Cynnydd sylweddol i incwm ffermwyr yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae incwm ffermydd Cymru wedi cynyddu'n gyson dros y pedair blynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.
Rhwng Mawrth 2021 a Mawrth 2022, fe wnaeth incwm ffermydd gwartheg a defaid ar dir uchel godi 29% - i gyfartaledd o £38,000 - ac i ffermydd ar dir isel roedd cynnydd o 16%.
Ond dyw'r cyfnod hwnnw ddim yn cynnwys effaith y cynnydd mewn prisiau a welwyd i'r diwydiant amaeth ers y rhyfel yn Wcráin.
Ac mae'r ffigyrau incwm iach yn creu darlun camarweiniol, yn ôl un ffermwraig adnabyddus, oherwydd y pwysau ar ffermwyr o ffactorau eraill.
'Ffigyrau camarweiniol'
Dangosodd ffigyrau diwedddaraf Llywodraeth Cymru bod incwm cyfartalog fferm laeth yng Nghymru bellach yn £88,000, gyda chynnydd mewn prisiau llaeth yn ddiweddar wedi helpu hynny.
Roedd hynny'n gynnydd o 46% o'i gymharu gyda'r flwyddyn gynt, gyda ffermydd bîff wedi gweld llai o gynnydd - 16% dros 12 mis.
"Mae fferm bîff a defaid ar lawr gwlad, fi'n credu mai'r ffigwr yw tua £26,500 y flwyddyn," meddai Meinir Howells, ffermio cig eidion ger Llandysul.
"Ond wedyn os wnewch chi edrych ar y llun ehangach, yr oriau ni'n rhoi mewn, mae'n gweithio allan tua £3.50 yr awr.
"Pwy fydde'n fodlon gweithio am £3.50 yr awr y dyddie hyn? Mae'n afresymol."
Ychwanegodd Ms Howells, sydd hefyd yn un o gyflwynwyr rhaglen Ffermio ar S4C, mai dyma un o'r cyfnodau mwyaf ansicr erioed i'r diwydiant, ac mai heriau yn hytrach nag incwm oedd ar flaen meddyliau nifer.
"Dwi'n meddwl mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn shwt ni'n dadansoddi nhw achos realiti'r peth yw mae'r ffigyrau'n gamarweiniol iawn," meddai.
"Mae 'da ni bethau fel TB yn poeni ni, yr NVZs [Parthau Perygl Nitradau], rheolau dŵr newydd, ni'n poeni am beth fydd y Bil Amaeth Cymru, yr SFS [Cynllun Ffermio Cynaliadwy] - lot o bethau sydd yn poeni ffermwyr ar hyn o bryd."
Effaith Wcráin eto i ddod
Tra bod effeithiau'r pandemig yn cael eu hadlewyrchu'n rhannol, dyw cyfnod y rhyfel yn Wcráin ddim yn rhan o ffenest y ffigyrau.
Mae hynny wedi arwain at gynnydd mewn prisiau dros y misoedd diwethaf, ac mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn poeni felly na fydd ffigyrau'r flwyddyn nesaf mor llewyrchus.
"Mae [pris] gwrtaith 'di codi'n arw, mae bwydydd [anifeiliaid] 'di codi, mae ynni - nwy, tanwydd, ac yn y blaen - wedi codi'n aruthrol hefyd," meddai Glyn Roberts.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud iddyn nhw gyhoeddi £227m dros yr haf llynedd i gynorthwyo ffermwyr dros dair blynedd.
Ond er yr heriau cynyddol, mae Meinir Howells yn dweud na fyddai hi eisiau newid dim ar ei bywoliaeth.
"Pan chi'n gweld bywyd newydd yn cyrraedd y lle, mae'n codi'ch calon chi, ac ma' fe'n rhywbeth eitha' arbennig," meddai.
"Ond mae isie help arnon ni nawr gan y llywodraeth, cyn ei bod hi'n rhy hwyr, a chyn bod ni'n colli ffermwyr am byth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2022