'Mwy o gyflog i nyrsys yn golygu llai o driniaethau'
- Cyhoeddwyd
Gallai Llywodraeth Cymru fod wedi codi trethi neu ailgyfeirio arian o fewn eu cyllideb er mwyn cynyddu cyflogau nyrsys, medd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Ond ar raglen Politics Wales ddydd Sul mae'n dadlau y byddai hynny wedi "golygu llai o driniaethau, llai o nyrsys, llai o arian i'r Gwasanaeth Iechyd".
Fe wnaeth nyrsys ledled Cymru gynnal eu streic gyntaf dros gyflog ddydd Iau, ac mae un arall wedi'i threfnu ar gyfer dydd Mawrth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog o rhwng 4% a 5.5% i staff y Gwasanaeth Iechyd ond mae nyrsys yn gofyn am gynnydd o 19%.
Bu nyrsys yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd yn cynnal streiciau ddydd Iau.
Ond mae streic wedi ei hosgoi hyd yma yn Yr Alban yn dilyn cynnig cyflog gwell gan y llywodraeth yno.
Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi dweud bod y cynnig cyflog i nyrsys yn briodol ac yn deg.
Daw'r mwyafrif helaeth o gyllideb Llywodraeth Cymru o Drysorlys Llywodraeth y DU, gyda phenderfyniadau gwariant mewn meysydd fel y GIG ac addysg yn Lloegr yn effeithio'n uniongyrchol ar faint o arian sy'n cael ei drosglwyddo i Gymru.
Wrth siarad â'r BBC dywedodd Mr Drakeford: "Yn syml, y gwir yw bod faint o arian rydyn ni'n ei gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a chyflogau yng Nghymru yn ganlyniad i'r penderfyniadau y mae gweinidogion Lloegr yn eu gwneud ar gyfer Lloegr.
"Dyna'n union fel mae'r system yn gweithio," ychwanegodd.
'Deall y rhwystredigaeth'
Gofynnwyd iddo a oedd ei lywodraeth yn ymwrthod â chyfrifoldeb dros gyflogau gweithwyr sector cyhoeddus Cymru drwy ddadlau na allent wneud cynnig gwell heb arian ychwanegol gan San Steffan.
Atebodd Mr Drakeford: "Rwy'n credu mai dim ond am y penderfyniadau sydd yn wirioneddol yn ein dwylo ni y gallwn ni fod yn atebol ac y dylem ni gael ein dal i gyfrif.
"Fe allen ni fod wedi tynnu £120m allan o'r arian oedd ar gael i redeg y Gwasanaeth Iechyd ac i dalu'r arian hwnnw i nyrsys yn lle.
"Byddai hynny wedi golygu llai o driniaethau, llai o nyrsys, llai o arian i'r Gwasanaeth Iechyd ei hun.
"Nawr, fe allech chi ddweud y dylen ni fod wedi gwneud hynny. Fe wnaethon ni ddewis peidio, rydyn ni'n atebol am y penderfyniad hwnnw.
"Fe allen ni fod wedi codi trethi, fe wnaethon ni ddewis peidio â gwneud hynny," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: "Mae'n dda bod y Prif Weinidog wedi cyfaddef o'r diwedd bod e a'i gydweithwyr Llafur wedi gwneud dewis gwleidyddol trwy beidio rhoi codiad cyflog i nyrsys, ond mae dal angen canfod datrysiad i'r streic yma fel y gallai cleifion gael gofal iechyd diogel."
Mae'r prif weinidog wedi dweud o'r blaen y dylai gweithwyr y sector cyhoeddus dderbyn cyflogau sydd "o leiaf yn cyfateb i chwyddiant".
Dywedodd Mr Drakeford wrth Politics Wales ei fod yn deall yn iawn pam bod "gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru mor rhwystredig".
Un o brif ymrwymiadau maniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiad Senedd 2021 oedd talu cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol.
Mae'r cyflog byw go iawn yn cael ei osod gan elusen y Living Wage Foundation ac mae'n uwch na'r isafswm cyflog cyfreithiol, gan adlewyrchu'r hyn y mae'r elusen yn credu y mae angen i bobl ei ennill i gwrdd ag anghenion bob dydd.
Cynyddodd y tâl i £10.90 yr awr ym mis Medi ond ar hyn o bryd dyw Llywodraeth Cymru ond yn talu'r hen gyfradd sef £9.90 yr awr.
Yn ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2022/2023, dywedodd Llywodraeth Cymru efallai na fyddai rhai gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael y cyflog byw go iawn newydd tan fis Mehefin nesaf.
Dywedodd Mr Drakeford: "Mae hynny oherwydd ei fod yn fyd cymhleth iawn.
"Bydd awdurdodau lleol ac elusennau mawr yn gallu ei dalu'n gynt o lawer na hynny ond pan fod gennych chi gannoedd o gyflogwyr, y bydd llawer ohonyn nhw efallai'n rhedeg un neu ddau o gartrefi gofal, mae'n cymryd mwy o amser i'r arian eu cyrraedd nhw i allu talu eu gweithwyr."
Datganoli cyfiawnder troseddol?
Mae Llafur Cymru wedi dadlau ers tro y dylai pwerau dros blismona a'r system gyfiawnder gael eu trosglwyddo o San Steffan i Gaerdydd.
Ond dim ond argymell y dylai cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf gael eu datganoli wnaeth adroddiad newydd ar sut y gallai Prydain edrych o dan lywodraeth Lafur yn San Steffan.
Hefyd, fe ddywedodd Dirprwy Arweinydd Llafur Cymru, Carolyn Harris AS, wrth ITV Cymru: "Mae yna rai pethau hoffwn i aros yn San Steffan, gyda phlismona yn un ohonyn nhw."
Wrth ymateb i sylwadau ei ddirprwy, dywedodd y prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru: "Mae wastad gan bobl yn y blaid eu barn unigol.
"Polisi'r blaid yw y dylai cyfiawnder troseddol gael ei ddatganoli.
"Cadarnhawyd yr egwyddor sylfaenol honno yn adroddiad Gordon Brown.
"Sut ydych chi'n mynd ati? Wel, rydw i'n gyfforddus ynglŷn â'r syniad eich bod chi'n dechrau gyda'r pethau sydd agosaf at y cyfrifoldebau sydd gennych eisoes.
"Rydych chi'n gwneud llwyddiant o'r rheiny ac yna rydych chi'n symud ymlaen i ran nesaf y system.
"Dydw i erioed wedi credu y byddai datganoli cyfiawnder troseddol yn gyfan gwbl ar yr un pryd yn gynnig ymarferol i Gymru.
"Ond os gallwn gael cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn nwylo'r Senedd... yna rwy'n credu y bydd plismona ac agweddau eraill yn dilyn," ychwanegodd.
Gallwch wylio'r cyfweliad yn llawn ar BBC Politics Wales ar BBC One Wales am 10:05 ddydd Sul 18 Rhagfyr, ac ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022