Ffioedd 'syfrdanol' uwch CNC yn corddi undeb ffermwyr
- Cyhoeddwyd
Mae undeb ffermwyr wedi beirniadu cynnydd "syfrdanol" posib i rai ffioedd sy'n cael eu codi gan gorff amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Byddai'r newidiadau, sy'n cael eu hamlinellu mewn ymgynghoriad ddaeth i ben ar y penwythnos, yn gweld rhai ffioedd yn cynyddu 10 gwaith y lefel presennol, tra bod cost trwydded i dynnu dŵr yn mynd 47 gwaith yn uwch - o £135 i £6,327.
Dywedodd NFU Cymru eu bod nhw wedi eu "brawychu" gyda'r cynigion, ar adeg pan mae ffermwyr yn wynebu chwyddiant uchel ar danwydd, bwyd anifeiliaid a gwrtaith.
Ond dywedodd CNC nad oedd y ffioedd presennol "yn adlewyrchu costau llawn darparu'r gwasanaethau hyn".
'Effaith ddifrifol'
Dywedodd Hedd Pugh, cadeirydd bwrdd materion gwledig NFU Cymru, nad oedd hi'n glir sut oedd swyddogion CNC wedi cyfri'r ffioedd newydd.
"Er ein bod ni'n deall bod angen i CNC adfer costau ac na allen nhw sybsideiddio trefniadau talu, bydd ffermwyr wedi eu syfrdanu gyda maint y cynnydd arfaethedig mewn costau, sy'n eithafol ac afresymol i lawer o fusnesau fferm Cymru," meddai.
Os yw'r ffioedd newydd yn dod i rym ym mis Ebrill, bydd gwaredu gwastraff dip defaid i'r tir yn cynnyddu o £402 i £3,728.
Bydd CNC hefyd yn cynyddu'r ffi ar gyfer cyngor ar geisiadau i £125 yr awr.
Mae gan Mr Pugh, sy'n ffermio gwartheg a defaid yn Ninas Mawddwy, eisoes drwydded i wasgaru dip ond mae'n dweud y byddai'r gost i unrhyw un sydd eisiau un newydd, neu newid un presennol, yn "ddychrynllyd".
"Mae pob dim 'dach chi'n prynu ar hyn o bryd i gadw'r fferm wedi mynd i fyny," meddai. "Mae angen bod yn realistig."
Ychwanegodd: "Mae NFU Cymru yn poeni'n fawr y byddai'r cynigion, fel maen nhw'n sefyll, yn cael effaith ddifrifol anfwriadol a gwrthynysig.
"Maen nhw'n gweithio yn erbyn amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru gan gynnwys sero net, economi gylchol, ac iechyd a lles anifeiliaid."
Gallai'r newidiadau arfaethedig effeithio ar fusnesau yn y diwydiant gwastraff ac adeiladu, yn ogystal ag amaeth.
Dywedodd CNC eu bod yn gwerthfawrogi effaith ariannol eu cynigion ar rai busnesau, "yn enwedig o ystyried pwysau costau byw yn ehangach", ond nad oedd y ffioedd presennol "yn adlewyrchu costau llawn darparu'r gwasanaethau hyn".
Cyfiawnhau'r ffioedd
Ychwanegodd Martyn Evans, arweinydd Tîm Rheoleiddio'r Dyfodol yn CNC, mai'r bwriad oedd "creu system decach a mwy tryloyw o ran ffioedd... fydd yn arwain at ddiogelu ein hamgylchedd naturiol yng Nghymru yn fwy effeithiol, a'i wella".
"Y costau arfaethedig sy'n debygol o effeithio ar ffermwyr yw'r ffioedd ar gyfer pobl sy'n magu moch a dofednod yn ddwys; y ffioedd am drwyddedau ar gyfer gwaredu gwastraff dip defaid i'r tir; y ffioedd am drwyddedau tynnu dŵr a'r ffioedd ar gyfer gwaith sicrhau cydymffurfiaeth o ran diogelwch cronfeydd dŵr, yn ogystal â'r ffioedd arfaethedig newydd ar gyfer ceisiadau am weithgareddau a allai niweidio cynefinoedd rhywogaethau gwarchodedig, neu weithgareddau megis trapio, trin neu aflonyddu ar rywogaethau gwarchodedig," meddai Mr Evans.
Yn ôl CNC bydd rhan fwyaf y newidiadau arfaethedig yn ffioedd untro ar gyfer ceisiadau.
Byddai'r rhan fwyaf o drwyddedau presennol ddim yn cael eu heffeithio oni bai bod angen eu newid mewn ryw ffordd, ond byddai rhai ffioedd i'w trosglwyddo nhw draw yn cynyddu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022