Ystradfellte: Dod o hyd i gorff ail ddynes
- Cyhoeddwyd

Roedd diffoddwyr tân, timau achub mynydd a phlismyn wedi bod yn chwilio am y ddynes goll
Mae corff ail ddynes a aeth ar goll mewn afon ger Ystradfellte ym Mhowys wedi cael ei ddarganfod.
Fe gafodd y corff ei ganfod yn yr afon yn ardal Glyn-nedd ddydd Sul, medd Heddlu Dyfed-Powys.
Dywed y llu bod teulu agos y ddynes wedi cael gwybod a'u bod yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Maen nhw hefyd wedi "diolch i gydweithwyr achub mynydd, y gwasanaeth tân ac aelodau'r cyhoedd am eu cefnogaeth yn ystod cyrch anodd".
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Rhaeadr Ystradfellte am 11:45 ddydd Mercher ar ôl i gerddwr weld dau berson yn yr afon.
Ddydd Iau fe gadarnhaodd plismyn fod corff un ddynes wedi cael ei dynnu o'r afon, a bod y chwilio'n parhau am ail ddynes.

Bu'r Gwasanaeth Tân, Tîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog, a hofrennydd yr heddlu yn cynorthwyo yn y chwilio.
Fore Gwener dywedodd llefarydd ar ran y tîm achub mynydd eu bod wedi bod yn gweithio'n ddiflino gydol ddydd Mercher a ddydd Iau gyda'r heddlu, swyddogion y Gwasanaeth Tân a wardeiniaid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Ychwanegodd llefarydd bod lefelau uchel o ddŵr, llif cyflym yn yr afon a thywydd gwael yn gwneud y gwaith chwilio yn heriol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2023