Lefelau ffliw a Covid 'yn parhau ar lefelau uchel iawn'
- Cyhoeddwyd
Dylai pobl barhau i geisio osgoi dal clefydau fel y ffliw a Covid wrth i'r wybodaeth ddiweddaraf ddangos eu bod ar gynnydd, meddai Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Yn ôl y data, fe gododd niferoedd achosion o'r ddau gyflwr a feirysau resbiradol eraill dros wyliau'r Nadolig ac maen nhw'n "parhau ar lefelau uchel iawn".
Fe gynyddodd cyfraddau Covid-19 yng Nghymru o 1.89% i 5.7%, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Covid 'heb ddiflannu'
Mae'r Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton yn rhybuddio bod hi'n "bwysig i gofio nad ydy Covid-19 wedi diflannu" a bod lefelau uchel cyflyrau resbiradol yn y gymuned yn rhoi "baich sylweddol ar ein system iechyd a gofal".
Ychwanegodd bod angen i'r cyhoedd barhau i geisio osgoi dal y ffliw a Covid "i gadw Cymru'n ddiogel a lleihau pwysau ar y GIG" gan fod "gyda ni ddim imiwnedd llawn i'r naill feirws na'r llall".
Mae'n erfyn ar bobl i aros adref os oes ganddyn nhw symptomau annwyd, ffliw neu Covid, osgoi canolfannau iechyd a gofal, golchi dwylo'n gyson a gwisgo mwgwd os oes rhaid mynd allan.
Mae hefyd yn apelio eto ar bobl sydd yn y categorïau cymwys i dderbyn y cynnig o frechiad rhag y ddau feirws.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2023