Diffyg bws ysgol yn rhwystro addysg Gymraeg?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Emily Roberts o Faesteg yn dweud nad yw'r trefniadau yn gwneud synnwyr

Mae pryder y gallai addysg Gymraeg yng Nghwm Llynfi ddioddef wrth i rieni ddweud eu bod yn ystyried anfon eu plant i ysgolion Saesneg oherwydd trefniadau cludiant ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu beirniadu am ganllawiau sy'n golygu nad oes cludiant am ddim ar gael i blant sy'n byw o fewn dwy filltir i ysgol gynradd, neu o fewn tair milltir i ysgol uwchradd.

Ar ben hynny, dywed rhieni eu bod yn poeni am ddiogelwch a lles disgyblion gan fod rhai'n gorfod cerdded am hyd at awr i'r ysgol, a bod hynny'n beryglus yn y tywyllwch a thywydd garw'r gaeaf.

Dywedodd llefarydd y cyngor bod ganddynt un o'r polisïau "mwyaf hael yng Nghymru a bod y polisi newydd cludiant cartref-i'r-ysgol ddaeth i rym ym mis Medi 2016 yn ateb holl ofynion Llywodraeth Cymru".

Ychwanegodd: "Mewn sefyllfa lle nad yw plentyn yn cwrdd â'r gofynion o ran hawlio trafnidiaeth am ddim mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar rieni i wneud trefniadau teithio addas rhwng yr ysgol a'r cartref ar gyfer y plentyn".

Ond mae rhieni'n dweud eu bod wedi drysu ac yn bryderus am y sefyllfa.

'Gallai byth bod mewn dau le ar yr un pryd'

Mae gan Emily Roberts o Faesteg ddwy ferch fach yn yr ysgol gynradd Gymraeg leol sef Ysgol Cynwyd Sant.

Ar hyn o bryd mae hi'n gallu cerdded gyda'r ddwy i'r ysgol yn rhwydd yn y bore a'u casglu gyda'r hwyr.

Ond mae hi'n poeni pan bydd yr hynaf o'r ddwy yn symud i'r ysgol uwchradd, sef Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.

Bydd rhaid gwneud trefniadau cludiant arbennig gan ei bod hi yn byw ychydig y tu fas i'r ffin tair milltir.

"Fe fydde gorfod cludo un plentyn i ysgol gynradd ac un arall i ysgol uwchradd ar yr un amser yn y bore yn anodd iawn i ni. Gallai byth bod mewn dau le ar yr un pryd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emily Roberts yn poeni beth all ddigwydd pan ddaw'r amser i'w merch hynaf symud i'r ysgol uwchradd

Mae Emily Roberts yn credu bod hi'n "rhy bell i blentyn, yn enwedig plant ifanc, gerdded i'r ysgol".

Mae hi'n poeni y bydd rhai rhieni yn lleol yn penderfynu peidio mynd â'u plant i'r ysgolion Cymraeg oherwydd eu bod nhw methu â chael bws am ddim.

Mae hi a'i gŵr wedi bod yn trafod eu hopsiynau "achos os bydde y merched yn mynd i ysgol Saesneg neu yr ysgol Gatholig leol fe fydde bws am ddim iddyn nhw". Ond fe fyddai dilyn y trywydd hynny, meddai, yn siom enfawr.

"Bydden ni yn totally gutted os na fydde y plant yn cael addysg Gymraeg. Pan ges i blant, yr unig opsiwn i fi oedd rhoi addysg Gymraeg iddyn nhw. Fe ges i addysg Gymraeg a dwi am iddyn nhw gael hynny hefyd."

Dywed Ms Roberts fod bysiau ysgol yn mynd heibio ar y ffordd y tu fas i'w thŷ ar hyn o bryd a dyw hi methu â deall pam na allan nhw stopio i godi plant wrth basio.

'Mae'n broblem ar draws y sir'

Yn ôl Luke Fletcher, AS Gorllewin De Cymru: "Dyle fod dim rhwystr tuag at addysg, a dyle dim fod rhwystr ar gyfer addysg Gymraeg."

