5 peth i wylio ym myd chwaraeon yn 2023

  • Cyhoeddwyd
Warren GatlandFfynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Mae Warren Gatland yn ôl gyda Chymru, ond sut hwyl gaiff o yn ei ail gyfnod wrth y llyw?

Roedd 2022 yn flwyddyn i'w chofio i sawl un o Gymru, gyda thîm pêl-droed y dynion yn creu hanes yng Nghwpan y Byd, y balchder o ennill 28 medal yng Ngemau'r Gymanwlad a Merched Cymru'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr ifanc.

Ond bellach mae 2023 ar y gorwel, felly beth sydd i'w ddisgwyl ar y meysydd chwarae?

Gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Owain Llyr, sy'n edrych ymlaen.

Cwpan Rygbi'r Byd

Ers y siom o golli'n erbyn Ffiji yn 2007, mae record Cymru yng Nghwpan y Byd yn un digon parchus.

Maen nhw wedi cyrraedd y rownd gynderfynol ar ddau achlysur yn y dair gystadleuaeth ddiwethaf.

Ond mi oedd 2022 yn flwyddyn i'w hanghofio i'r tîm cenedlaethol - tybed a fydd Warren Gatland yn gallu sbarduno adfywiad yn 2023?

Tydi grŵp Cymru ddim yr un hawsaf - Awstralia, Ffiji, Georgia a Phortiwgal - yn enwedig o gofio eu bod nhw wedi colli'n erbyn Awstralia a Georgia yng Nghyfres yr Hydref.

Ond mae 'na ddigon o brofiad a thalent yn y garfan i fynd ar rediad da arall eleni.

Tymor Cynghrair Genedlaethol Lloegr

Ffynhonnell y llun, NurPhoto
Disgrifiad o’r llun,

Ai hon fydd y flwyddyn i Paul Mullin a Wrecsam?

Ar ôl colli yn y gemau ail-gyfle y tymor diwethaf, does bosib mai 2023 fydd y flwyddyn lle bydd Wrecsam yn ennill dyrchafiad yn ôl i Gynghrair Bêl-droed Lloegr.

Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi bod yng ngofal y clwb ers bron i ddwy flynedd bellach, a charfan y Dreigiau ydy'r un gryfaf yn y gynghrair.

Mae'n ymddangos ei bod hi'n frwydr rhwng Wrecsam, Notts County a Chesterfield i orffen ar y brig, ond gyda Paul Mullin, Ollie Palmer ac Elliot Lee yn y llinell flaen i Wrecsam, 'sa chi'n disgwyl i dîm Phil Parkinson fod yn rhy gryf i'r gweddill.

Cwpan Hoci'r Byd (dynion)

Mae Cymru wedi cyrraedd y rowndiau terfynol am y tro cyntaf yn eu hanes, sy'n dipyn o gamp gan gofio eu bod nhw'n un o'r timau gwaethaf yn Ewrop yn ôl yn 2015.

Tydi'r chwaraewyr ddim yn rhai proffesiynol chwaith, gyda nifer ohonyn nhw gyda gyrfaoedd llawn amser neu'n astudio mewn coleg neu brifysgol.

Mi fydd Cymru yn yr un grŵp a Lloegr, Sbaen ac India - sef y wlad sy'n cynnal y gystadleuaeth.

Mae hi am fod yn dipyn o her, ond beth bynnag fydd yn digwydd maen nhw'n haeddu lot fawr o glod am yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni hyd yn hyn.

Cwpan Pêl-rwyd y Byd

Ar ôl y siom o beidio â chyrraedd y rowndiau terfynol yn 2019, fe lwyddodd Cymru i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd 2023 mewn steil drwy ennill pob un o'u pum gêm yn y rowndiau rhagbrofol.

Ffynhonnell y llun, Elsa/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl ymgyrch ragbrofol heb golli gêm, a fydd Cymru'n gallu creu sioc yn Ne Affrica?

Mi fydden nhw yn yr un grŵp â Sri Lanka, Jamaica a De Affrica - sy'n cynnal y gystadleuaeth.

Mi orffennodd Cymru yn yr wythfed safle yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham ar ôl ennill eu gemau yn erbyn Yr Alban a Barbados, ac mi fydden nhw'n teithio i Cape Town yn gobeithio gallu creu ambell i sioc.

Giro d'Italia

Mae Geraint Thomas wedi cadarnhau y bydd o'n cystadlu yn y Giro ym mis Mai.

Tydi'r Cymro heb gael ryw lawer o lwc yn y ras hon yn y gorffennol.

Ffynhonnell y llun, LUCA BETTINI
Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r Giro d'Italia heb fod yn ras i'w chofio i Geraint Thomas yn ei yrfa hyd yn hyn

Yn 2020 mi oedd yn rhaid iddo roi'r gorau iddi ar ôl y trydydd cymal ar ôl anafu ei glun mewn damwain. Ac yn 2017 yr un oedd y stori ar ôl iddo anafu ei ysgwydd ar ôl disgyn oddi ar ei feic.

Mae'r ffaith y bydd o'n targedu'r Giro yn golygu ei bod hi'n annhebygol iawn y bydd o wedyn yn cymryd rhan yn y Tour de France ym mis Gorffennaf.