Y Fari Lwyd a Hen Galan 1974

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mari Lwyd Llangynwyd 1974

Yr arferiad y dyddiau hyn yw dymuno blwyddyn newydd dda i bobl ar Ionawr y 1af. Ond mae'r cyfarchion yn parhau mewn sawl ardal o Gymru a hynny i ddathlu'r hen galan.

Y Calan newydd yw 1 Ionawr, a'r Hen Galan yw 13 Ionawr, sydd dal yn cael ei ddathlu ers dyfodiad y calendr Gregori yn 1752.

Roedd dydd Calan yn ddiwrnod pwysig iawn yng nghalendr y Cymry ers talwm gyda phobl yn mynd o gwmpas tai'r ardal yn canu neu adrodd rhigwm er mwyn hel calennig, sef arian neu rodd.

Mae'r newid yn y calendr hefyd yn egluro pam fod cyfarfodydd canu plygain yn dal i gael eu cynnal mewn rhai rhannau o Gymru yn y flwyddyn newydd gan eu bod yn draddodiadol yn digwydd yn y cyfnod rhwng y Nadolig a'r hen Galan, 13 Ionawr.

Elfen arall o ddathlu'r Hen Galan oedd y Fari Lwyd, sef penglog ceffyl wedi'i orchuddio â defnydd a rhubanau.

Roedd y penglog yn cael ei roi ar bolyn ac roedd person wedi ei orchuddio efo lliain yn agor a chau'r geg.

Chwedlau Celtaidd

Byddai'r Fari Lwyd yn cael ei thywys o gwmpas tai'r ardal a'r dafarn leol a phenillion hwyliog yn cael eu canu'n gofyn am wahoddiad i ddod i mewn. Byddai perchennog y tŷ yn ateb her y penillion cyn penderfynu rhoi mynediad neu beidio. Roedd yn anlwcus gwrthod mynediad i'r Fari Lwyd.

Yn y tŷ wedyn byddai'r grŵp yn diddanu'r teulu ac yn derbyn bwyd a diod yn gyfnewid am eu gadael i mewn.

Mae'n debyg bod gwreiddiau'r Fari, sy'n gyffredin i wledydd eraill hefyd, mewn arferion hynafol o'r cyfnod cyn-Gristnogol ac yn ôl rhai, yn adlewyrchiad o ba mor werthfawr oedd ceffylau i bobl.

Mae'n bosib fod cysylltiad gyda chwedlau Celtaidd hefyd fel stori Rhiannon yn y Mabinogi.

Mae pentref Llangynwyd yng Nghwm Llynfi yn cael ei gysylltu'n arbennig â'r Fari Lwyd.

Dyma rai o drigolion Llangynwyd a'u dathliadau nhw nôl yn 1974.

Hefyd o ddiddordeb: