan ei ddisgrifio fel dyn annwyl a thalentog dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards, fod Aled Glynne Davies yn arloeswr ym maes darlledu Cymraeg.
"Mae 'na bobl ar y ddaear yma sy'n hapus i fynd o ddydd i ddydd yn gwneud eu gorau glas ac mae 'na bobl eraill sydd eisiau gwneud gwahaniaeth ac roedd Aled Glynne yn un oedd eisiau gwneud gwahaniaeth - yn enwedig os oedd hynny er lles newyddiaduraeth a'r iaith Gymraeg," meddai wrth roi teyrnged iddo ar raglen Post Prynhawn.
"O'i ddyddiau cynnar gyda Sain Abertawe ac yna yn ei gyfnodau gyda Newyddion Radio Cymru a Newyddion Saith ar gyfer S4C roedd Aled yn arloeswr a'i nod drwy'r amser oedd sicrhau fod cynulleidfaoedd iaith Gymraeg yn cael y cynnwys a'r safonau gorau posib."
Pan ddaeth Aled Glynne yn olygydd ar orsaf BBC Radio Cymru yn 1995 fe addawodd newidiadau mawr.
Wrth siarad ar raglen Beti George cyn cyflwyno ei newidiadau y flwyddyn honno, dywedodd y byddai'r newidiadau yn rhai radical gyda rhaglenni a chyflwynwyr newydd, sŵn ffresh i'r gwasanaeth a rhaglenni oedd yn ymweld â'r gymuned.
"Yn sicr mi fyddwn ni yn trio ar adegau o'r dydd i apelio at gynulleidfa iau ac at y miloedd ar filoedd o bobl sydd wedi dysgu Cymraeg ac sydd eisiau bod yn rhan o rhywbeth. Dwi ddim yn credu ar hyn o bryd eu bod nhw yn teimlo yn rhan o'r gwasanaeth," ychwanegodd.
"Wrth siarad efo pobl ar hyd a lled Cymru, dwi'n credu bod pobl yn teimlo eu bod nhw eisiau rhywbeth gwahanol," meddai.
Yn ogystal â gwneud newidiadau sylweddol i dîm cyflwyno Radio Cymru, dywedodd Rhuanedd Richards ei fod wedi dangos angerdd dros sicrhau bod iaith yr orsaf yn ddealladwy i bawb ac nid yn "Gymraeg academaidd, sych".
"Roedd Aled am adlewyrchu iaith y stryd, iaith y gymuned, yr iaith sy'n fyw ar wefusau pobl a mae hynny yn rhan bwysig o'i waddol hyd heddiw," meddai.
Yn ei raglenni, meddai Rhuanedd Richards, "roedd bob amser eisiau rhoi pobl Cymru ar frig yr agenda" ac roedd hefyd eisiau sicrhau newyddiaduraeth gyhyrog yn y Gymraeg.
"Aled hefyd arweiniodd y tîm a greodd wefan newyddion gyntaf BBC Cymru yn y Gymraeg, BBC Cymru'r Byd," meddai.
"Mi wnaeth gyfraniad sylweddol iawn - ond uwchlaw popeth roedd Aled yn ddyn da, yn ddyn caredig, diymhongar ond penderfynol a dewr ac mae ei ddylanwad wedi bod yn sylweddol iawn."
'Rhaglenni o'r safon uchaf'
Un darlledwr a gydweithiodd gyda Aled Glynne am flynyddoedd oedd Dewi Llwyd.
"Cyn iddo ddod yn Olygydd Radio Cymru, roedd Aled yn gynhyrchydd radio a theledu heb ei ail," meddai Mr Llwyd.
"Fel cydweithiwr, a chyd-deithiwr ar adegau hefyd, roedd sicrhau rhaglenni o'r safon uchaf yn hollbwysig yn ei olwg gyda'r gynulleidfa'n ganolog i bopeth yr oedd yn ceisio'i gyflawni.
