'Angen addysg ar sut i ffermio'n fwy cynaliadwy'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy mewn addysgu'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr am ddulliau cynaliadwy o ffermio.
Dyna farn un ffermwr o Sir Ddinbych sydd wedi troi at ddefnyddio technegau sydd yn well i'r amgylchedd ar ei fferm.
Er hyn, pryder rhai yw y gallai dilyn y trywydd hwn olygu nad yw'r diwydiant amaeth yn cynhyrchu digon o fwyd i'r boblogaeth yn y dyfodol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw Gynllun Ffermio Cynaliadwy "i wella effeithlonrwydd ffermydd" a "lleihau'r ddibyniaeth ar fewnbynnau costus".
'Andros o self-sufficient'
Pan etifeddodd Huw Foulkes y fferm deuluol ger Llandyrnog gan ei dad, penderfynodd arbrofi â dulliau newydd o ffermio gan droi at dechnegau mwy naturiol ac ecogyfeillgar.
Oherwydd ei fod yn ffermio yn y modd hwn, meddai Huw Foulkes, mae'n cael ei effeithio llai gan gynnydd costau i bethau fel bwyd anifeiliaid a gwrtaith.
Drwy wneud hyn mae Huw yn dweud nad ydy costau cynnal y fferm, a'r cynnydd mewn prisiau i bethau fel bwyd anifeiliaid a gwrtaith, yn cael cymaint o effaith arno ef o'i gymharu â gweddill y diwydiant.
"'Dan ni'n trïo ffarmio mewn ffordd sy'n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dwi 'di creu system lle 'dan ni ddim yn gorfod dibynnu ar brynu lot o bethau i mewn.
"'Dan ni'n andros o self-sufficient gan bod ni 'mond yn bwydo'r gwartheg ar borfa, 'sgena ni ddim y costau o brynu pethau i mewn.
"Hefo pris bwyd a fertilizers a phethe yn mynd fyny, 'dan ni ddim wedi cal yr hit yne gan bod ni ddim yn dibynnu arnyn nhw i fwydo'n stoc ni."
Gyda'r gobaith o leddfu'r effethiau ariannol ar ffermwyr y dyfodol, mae Huw yn credu bod angen codi ymwybyddiaeth am y dulliau yma o ffermio.
Ychwanegodd y byddai hynny'n annog y genhedlaeth nesaf o amaethwyr i ddilyn trywydd mwy cynaliadwy.
"Fyse'r llywodraeth yn gallu neud mwy i helpu ffermwyr wybod be' i 'neud," meddai.
"Ar y funud dwi'm yn meddwl bod 'na lot o help allan yne i ddysgu ffermwyr am wahanol mathau o ddulliau ffermio.
"Maen nhw'n taflu pres i wneud pethe i wella'r amgylchedd, ond does 'na ddim lot o help i ddysgu chi sut i 'neud o."
Ond nid pawb sydd â'r amser a'r cyfleusterau i arbrofi gyda dulliau newydd o ffermio, medd rhai, ac oherwydd y costau cynyddol sy'n taro'r diwydiant, mae ffermwyr a'u teuluoedd yn wynebu cyfnod pryderus.
Er y buddion amgylcheddol sydd yn dod gyda'r math yma o ffermio, mae rhai yn poeni nad yw ffermio gan ddefnyddio'r technegau hyn yn mynd i gynhyrchu digon o fwyd.
Efallai nad troi at ddulliau fel hyn yw'r ateb mwyaf addas i geisio arbed arian yn y diwydiant felly yn ôl Llywydd NFU Cymru, Aled Jones.
"Os ydan ni yn ymateb drwy brynu llai o wrtaith a bwydydd anifeiliaid, beth mae'n mynd i arwain ato ydi lleihau gallu'r diwydiant i barhau i gynhyrchu bwyd ar y lefel 'dan ni wedi bod yn gwneud ers rhai blynyddoedd," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai eu nod yw gweld "sector amaeth cynaliadwy" yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ychwanegodd bod cynigion eu Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi eu cynllunio "i wella effeithlonrwydd ffermydd" a "lleihau'r ddibyniaeth ar fewnbynnau costus".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2022
- Cyhoeddwyd2 Medi 2022
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2022