Dyw ddim yn synnu fod rhieni'n pryderu am y sefyllfa a bod rhai'n ystyried anfon plant i ysgolion Saesneg er mwyn cael lle iddyn nhw ar y bws yn hytrach nag anfon y plant i ysgolion Cymraeg.

"Mae lot o blant yn dod o ardaloedd fel Caerau, sydd yn ardal ddifreintiedig, ac mae cludiant yn bwysig," dywedodd. "Mae yn broblem dros y sir i gyd."

Mae'n dweud fod bysiau hanner gwag ar y foment yn pasio heibio plant sy'n cerdded i'r ysgol ac mae'n galw ar Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr i edrych eto ar y sefyllfa a'r costau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai Claire Jones neu ei mam, Julie, orfod roi'r gorau i weithio er mwyn mynd â cludo'i merch Seren i'r ysgol eu hunain

Mae gan Claire Jones o Nantyffyllon ferch saith oed sydd yn ddisgybl yn yr ysgol Gatholig leol ers tair blynedd.

Ond ers y newidiadau i'r trefniadau cludiant dyw hi ddim yn gymwys i deithio ar fws ysgol ac mae hi'n gorfod cerdded i'w gwersi.

"S'neb yn deall pam bo hyn yn digwydd. Mae teuluoedd ar hyd a lled Maesteg yn wynebu y broblem yma.

"Ry'n ni 1.9 milltir i ffwrdd o'r ysgol felly 0.1 milltir tu fas i'r ffin am drafnidiaeth rhad ac am ddim."

Mae'n dweud y gallai gymryd dros 40 munud i gerdded ei merch i'r ysgol.

O ganlyniad i'r newid yn y ffin mae'n bosib y bydd hi a'i mam, sy'n ei helpu gyda gofal plant, yn gorfod ystyried eu dyfodol o ran eu swyddi, ac efallai bydd yn rhaid i un ohonyn nhw roi'r gorau i weithio.

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r rhieni gyda'r AS Huw Irranca-Davies (yn y canol)

Dywedodd AS Ogwr, Huw Irranca-Davies: "Nid mater o edrych ar fap yw penderfynu ar siwrne plentyn i'r ysgol. Nid mater o ymchwil desg.

"Mae angen gweld be' yn union mae'n ei olygu i gerdded y siwrne yna a pha mor ddiogel yw y daith."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ochr yn ochr â chynnig trafnidiaeth ysgol, mae galluogi mwy o blant i gerdded neu seiclo i'r ysgol yn flaenoriaeth."

Mae Ross Thomas yn gynghorydd sir ac yn dweud fod y rheolau'n "rhwystr arall mewn ardal lle mae digon o rwystrau eisoes yn bodoli o ran cyfleon a gobeithion pobl o ddod mlaen mewn bywyd".

Un sy'n cefnogi'r rhieni yw'r Parchedig Geraint John: "Fe allai y daith gerdded i'r ysgol fod y beryglus ac yn hollol anaddas ar gyfer plant.

"Rwy' hefyd yn poeni amdanyn nhw yn cerdded am hyd at awr yn y glaw ac yn cyrraedd yr ysgol yn wlyb."

'Adolygiad manwl cyn bo hir'

Ym Medi 2016 fe benderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr newid ei bolisi cludiant ysgol yn unol â phellteroedd statudol Llywodraeth Cymru, sef dwy filltir i ddisgyblion oedran cynradd a thair milltir i ddisgyblion oedran ysgol statudol mewn ysgolion uwchradd.

Caiff y pellteroedd eu mesur yn ôl y llwybr cerdded agosaf, mwyaf diogel, sydd ar gael rhwng y cartref a'r ysgol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe fydd adolygiad manwl o'r mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) yn digwydd cyn bo hir.

"Fe fydd yr adolygiad yn cynnwys ystyriaeth o'r ffin o ran trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol, a hefyd trafnidiaeth ar gyfer disgyblion sy yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg."