Dysgu am fywyd a cholled ar ôl marwolaeth gwraig a mam
- Cyhoeddwyd
Ym mis Medi 2022 fe gollodd Geraint John ei wraig a mam ei dri phlentyn i ganser y pancreas.
Ar ddiwrnod marwolaeth Deb, oedd yn 43, fe ddaeth Geraint yn rhiant sengl i'w blant oedd yn galaru, tra roedd o hefyd yn byw gyda'i alar llethol ei hun.
Mae wedi dewis rhannu ei stori er mwyn helpu eraill sy'n mynd drwy'r un boen, neu yn paratoi ar gyfer marwolaeth partner.
Mae ganddo gyngor hefyd i unrhyw un sy'n cefnogi person sydd mewn galar.
Fe newidiodd bywyd Geraint, 41 oed, dros nos pan gafodd Deb ddiagnosis o ganser y pancreas cam 2 ym mis Mawrth 2021.
"Mae ganddoch chi'r pwysau enfawr yma ar eich ysgwyddau... rydych chi'n galaru am y bywyd oedd ganddoch chi'n flaenorol, ac rydych chi'n galaru am yr hyn sydd i ddod, rydych chi'n gwybod beth allai ddod ac yn ei ofni," meddai.
"Pan mae yn digwydd rydych chi'n teimlo'n hollol swrth a di-egni a dyna lle rydw i ar hyn o bryd."
Fe wnaeth Geraint gyfarfod Deb mewn gig yn 2005, a thri mis yn ddiweddarach fe wnaeth hi roi'r gorau i'w swydd yn Nottingham a symud i fyw gyda Geraint yng Nghaerdydd, gan briodi y flwyddyn ganlynol.
Fe gawson nhw dri o blant sydd bellach yn 14, 12 ac wyth oed, ac fe symudon nhw i Lundain.
"Doedd dim posib ein gwahanu ni," meddai Geraint.
"Rhan fawr o'n bywyd oedd cael hwyl a mynd allan i fwytai a mwynhau ein hunain.
"Roedd hi wedi ymroi yn llwyr i'r plant ac yn ysbrydoliaeth iddyn nhw."
Pan gafodd Deb, oedd yn was sifil, y diagnosis am y tro cyntaf, doedden nhw ddim yn gwybod fawr ddim am ganser y pancreas meddai Geraint, ac felly roedden nhw'n teimlo'n ffyddiog iawn.
Canser y pancreas sydd â'r lefel isaf o ran goroesi o'r holl ganserau cyffredin, gyda llai na 7% yn goroesi dros bum mlynedd, yn ôl Pancreatic Cancer Action.
Torri'r newyddion i'r plant
Fe gafodd Deb driniaeth fawr i dynnu'r organau y gallai'r canser ledaenu iddyn nhw, yna cemotherapi am fisoedd wedi hynny, ond ar ddiwedd Awst 2022 cafodd ei symud i hosbis, a bu farw yno ar 15 Medi.
"Y rhan anoddaf yn amlwg ydy torri'r newyddion i'r plant," meddai Geraint.
Wrth baratoi ar gyfer hynny roedd wedi siarad gyda seicolegwyr a gwneud nodiadau.
"Mae'n rhaid i chi fod yn glir iawn," meddai.
"Yn y bôn roedd yn rhaid i fi eistedd i lawr a dweud bod Mam yn mynd i farw, nad oedd hi'n mynd i ddod drwyddi, ac nad oedd yna unrhyw ansicrwydd ynglŷn â hynny.
"Ac wedyn mae'n rhaid i chi reoli eu disgwyliadau nhw o ran yr amser hefyd."
Roedd yn dorcalonnus meddai, a'r diwrnod y bu farw Deb yn swreal.
"Roedd yn rhaid i fi egluro iddyn nhw bod Mam yn mynd i farw o fewn y diwrnod nesa' a bod angen i ni ffarwelio," meddai.
"Mae'n eithaf rhyfedd bod yn y sefyllfa yna, mae'n rhaid bod yn gryf a chofio dy rôl - maen nhw'n edrych i fyny atat ti ac yn gwrando ar bob gair ac mae dy feddwl yn gorweithio.
"Ac yna'n sydyn mae hi wedi mynd."
Roedd dychwelyd adref a gweld ei phethau hi - cotiau, esgidiau, sbectol o amgylch y tŷ yn foment swreal arall, meddai Geraint.
Fe wnaethon nhw ddianc i fwyty ac eistedd mewn tawelwch.
Sut mae hyd yn oed dechrau cefnogi tri o blant sydd newydd golli eu mam tra'n delio a'ch galar eich hun? A hynny tra'n sydyn yn gorfod bod yn gyfrifol am bopeth, o'r siopa bwyd i'r calendr teuluol.
"Y peth i fi yw bod y tŷ yn llawn o gariad, peidio bod yn rhy llym, peidio rhoi pwysau ar unrhyw un, anghofio am drefn arferol, a siarad am Deb drwy'r amser," meddai Geraint.
'Does dim llawer sy'n helpu'
Cyn i Deb farw roedden nhw wedi siarad am ei dymuniadau ar gyfer ei hangladd, ond ddim wedi siarad am sut y gallai bywyd fod ar ôl iddi fynd.
"Mae'n bosib y galle ni fod wedi siarad ychydig mwy am yr ochr ymarferol ohono i ar fy mhen fy hun yn rhedeg y cartref... ond roeddwn i eisiau bod yn bositif a theimlo fel y bydde hi yn dod drwyddi."
Mae Geraint a'r plant wedi bod ar wyliau ambell waith gan mai dyna lle mae'n eu gweld yn hapus, meddai.
Wnaeth y teulu ddim gosod coeden Nadolig y tro yma na chyfnewid anrhegion - yn hytrach fe aethon nhw ar wyliau i Antigua.
O ran gofalu amdano ei hun, mae Geraint yn dweud iddo ddarganfod bod bocsio yn ffordd dda o leddfu'r tyndra, ac mae'n hoffi mynd i redeg a cherdded.
Roedd Cwpan Pêl-droed y Byd yn ddiweddar wedi helpu i dynnu ei feddwl oddi ar y sefyllfa.
Roedd gweld seicolegydd yn y flwyddyn cyn i Deb farw hefyd wedi bod yn fuddiol ac wedi helpu i reoli ei ddisgwyliadau o'r hyn oedd i ddod.
"Ond dwi ddim yn mynd i gelu'r ffaith ei fod yn gyfnod heriol iawn, iawn, a'r realiti ydy nad oes yna lawer sy'n helpu," meddai.
"Mae'n rhaid i chi fod yn garedig gyda chi eich hun - os nad ydych chi eisiau codi yna peidiwch, os nad ydy'r plant eisiau mynd i'r ysgol yna does dim rhaid iddyn nhw fynd i'r ysgol."
Rhywbeth arall sy'n anodd ydy ymateb pobl eraill.
"Mae pobl yn ei chael hi'n anodd iawn i siarad - rydych chi'n ei godi a dydy pobl ddim yn gwybod sut i ymateb," meddai.
"Dyw rhai pobl ddim yn gallu ymdopi, maen nhw yn troi eu cefn arnoch chi."
Weithiau gall pobl ddweud pethau sydd "bron yn embarrassing", meddai Geraint.
"Mae pobl bob amser yn dweud 'o leia dydy hi ddim yn dioddef', mae hwnna'n un bach rhyfedd.
"Yr un arall ydy 'sut wyt ti'n gwneud?'
"Dwi weithiau yn chwerthin yn uchel - 'ydy hwnna'n gwestiwn o ddifri?' Dwi'n ofnadwy i ddweud y gwir gan fod Deb wedi marw, mae gen i dri o blant, dwi ar fy mhen fy hun, mae'n ddigalon. 'Sut wyt ti'n gwneud?'."
Ar yr adegau yma mae'n aml yn canfod ei hun yn siarad gyda Deb.
"Dwi'n dweud wrthi 'Allai ddim credu dy fod ti wedi fy rhoi i yn y sefyllfa yma', a dwi'n gallu ei theimlo'n chwerthin arna i," meddai, gan chwerthin ei hun.
