Cymru yn ymuno â'r mawrion yng Nghwpan Hoci'r Byd
- Cyhoeddwyd

Gorffennodd Cymru'n chweched yng Ngemau'r Gymanwlad yr haf diwethaf
Mae tîm dynion hoci Cymru wedi creu hanes drwy gystadlu yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf.
Mae camp Cymru hyd yn oed yn fwy nodedig o ystyried bod y garfan yn un rhan-amser, a'u bod wedi gorfod talu rhan o'r gost eu hunain er mwyn cyrraedd y gystadleuaeth .
Mae'r garfan yn gobeithio "ysbrydoli cenhedlaeth newydd o chwaraewyr" wrth wynebu rhai o dimau gorau'r byd yn India.
Ar y maes, colli oedd hanes y tîm yn y gêm agoriadol ddydd Gwener, a hynny o 5-0 yn erbyn Lloegr, sy'n bumed yn y rhestr detholion.
Dros yr wythnos nesaf bydd tîm Cymru yn wynebu Sbaen ac India - sydd hefyd ymysg y cryfaf sy'n cystadlu yn y gamp.

Luke Hawker (chwith) yn dathlu ar ôl rhwydo'n erbyn Canada y llynedd
Yn siarad cyn y gystadleuaeth, dywedodd y cyd-gapten, Luke Hawker, bod y sialens o gystadlu gyda'r mawrion yn un roedden nhw'n edrych ymlaen ati.
"Mae'n fwy nag unrhyw beth yr ydym erioed wedi'i brofi - i unrhyw un yn y garfan, gan gynnwys y staff," meddai.
"Mae hoci yn hobi i'r mwyafrif ohonom ni - dyna rydyn ni'n ei wneud yn ein hamser hamdden, gyda'r nos ac ar benwythnosau.
"I fod yn mynd i Gwpan y Byd a chwarae a pherfformio ar y llwyfan hwnnw, mae'n foment pinsio'ch hun a dweud y gwir."
'Cymru ar lefel fyd-eang'
Llai na degawd yn ôl roedd Cymru'n cystadlu yn nhrydedd haen Hoci Ewrop.
O ganlyniad, dywedodd aelod arall o'r garfan bod cyrraedd India ynddo'i hun yn "dipyn o gamp".

Mae Rupert Shipperley eisoes wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd
"Roedd [chwarae i'r DU yn y Gemau Olympaidd yn] Tokyo yn enfawr ond mae Cwpan y Byd gyda Chymru, gyda'r grŵp yma o chwaraewyr rydyn ni wedi'i gael am y saith i wyth mlynedd ddiwethaf, yn rhywbeth arbennig iawn," meddai Rupert Shipperley.
"Mae'n rhoi Hoci Cymru ar lefel fyd-eang ac yn rhoi gwybod iddyn nhw ein bod ni yma i aros."
'Gyda'i gilydd ers amser maith'
Cymhwysodd Cymru ar gyfer India 2023 yn dilyn buddugoliaeth dros Iwerddon yng Nghaerdydd yn Hydref 2021.
"Roedd yn gyfnod digon tywyll i ni," dywedodd y prif hyfforddwr Danny Newcombe.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Ond fe roddodd gyfle i ni ailosod y grŵp ac ailosod yr hyn roedden ni'n ei wneud - ac yna mynd ar yr antur a'r siwrnai anhygoel hon gyda'r grŵp anhygoel yma.
"Mae gennym ni grŵp da o chwaraewyr - grŵp da o bobl. Rydyn ni wedi glynu gyda'n gilydd ac wedi gwella.
"Felly mae'r cryfder yn y dysgu ar y cyd y mae'r grŵp wedi'i wneud dros chwech neu saith mlynedd.
"Mae craidd y grŵp wedi bod gyda'i gilydd ers amser maith bellach."
Gemau Cymru
Dydd Gwener, 13 Ionawr: Lloegr 5-0 Cymru
Dydd Sul, 15 Ionawr: Sbaen v Cymru
Dydd Iau, 19 Ionawr: India v Cymru
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2022