Tâl nyrsys: Undeb yn fodlon 'cwrdd yn y canol'

  • Cyhoeddwyd
Aelodau'r RCN ar y linell biced

Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) yn dweud eu bod nhw'n fodlon ystyried cyfaddawdu yn yr anghydfod dros gyflogau.

Mae'r undeb yn galw ar lywodraethau Cymru a'r DU i gynnal trafodaethau er mwyn dod â gweithredu diwydiannol i ben.

Yn ôl cyfarwyddwr RCN Cymru, Helen Whyley os na ddaw datrysiad bydd yna gyhoeddiad ynghylch dyddiadau streicio pellach "yn y dyddiau i ddod".

Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu bod angen rhagor o arian gan Lywodraeth y DU i ariannu codiad cyflog teg.

Dywedodd Ms Whyley: "Rydym wedi bod yn gofyn am [gynnydd ar lefel] chwyddiant a 5% ar ben hynny. Ers y ceisiadau gwreiddiol hynny, mae'r sefyllfa economaidd wedi newid yn sylweddol, ac mae'r nyrsys yn teimlo'r effaith.

"Mae'r aelodau yn deall yr hinsawdd economaidd ry'n ni gyd yn ei wynebu - felly be ni'n ddweud yw ein bod yn barod i fod yn real am yr hinsawdd economaidd ac ry'n yn barod i gyfaddawdu rywfaint drwy drafod setliad - ac ry'n yn annog Llywodraeth Cymru i wneud hynny mor fuan â phosib.

"Be dwi angen yw cynnig ystyrlon dwi'n gallu ei roi i'n haleodau - un y maen nhw'n gallu ei dderbyn ac sy'n eu galluogi i barhau i wneud y gwaith y maen nhw'n ei wneud mor dda. Ry'n ni angen fformiwla a fydd yn dechrau datrys y prinder dybryd o nyrsys cofrestredig yng Nghymru.

"Mewn unrhyw drafodaethau mae'n rhaid cael cyfaddawd gan y ddwy ochr. Rydym yn barod i gael y drafodaeth yna. Rhaid i Lywodraeth Cymru nawr ddod at y bwrdd a datrys yr anghydfod yma."

Nyrsys 'yn gadael yn llu'

Daw'r alwad yng nghanol pryderon bod staff iechyd wedi ymlâdd yn sgil pwysau trwm cyfnod y gaeaf ar y GIG.

Dywedodd Ms Whyley bod cyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd wedi bod yn llawn straen i'r nyrsys sy'n "gorweithio" ac wedi blino'n llwyr".

"Mae'r rhan fwyaf o'r nyrsys rwy' wedi siarad â nhw wedi bod yn gweithio yn ystod gwyliau'r Nadolig achos mae gyda ni argyfwng llwyr yn y GIG.

"Mae tâl nyrsys hefyd yn ymwneud â phroblemau gyda'r gweithlu ar y foment. Mae'r tîm o'u cwmpas yn gadael yn llu [oherwydd eu tâl] felly does dim digon o nyrsys i ofalu am bobl Cymru.

"Ymunodd nyrsys â'r proffesiwn oherwydd awydd i ofalu am bobl, ac os nad ydyn nhw'n teimlo y gallen nhw roi'r lefel yna o ofal, gadael wnan nhw."

Disgrifiad,

Ym mis Rhagfyr dywedodd Olwen Davies a Sharon Hughes, sy'n picedu tu allan i Ysbyty Gwynedd, fod nyrsys yn cael "dim cefnogaeth" gan y GIG

Mae'r RCN yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o drin llywodraeth San Steffan fel bwch dihangol, gan ddweud bod datrys problemau gyda chyflogau nyrsys Cymru yn nwylo gweinidogion ym Mae Caerdydd.

"Os na ddaw datrysiad, bydd yn rhaid i ni weithredu'n ddiwydiannol eto a bydd y dyddiadau hynny'n cael eu cyhoeddi yn y dyddiau i ddod," meddai Ms Whyley.

"Rydym yn gofyn iddyn nhw [y Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan] i ddychwelyd at y bwrdd, a dechrau trafodaeth ystyrlon ynghylch tâl nyrsys."

Gan gyfeirio at y llywodraeth, fe ychwanegodd: "Os nad ydych chi'n barod i wneud hynny, os ry'ch chi'n parhau i ddweud nad problem Llywodraeth Cymru yw hi, yna bydd dim dewis ond cyhoeddi rhagor o ddyddiau streic yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn ni'n parhau i weithio i ddod ag undebau llafur, cyflogwyr a'r llywodraeth ynghyd i sicrhau'r canlyniad gorau posib i weithwyr, tra'n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio'r cyllid sydd ganddynt i ddarparu cynnig tâl teg i staff y GIG a galluogi ni i wneud yr un peth yng Nghymru."

Daw'r sylwadau wedi i Ysgrifennydd Cyffredinol yr RCN, Pat Cullen, ddweud wrth bodlediad Times Radio nos Iau bod yr undeb "yn deall yr hinsawdd economaidd ry'n ni'n gweithio ynddo".

Aeth ymlaen i awgrymu bod cyfaddawd yn bosib, gan alw ar Weinidog Iechyd San Steffan, Steve Barclay, a'r Prif Weinidog, Rishi Sunak, "i ddod i ystafell a chwrdd â mi yn y canol a gwneud y peth cywir i'r nyrsys yma".

Pynciau cysylltiedig