'Byddwch yno iddyn nhw'
Dywedodd Geraint ei fod yn sylweddoli y gall fod yn anodd gwybod beth ydy'r peth cywir i'w ddweud
"Mae'n rhaid i chi ddweud rhywbeth fel 'Mae'n wir ddrwg gen i am dy golled', gan bod rhywun wir yn gwerthfawrogi hynna," meddai.
"Ac mae'n rhaid i chi roi'r dewis iddyn nhw - os ydyn nhw eisiau siarad amdano neu ddim? A weithiau dwi'n dweud, 'dwi wir ddim eisiau siarad amdano' a weithiau dwi'n dweud 'ydw' a ti'n siarad amdano wedyn."
Mae o hefyd yn cynghori pobl i beidio â gofyn i berson sy'n galaru os ydyn nhw angen cymorth gan y gallen nhw'n barod fod yn cael eu llwytho â chwestiynau.
"Just gwnewch o. Os ydych chi yn mynd i goginio lasagne neu beth bynnag, just dewch â fo draw. Os ydych chi eisiau dod draw a chymryd gofal o'r plant, just dewch draw.
"Peidiwch bod ofn, peidiwch â theimlo na allwch chi wneud hynna. Os ydych chi'n ffrindiau gyda rhywun just byddwch yno iddyn nhw."
Mae Geraint wedi bod yn rhannu ei siwrne ar gyfryngau cymdeithasol, ac yn dweud y byddai'n hawdd i bobl ddarllen rhai o'r pethau mae'n eu rhannu a chymryd ei fod yn gwneud yn iawn.
"Y gwir amdani ydy, fel rydyn ni gyd yn gwybod, dydy cyfryngau cymdeithasol ddim yn adlewyrchiad o sut wyt ti wir yn teimlo ar adegau."
Mae ei negeseuon wedi annog pobl sy'n galaru i gysylltu, yn ogystal ag eraill, gan gynnwys un o bêl-droedwyr Cymru, sydd eisiau cynnig cefnogaeth neu gydymdeimlad.
"Mae'r byd yn lle braf iawn ac mae pobl yn gallu bod yn garedig iawn, a dyna dwi'n ddarganfod nawr," meddai.
Gyda Deb wedi marw mor ddiweddar, mae Geraint yn dweud ei fod o a'r plant angen amser i brosesu digwyddiadau enfawr y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae ei deulu yn dechrau cael cwnsela unigol, ac fe fyddan nhw hefyd yn derbyn y cynnig o gymorth gan yr hosbis a'r ysgol.
Mae Geraint hefyd yn y broses o ddychwelyd i'r gwaith - mae'n rhedeg asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau digidol ac yn gwneud podlediadau - ond dydy hynny ddim yn hawdd.
"Y rhan fwyaf o'r diwrnod dwi just yn ceisio gwneud synnwyr o beth sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf," meddai.
"Sut gall rhywun mor dalentog a phrydferth a mam mor wych, fy ngwraig, gael ei chymryd i ffwrdd - mae'n ymddangos mor annheg.
"Mae'n mynd i gymryd oesoedd i allu prosesu hynna, dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi ei brosesu o mewn gwirionedd."
'Dwi'n ddiolchgar'
Ydy'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi newid y ffordd y mae'n edrych ar fywyd?
"Mae 'na newid mawr wedi bod yn y ffordd dwi'n meddwl," meddai.
"Un peth dwi'n difaru ydy efallai peidio mwynhau'r foment mwy pan oedd Deb yn iach."
Mae'n dweud y byddai'n hoffi pe na bai wedi poeni cymaint am waith, ac ers marwolaeth Deb mae'n dweud nad ydy o ar y cyfan yn poeni am bethau yn y ffordd roedd o'n arfer ei wneud.
Mae'n dweud bod y profiad wedi ei ddysgu i fwynhau pob eiliad, pob moment fel petai yr un olaf, gan y gall fod y diwrnod olaf.
"Mae pobl yn gofyn 'ydw i'n ddig?'," meddai.
"Ond dwi ddim yn teimlo hynny, dwi'n ddiolchgar am yr hyn gawson ni, a dwi'n ddiolchgar am y profiadau. Dwi'n ddiolchgar amdani hi."
Os ydy cynnwys y stori hon wedi eich effeithio,mae cymorth ar gael ar BBC Action Line.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2022
- Cyhoeddwyd10 Medi 2021