'Rhaid gwario' i amddiffyn Cymru rhag tywydd eithafol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Aeth tua modfedd o ddŵr i mewn i Glwb y Bont ym Mhontypridd ddydd Iau

Mae'n rhaid i fuddsoddiad mewn systemau rhwystro llifogydd barhau yng Nghymru er mwyn lleihau'r difrod i gymunedau, yn ôl arweinydd cyngor.

Daw wedi difrod i sawl cymuned yn y de'r wythnos yma, gydag ardaloedd Porth a Phontypridd yn Rhondda Cynon Taf ymhlith y rheiny gafodd eu taro waethaf.

Mae Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a phennaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn dweud bod ymateb i'r tywydd wedi rhoi pwysau ar adnoddau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd llifogydd yn parhau i effeithio ar sawl rhan o Gymru ddydd Sadwrn, gan gynnwys ger Llangunnor yn Nyffryn Tywi

Ychwanegodd bod y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn ystod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn llwyddiannus, ond bod dal lot i'w wneud.

Dywedodd Mr Morgan: "Cafodd dros 20 o gartrefi eu heffeithio gan lifogydd yr wythnos yma, yn anfoddus, gyda ffosydd yn cael eu gorlwytho oherwydd llif y dŵr neu oherwydd debris o'r mynydd.

"Felly, mae'n glir bod dal angen buddsoddiad."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Morgan bod ffosydd, fel yma ger Porth, wedi methu â dygymod gyda'r glaw

Ychwanegodd bod natur barhaol y tywydd eithafol yn golygu bod yn rhaid i gynghorau flaenoriaethu adnoddau.

"Mae newid hinsawdd yn digwydd ac rydyn ni'n gweld mwy o lifogydd yn fwy aml, ond yn enwedig mae cryfder y tywydd yn newid."

Dywedodd Mr Morgan bod y broses o glirio yn "eithaf bach" yr wythnos hon.

"Mae'n siwr y bydd yn y degau o filoedd [o bunnoedd]," meddai.

"Roedd rhaid i ni ailgyfeirio nifer o gontractwyr, a'n gweithwyr ar y ffyrdd, a oedd yn gweithio ar brosiectau eraill fel arfer."

Pan fydd tywydd eithafol, ymateb i'r argyfwng yw'r brif flaenoriaeth i gynghorau, yn ôl Mr Morgan, ond mae hefyd yn dweud bod hynny'n golygu bod llai o arian ar gael ar gyfer gwasanaethau pwysig arall.

Mae tua £14m wedi cael ei wario ar brosiectau isadeiledd yn Rhondda Cynon Taf ers Storm Dennis yn 2020.

Ond yn yr un cyfnod, mae tua £20m wedi ei wario ar drwsio ac atgyweirio yn sgil tywydd eithafol.

Mae'r cyngor yn dweud mai £6.4m o arian ddaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith yn dilyn Storm Dennis.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o geir eu dal mewn dŵr yn Llanbedr-y-fro ym Mro Morgannwg

Mae Mr Morgan yn dweud bod buddsoddi o flaen llaw yn hanfodol er mwyn lleihau costau clirio.

"Dydyn ni ddim eisiau anfon criwiau i lanhau'r difrod. Rydyn ni eisiau gwario mwy o amser ar fesurau ataliol ac uwchraddio.

"Allwn ni ddim parhau i wneud gwelliannau tymor byr."

Angen 'cyllid aruthrol'

Mae Mike Evans o Gyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod stormydd yn dod yn fwy aml, ac fe fyddant yn parhau i fod yn gryf oherwydd newid hinsawdd.

Mae'n dweud bod datblygu rhagor o amddiffynfeydd yn hanfodol.

"Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal rhaglen fuddsoddi bob blwyddyn, ac rydyn ni'n edrych ar ble allwn ni roi'r arian i wneud y gwahaniaeth mwyaf i'r cymunedau sydd dan risg.

"Felly yn cydweithio gyda'r partneriaid yn ne Cymru yn enwedig, rydyn ni'n edrych ar y camau nesa' a beth allwn ni wneud i leihau'r risg llifogydd at y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Ger Y Trallwng roedd ffyrdd wedi eu rhwystro gan lifogydd

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y byddai angen "cyllid aruthrol i ddal cyflymder â newid hinsawdd, sydd ddim yn gynaliadwy".

Ar y cyd â'r llywodraeth, dywedodd y llefarydd bod y gymdeithas yn "edrych ar ffyrdd newydd o adeiladu gwytnwch ac addasu I'r effeithiau hyn".

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau i ddiogelu tai a busnesau.

"Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, rydyn ni'n buddsoddi dros £71m ar draws Cymru drwy awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru."

Pynciau cysylltiedig