'Rhaid i Lywodraeth Cymru godi cyflog nyrsys Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o nyrsys ar draws Cymru yn streicio am yr eilwaith o fewn wythnos ddydd Mawrth - cam sy'n effeithio ar wasanaethau ym mhob bwrdd iechyd ond am Aneurin Bevan.
Ar ôl i gannoedd o driniaethau ac apwyntiadau gael eu gohirio yn ystod y diwrnod cyntaf o weithredu yr wythnos ddiwethaf, mae disgwyl y bydd yna effaith sylweddol ar gleifion unwaith eto.
Mae nifer sylweddol o nyrsys yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd ar streic.
Er bod gwasanaethau fel cemotherapi, dialysis ac unedau gofal dwys yn cael eu diogelu rhag y streic, dyw nifer sylweddol o apwyntiadau a thriniaethau arferol ddim yn digwydd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru cafodd o leiaf 257 o lawdriniaethau a 1,866 o apwyntiadau newydd a dilynol eu gohirio o ganlyniad i'r streic ddydd Iau diwethaf.
Yn y cyfamser mae cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i wella cyflog presennol nyrsys ac i gyfarfod â chynrychiolwyr o'r RCN er mwyn datrys yr anghydfod.
"Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatrys yr anghydfod gyda neu heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU," meddai Helen Whyley.
"Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am dâl y GIG yng Nghymru. Mae gwasanaethau gofal iechyd wedi'u datganoli.
"Yn y gorffennol mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn credu mewn datganoli gan ei fod yn galluogi atebion Cymreig i broblemau Cymreig.
"Dyma gyfle i lywodraeth Mark Drakeford wneud yn union hynny."
Dywedodd hefyd bod staff nyrsio wedi wynebu blynyddoedd o doriadau cyflog mewn termau real a bod hynny wedi arwain at ddiffyg staff difrifol.
"Mae hynny yn cael effaith andwyol ar ofal cleifion," meddai, gan ychwanegu bod nyrsys yn gwbl hanfodol i ddarparu gwasanaethau'r GIG.
"Dyw ysbytai, gwelyau ac offer yn ddim heb staff sydd wedi'u hyfforddi i ofalu am gleifion.
"Wrth i ni gyrraedd diwedd 2022 a'r Flwyddyn Newydd mae'n destun siom bod y Coleg Nyrsio Brenhinol yn ystyried mwy o streicio.
"Rwy'n galw ar y prif weinidog i ymateb yn gadarnhaol i'm llythyr i gael trafodaethau."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog o rhwng 4% a 5.5% i staff y gwasanaeth iechyd, ond mae nyrsys yn gofyn am gynnydd o 19%.
Wrth siarad â'r BBC yn gynharach dywedodd Mr Drakeford y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi codi trethi neu ailgyfeirio arian o fewn eu cyllideb er mwyn cynyddu cyflogau nyrsys, ond y byddai hynny wedi "golygu llai o driniaethau, llai o nyrsys, llai o arian i'r gwasanaeth iechyd".
"Yn syml, y gwir yw bod faint o arian rydyn ni'n ei gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a chyflogau yng Nghymru yn ganlyniad i'r penderfyniadau y mae gweinidogion Lloegr yn eu gwneud ar gyfer Lloegr," meddai.
"Dyna'n union fel mae'r system yn gweithio."
'Ddim yn streicio ar chwarae bach'
Dywedodd Lowri Tudor Serw, nyrs gymunedol yng Ngwynedd a Môn ar raglen Post Prynhawn Radio Cymru: "Dwi'm yn meddwl bod neb wedi penderfynu streicio ar chwarae bach.
"Mae tynnu'r gofal yna yn ôl yn mynd yn groes i farn unrhyw berson sydd mewn gofal iechyd.
"Dwi'm yn meddwl bod neb sydd wedi ymuno â'r swydd isio gweld unrhyw fath o ofal gwael ond yn anffodus dyna'r realiti mae pobl yn ei deimlo yn yr NHS."
Ychwanegodd: "Mae pobl yn rhwystredig iawn bo' nhw ddim yn gallu rhoi y lefel o ofal i gleifion maen nhw isio ei roi.
"Mae'n angenrheidiol tynnu sylw at y ffaith na ellith petha' fynd yn eu blaen fel hyn dim mwy.
"I fod yn onest dyw'r lefel o staffio ar ddiwrnodau streic ddim yn llawer gwahanol i ddiwrnod arferol - dyna realiti petha' ar hyn o bryd.
"Realiti gofal iechyd ar hyn o bryd yw bod 'na ddim digon o staff. Dydy pobl ddim yn cael y gofal maen nhw ei angen."
'Rhaid cael cyflog teg'
Wrth gyfeirio at ymateb y llywodraeth dywedodd Ms Serw ei bod yn deall "nad oes ganddyn nhw arian ond bod rhaid iddyn nhw flaenoriaethu".
"Er mwyn sicrhau fod mwy yn dod i nyrsio rhaid cael cyflog teg - dydy'r staff levels yn bell o fod yn iawn.
"Yn naturiol dyw pobl ddim yn mynd i aros yn y swydd os nad ydyn nhw'n cael cyflog teg."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n deall cryfder teimladau nyrsys sydd wedi eu harwain i weithredu'n ddiwydiannol a'r pwysau sydd ar bob gweithiwr sector cyhoeddus oherwydd yr argyfwng costau byw.
"Byddwn yn parhau i weithio i ddod ag undebau llafur, cyflogwyr a'r llywodraeth ynghyd i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i weithwyr, wrth barhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio'r cyllid sydd ganddyn nhw i ddarparu cynnig cyflog teg i staff y gwasanaeth iechyd er mwyn ein galluogi i ni wneud yr un peth yng Nghymru.
"Tra bod gweithredu diwydiannol wedi'i gynllunio, byddwn yn parhau i weithio gyda'r gwasanaeth iechyd, undebau a phartneriaid i sicrhau diogelwch cleifion."
Gwasanaeth eisoes dan bwysau
Mae'r gweithredu'n digwydd ar adeg pan fo'r gwasanaeth eisoes o dan bwysau eithriadol, gyda bwrdd iechyd y gogledd ddydd Llun yn cyhoeddi "digwyddiad difrifol" oherwydd y straen.
Dyw nyrsys ddim yn streicio yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan gan na chyrhaeddodd y nifer a oedd o blaid streicio y trothwy cyfreithiol o 50%.
Mae gan RCN Cymru dros 17,000 o aelodau sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd - ond nid pob un fydd yn dewis streicio.
Yng Nghymru, mae nyrsys sydd newydd gymhwyso yn dechrau ar fand 5 ac yn derbyn cyflog o £27,055 y flwyddyn, sy'n cynyddu i £32,934 ar ôl pedair blynedd.
Dyna'r cyflog uchaf y gallan nhw ei dderbyn heb wneud cais am swydd newydd mewn band uwch.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2022