"Fel arweinydd, byddai bob amser yn awyddus i wthio'r ffiniau, i chwilio am ddulliau gwahanol o adrodd stori ac yn hynny o beth, roedd ei frwdfrydedd yn heintus.
"Ond pan ddeuai cyfle i ymlacio, hiwmor iach Aled fyddai'n dod i'r amlwg, y tynnwr coes a'r dynwaredwr. Yn ddiwyd, yn ddawnus, yn ddyfeisgar, bydd yn gadael bwlch mawr ar ei ôl."
'Egni heintus'
Fe drawsnewidiodd sŵn Radio Cymru, meddai Dafydd Meredydd, pennaeth presennol gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, ac mae ei ddylanwad yn dal i'w chlywed ar yr orsaf heddiw:
"Roedd ganddo gymaint o frwdfrydedd ac angerdd ac egni heintus tuag at radio mi roedd yn cario rywun efo fo," meddai.
"Pan ddaeth yn olygydd ar Radio Cymru yn 1995 roedd ganddo syniadau oedd weithiau yn ddadleuol ond doedd dim ots gan Aled am hynny oherwydd roedd ganddo fo'r weledigaeth yma a gymaint o syniadau byrlymus.
"Mi wnaeth gyflwyno enwau newydd i'r orsaf; pobl fel Jonsi, Beks, Chris Needs ymysg eraill.
"Ei benderfyniad oedd ei fod yn moderneiddio Radio Cymru, yn chwyldroi Radio Cymru, yn chwyldroi'r sŵn, ac mi rydyn ni'n dal yn clywed y sŵn yna heddiw. Roedd yn benderfynol o baratoi'r gwasanaeth ar gyfer y ganrif newydd a'r mileniwm newydd a mi wnaeth o hynny ac mae'r gwaddol yna yn parhau."
Roedd Kevin Davies yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru am flynyddoedd, ac fe roddodd y deyrnged yma ar Facebook:
"Newyddion syfrdanol o drist. Boss, mentor a chyfaill gwerthfawr wnaeth gyfraniad amrhisiadwy i ddarlledu yn y Gymraeg...cyfraniad sydd o bosib heb ei werthfawrogi ddigon. Cydymdeimladau a chofion at y teulu ar y diwrnod tywyll yma."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Meddai Dr Grahame Davies, cyn-olygydd newyddion BBC Cymru: "Ddechrau'r mileniwm, chwaraeodd Aled ran bwysig yn natblygiad gwasanaeth arlein Cymraeg y BBC, sef BBC Cymru'r Byd, gan sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei lle teilwng ar gyfrwng newydd y rhyngrwyd.
"Braint oedd cael cydweithio gyda rhywun yr oedd ei ymroddiad at ein diwylliant mor ddiffuant ac mor ddiflino. Bydd lle anrhydeddus ganddo ymhlith cymwynaswyr y Gymraeg ym myd y cyfryngau."
Un arall o'i gydweithwyr yn Radio Cymru ac ar wefannau Cymraeg cyntaf y BBC o 1997 oedd Gareth Morlais a ddaeth yn ddiweddarach yn uwch-gynhyrchydd ar wefannau Cymraeg y BBC.
"Roeddwn i'n llawn edmygedd o'i gynllun i wneud yr orsaf yn sianel i bawb. Drwy boblogeiddio Radio Cymru mi wnaeth o lwyddo i helpu ehangu apêl siarad Cymraeg," meddai.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd llwybrau Aled Glynne Davies a Betsan Powys wedi croesi sawl gwaith yn ystod eu gyrfaoedd.
"P'run ai'n ohebydd ifanc yn y nawdegau ac ynte'n olygydd newyddion, yn olygydd Radio Cymru yn holi am ei gyngor neu'n fwyaf diweddar, yn un o gyflwynwyr Bore Sul ac ynte'n gynhyrchydd, ar hyd y blynyddoedd ches i ddim byd gan Aled ond anogaeth, cefnogaeth a llawer iawn o garedigrwydd.
