'Cadwch blant o'r ysgol neu'r feithrinfa os ydyn nhw'n sâl'

  • Cyhoeddwyd
Merch fach sâlFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae arbenigwyr iechyd yn apelio ar rieni i gadw eu plant o'r ysgol neu'r feithrinfa os ydyn nhw'n sâl mewn ymgais i leihau achosion o afiechydon y gaeaf.

Daw'r cyngor ar drothwy'r tymor newydd ac wrth i staff y GIG orfod ymdopi â phwysau mwy na'r arfer mewn cyfnod sydd fel arfer yn brysur iawn bob blwyddyn.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) mae cadw plant sâl adref yn bwysig o ran osgoi lledaenu cyflyrau fel ffliw a Covid-19 sy'n "lledaenu ar lefelau uchel ar hyn o bryd".

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd mewn achosion o'r dwymyn goch.

Maen nhw'n pwysleisio y "dylai plant sy'n sâl gyda thwymyn aros gartref nes eu bod yn teimlo'n well ac heb dymheredd uchel".

Mae hynny, medd ICC, ymhlith "nifer o gamau syml y gall rhieni eu cymryd i amddiffyn eu plentyn a lleihau lledaeniad salwch y gaeaf pan fydd plant yn dychwelyd i'r ysgol a meithrinfeydd yng Nghymru'r wythnos nesaf".

Apêl i oedolion hefyd

Dywedodd Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ICC: "Mae hefyd yn bwysig atgoffa plant am bwysigrwydd golchi eu dwylo i osgoi lledaenu germau ac i beswch a thisian mewn hancesi papur.

"Dylai oedolion hefyd geisio aros gartref pan fyddant yn sâl. Os oes rhaid iddynt fynd allan pan fyddant yn sâl, mae'n syniad da gwisgo gorchudd wyneb i amddiffyn eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed ICC bod achosion o'r ffliw a Covid-19 ar gynnydd yng Nghymru

Y ffordd orau i bobl amddiffyn eu hunain rhag y ffliw, medd ICC, yw i gael brechiad, os maen nhw'n gymwys i'w gael.

Mae hefyd yn bosib i blant gael brechlyn ffliw am ddim, trwy "chwistrell drwynol syml a diogel".

Mae'r brechlyn ar gael i'r canlynol:

  • Plant oedran cynradd;

  • Disgyblion uwchradd ym mlynyddoedd 7 i 11;

  • Plant oedd yn ddwy neu dair oed ar 31 Awst 2022;

  • Plant chwe mis oed neu drosodd sydd â risg uwch o ffliw am eu bod â chyflwr iechyd hirdymor.