Dynes, 83, wedi marw ar ôl ymosodiad 'treisgar' gan gi

  • Cyhoeddwyd
Roedd yr heddlu yn dal i gynnal ymchwiliadau yn ardal Heol Fawr ddydd Llun
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwiliad yr heddlu i'r digwyddiad yn Heol Fawr, Caerffili yn parhau

Clywodd agoriad cwest fod dynes 83 oed wedi marw o sepsis a briwiau oedd wedi eu heintio, ar ôl i gi ymosod arni yn ei chartref yng Nghaerffili.

Cafodd y cwest llawn i farwolaeth Shirley Patrick ei ohirio tan fis Hydref wrth i ymchwiliadau'r heddlu i amgylchiadau'r farwolaeth barhau.

Dywedodd Uwch Grwner Gwent, Caroline Saunders, fod yr heddlu wedi dod o hyd i Shirley Patrick, cyn-nyrs oedd wedi ymddeol, gydag anafiadau difrifol ar 3 Rhagfyr.

Dywedodd Ms Saunders fod Ms Patrick wedi ffonio'r heddlu yn gofyn am gymorth.

Arestio pedwar

"Dywedodd yr heddlu fod ci wedi ymosod arni a bod ganddi anafiadau sylweddol i'w hwyneb a'i breichiau," meddai'r crwner.

Fe gafodd y bensiynwraig ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond bu farw ar 20 Rhagfyr.

Dywed adroddiad cychwynnol mai achos y farwolaeth oedd sepsis oedd wedi ei achosi gan friwiau oedd wedi eu heintio o ganlyniad i ymosodiad gan gi, a niwmonia.

Penderfynodd y crwner fod angen ymchwiliad pellach i'r farwolaeth, oedd yn un "treisgar ac annaturiol".

Yn dilyn yr ymosodiad mewn tŷ yn Heol Fawr, cafodd pedwar o bobl eu harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi oedd yn beryglus ac allan o reolaeth.

Cafodd y pedwar eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.

Pynciau cysylltiedig