'Nyrsys Cymru i streicio eto yn y flwyddyn newydd'

  • Cyhoeddwyd
Nyrsys ar streic yng Nghaerdydd ddydd Iau
Disgrifiad o’r llun,

Nyrsys ar streic yng Nghaerdydd ddydd Iau

Bydd yna "yn bendant" fwy o streiciau gan nyrsys yng Nghymru yn y flwyddyn newydd, yn ôl Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN).

Fe fydd nyrsys yn cynnal ail ddiwrnod o weithredu diwydiannol o fewn wythnos ddydd Mawrth, fel rhan o ymgyrch i gael codiad cyflog o 19%.

Mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi cynnig codiad cyflog rhwng 4% a 5.5% o staff y GIG, ar sail argymhelliad proses adolygu tâl.

Yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan fe fyddai'n "synhwyrol" i'r corff adolygu tâl i ailystyried yr argymhelliad.

Dywedodd cyfarwyddwr yr RCN yng Nghymru, Wales, Helen Whyley bod ganddi "fandad cryf" gan aelodau i'r galw am gynnydd o 19% a bod ei "drws ar agor" ar gyfer trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.

"Problem Gymreig yw hon," meddai wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.

"Rwy'n sôn am nyrsys Cymreig mewn ysbytai Cymreig, mewn cymunedau Cymreig - mae angen datrysiad Cymreig i hyn er mwyn symud ymlaen. Rwy'n meddwl ein bod wedi bod yn wirioneddol resymol."

Fe bwysleisiodd Eluned Morgan unwaith yn rhagor bod "dim rhagor o arian" ar gyfer cynnig codiad cyflog uwch oni bai bod Llywodraeth y DU yn rhoi mwy o arian i Lywodraeth Cymru.

'Rydan ni'n barod am daith hir'

Pan ofynnwyd ar y rhaglen a fyddai yna fwy o weithredu diwydiannol yn y flwyddyn newydd, atebodd Helen Whyley: "Yn bendant - mae ein haelodau eisiau i rywbeth gael ei wneud.

"Maen nhw eisiau rhoi gofal gwych i gleifion, ac i deulu pawb. Rydan ni'n barod am daith hir - mae angen i ni weld datrysiad."

Wythnos diwethaf, fe ddywedodd cadeirydd Ceidwadol pwyllgor iechyd San Steffan bod argymhelliad y corff adolygu tâl wedi ei lunio cyn dechrau'r rhyfel yn Wcráin ym mis Chwefror, ac fe awgrymodd "ei anfon yn ôl i'r corff... edrych arno".

Dywedodd Eluned Morgan ar y rhaglen: "Mae hwn yn rhywbeth dwi wedi ei awgrymu o'r blaen.

"Pan roedden nhw'n gwneud eu penderfyniadau, roedd chwyddiant yn llawer is nag y mae heddiw, felly fydde hwnna'n opsiwn synhwyrol.

"Ond wrth gwrs fe fyddai'n rhaid gweld cynnydd yn yr arian sy'n dod o Lywodraeth y Deyrnas Unedig."