"Mae fy nyled i iddo, a'r deimlad o golled yn fawr. Dwi'n cydymdeimlo yn ddwys â'r teulu sy'n teimlo'r golled galetaf," meddai Betsan Powys.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Menna Richards oedd cyfarwyddwr BBC Cymru Wales rhwng 2000 a 2011 ac fe gydweithiodd yn agos ag Aled am flynyddoedd.
"Roedd e'n ddyn teulu mawr - roedd wastad yn siarad am y teulu mewn ffordd mor annwyl," meddai Menna Richards.
"Ond fel cydweithiwr, roedd e'n arweinydd ysbrydoledig i Radio Cymru. Roedd e'n bopeth iddo, llwyddiant Radio Cymru, ac roedd e'n angerddol dros lwyddiant y gwasanaeth.
"Roedd e'n un am boeni am bethau, achos oedd e eisiau pethau fod yn iawn, ac fe roedd e wastad yn llwyddo i gael y gore mas o bobl."
"Byddwn i'n dweud roedd Aled hefyd yn un o'r bobl mwyaf caredig a chymwynasgar i mi gwrdd erioed", meddai Menna Richards. "Roedd e'n berson annwyl iawn o ran cymeriad a fe wnâi unrhyw beth i unrhyw un, roedd e'n berson mor garedig.
"Ac hefyd wrth gwrs dwi'n cofio ei hiwmor e - rwy'n gallu clywed ei chwerthiniad e nawr.
"Roedd cael Aled yn y swyddfa neu mewn cyfarfod, oeddech chi'n gwybod pa bynnag mor drwm oedd y pynciau dan sylw, bydde Aled yn gallu cracio jôc a bydde pawb yn chwerthin.
"Dwi'n credu bod y ffaith fod ganddo'r gallu yna, i fod gymaint o ddifri am ei waith proffesiynol a bod yn arweinydd ysbrydoledig, ac ar yr un pryd yn gallu dangos yr anwylder a'r hiwmor 'na... roedd e'n ddyn hyfryd iawn."
Roedd Wyn Thomas ac Aled Glynne yn ffrindiau agos ac hefyd yn gydweithwyr yng ngorsaf radio Sain Abertawe.
Ar Facebook mae Mr Thomas yn cofio eu perthynas proffesiynol a'u cyfeillgarwch, gyda atogfion o "gydweithio hapus a llawer o fentro a chwerthin yn Sain Abertawe, BBC a'i gwmni cynhyrchu, Goriad."
"Dwi'n cofio ei dad, T Glynne Davies, yn gofyn os y gallwn gynnig swydd i'w fab ifanc yn Sain Abertawe," meddai Mr Thomas.
"Roedd fy mharch at T Glynne fel darlledwr yn ddigon i mi agor y drws i Aled. Un o'r penderfyniadau gorau a wnes i - datblygodd Aled i fod yn gawr o ddarlledwr."
Ychwanegodd Wyn Thomas: "Aeth ymlaen i'r BBC ble dringodd i fod yn olygydd newyddion Radio Cymru ac yna yn bennaeth ar yr orsaf yno fe welwyd ei fenter trwy newid arddull darlledu rhaglenni'r orsaf. Tasg fentrus, un ble cafodd ei farnu yn gwbl annheg, ond un a foderneiddiodd a ddaeth a llwyddiant i Radio Cymru.
"Mae'r newyddion o golli Aled yn anghredadwy i mi. Roedd yn ddyn doeth, hawddgar, llawn hiwmor a phob amser â gwên ar ei wyneb.
"Roedd cyfraniad Aled at ei deulu, cyfeillion, cymuned a Chymru yn enfawr.
"Bydd y dyddiau da o'i gyfnod gyda ni yn Abertawe, yn cael hwyl gyda fo, yng nghwmni ei fam a thad, Willie Bowen, Garry Owen a'r criw, yn aros gyda mi tra byddaf.
"Fy nghydymdeimlad gydag Afryl, Gwenllian, Gruffudd, ei frodyr a'i holl deulu."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023