'Dim codiad cyflog i nyrsys heb fwy o arian San Steffan'
- Cyhoeddwyd
Mae Mark Drakeford wedi dweud na all Llywodraeth Cymru gynnig mwy o godiad cyflog i weithwyr iechyd oni bai bod Llywodraeth y DU yn rhoi mwy o arian iddyn nhw.
Yn ei gynhadledd i'r wasg gyntaf eleni, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn teimlo chwaith fod y gwasanaeth iechyd "mewn argyfwng di-ddiwedd fel mae rhai pobl yn ei awgrymu".
Ond fe ymddiheurodd Mr Drakeford i staff a chleifion am y trafferthion maen nhw wedi eu hwynebu dros y gaeaf, gan ddweud y byddai'n "hoffi petai pethau yn well i bobl".
Daw hynny wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gynnig taliad untro i weithwyr iechyd er mwyn ceisio dod â'r cyfnod diweddar o streicio i ben.
Mewn cyfweliad ddydd Llun, dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ei bod yn gobeithio y byddai'r taliad, "fydd ddim yn ddinod", yn gwneud gwahaniaeth yn yr anghydfod.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog o rhwng 4% a 5.5% i staff yn y gwasanaeth iechyd, ond mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn gofyn am 19% o gynnydd.
Llywodraeth y DU 'yn ymosod ar hawliau gweithwyr'
Wrth ddiolch i staff iechyd am eu gwaith, dywedodd y Prif Weinidog fod y galw ar y gwasanaeth iechyd dros y Nadolig wedi bod "yn uwch nag erioed".
"27 Rhagfyr oedd y diwrnod prysuraf mae'r GIG erioed wedi ei wynebu yn ei hanes mae'n debyg," meddai.
Dywedodd Mr Drakeford y byddai'n cyfarfod ag undebau iechyd nes ymlaen yr wythnos hon, a bod gan Lywodraeth Cymru dri chynnig ar eu cyfer er mwyn ceisio dod â'r anghydfod i ben.
Bydd yr undebau yn cael cynnig taliad untro ar gyfer staff iechyd, cynllun ar gyfer lles staff a gwario llai ar asiantaethau, a chynllun i adfer hyder yn y broses adolygu cyflogau.
Ond gwrthododd y Prif Weinidog ddatgelu faint oedd gwerth y taliad untro mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ei gynnig.
"Allai ddim rhoi mwy o fanylion am y ffigyrau tu ôl i'r llythyr [gan y Gweinidog Iechyd] achos mae jyst yn barchus i gadw'r manylion yna nes bod ni wedi cael cyfle i eistedd lawr gyda'r undebau gyntaf," meddai.
Mynnodd fod y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a gweithwyr yng Nghymru "yn wahanol iawn i'r ymosodiadau cyson ar hawliau gweithwyr o San Steffan".
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth allai gyfyngu ar hawliau rhai gweithwyr i fynd ar streic.
Ond dywedodd Mr Drakeford y byddai deddf o'r fath yn "gyfyngedig ac yn mynd â ni 'nôl", yn ogystal â bod yn "her i'r setliad datganoli" hefyd.
"Rydyn ni'n gwybod fod y penderfyniad i fynd at streic ddim yn un sy'n cael ei gymryd yn ysgafn," meddai.
'System dal yn gweithio'
Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru nad oedd yn ymwybodol o gynlluniau Llywodraeth y DU i gynnig taliad untro i staff iechyd yn Lloegr hefyd, nes iddo glywed am hynny ddydd Llun.
Ac er iddo fynnu ei fod yn teimlo bod gweithwyr iechyd yn "haeddu cael eu gwobrwyo'n deg am y gwaith maen nhw'n ei wneud", mae faint o godiad cyflog all Llywodraeth Cymru ei gynnig iddyn nhw "wedi'i gysylltu gyda beth sy'n cael ei roi yn Lloegr".
"Os mae arian newydd yn dod i helpu'r problemau yn Lloegr, mae'r system yn glir - bydd hwnna'n arwain at arian ychwanegol i ni yng Nghymru," meddai.
"Ond yn anffodus ni weithiau wedi dod i arfer gweld y Trysorlys yn trio osgoi rhoi arian ac osgoi'r fformiwla [Barnett].
"Bydd rhaid i ni gadw llygad ar beth sy'n digwydd yn Lloegr, ac os mae arian newydd ar y bwrdd, a hwnna'n dod gydag arian newydd i ni... bydd yr arian i gyd yn mynd tuag at yr un peth yma yng Nghymru."
Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn ymddiheuro unwaith eto i staff a chleifion am y trafferthion maen nhw wedi eu hwynebu dros y gaeaf, ond nad oedd y gwasanaeth iechyd "mewn argyfwng di-ddiwedd fel mae rhai pobl yn ei awgrymu".
"Bydden i'n hoffi petai pethau yn well i bobl," meddai. "Ond mae'r system yn llwyddo i weld cannoedd ar filoedd o bobl bob mis, a gwneud hynny'n llwyddiannus."
Cyllideb heriol
Wrth ymateb i sylwadau'r Prif Weinidog dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AS ei fod yn "falch" o glywed ymddiheuriad gan Mr Drakeford am gyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
"Ar ddiwedd y dydd, mae cydnabyddiaeth hir-ddisgwyliedig fod penderfyniadau dros gyflogau GIG yn gyfrifoldeb i weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd," meddai.
"Ddylai hi ddim fod wedi cymryd mor hir â hyn i gyrraedd y pwynt yma gyda nyrsys, gweithwyr ambiwlans a bydwragedd i gyd yn pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol yng Nghymru."
Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds AS na fyddai'r taliad untro i weithwyr iechyd "yn datrys y problemau hir dymor o ran recriwtio a chadw staff yn y GIG".
"Mae'n bwysig cofio fod hyn nid jyst oherwydd pwysau chwyddiant, ond y ffaith bod nyrsys wedi gweld cwymp mewn incwm dros y degawd diwethaf," meddai.
"Mae llawer o nyrsys nawr yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd."
Wrth droi at faterion eraill yn ei gynhadledd i'r wasg, dywedodd Mr Drakeford mai cyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill eleni fyddai'r "un anoddaf ers dechrau datganoli" oherwydd y pwysau ariannol, ac y bydd Llafur yn gweithio gyda phleidiau eraill i ddod i gytundeb.
"Mae economi'r DU mewn dirwasgiad, mae chwyddiant yn parhau i fod mewn ffigyrau dwbl, prisiau bwyd yn codi'n gynt nag unrhyw beth, a phrisiau ynni yn mynd lan eto ym mis Ebrill," meddai.
"Rydyn ni'n gwybod beth mae teuluoedd yn gorfod ei aberthu er mwyn gallu fforddio pethau, ac fe fyddwn ni'n cynnig cymorth wedi ei dargedu pan allwn ni."
Ychwanegodd fod Cymru wedi croesawu ffoaduriaid o sawl rhan o'r byd yn 2022, gan gynnwys Hong Kong, Afghanistan ac Wcráin, ac y byddai hynny'n parhau eleni.
"Rydyn ni'n benderfynol o roi croeso cynnes i bawb sydd wedi dewis i ymgartrefu yng Nghymru," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2022