Macauley Owen: Teyrnged teulu i 'ddyn ifanc hwyliog a hapus'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn fu farw tra'n gweithio ar fferm ar Ynys Môn wedi rhoi teyrnged iddo.
Cafodd Macauley Owen, 26, ei anafu'n ddifrifol mewn digwyddiad gyda thractor ar fferm yn ardal Carreglefn ger Amlwch ar 3 Ionawr.
Cafodd ei gludo i ysbyty yn Stoke, ond bu farw o'i anafiadau dridiau yn ddiweddarach.
Dywedodd ei dad, Wil: "Nid yn unig yr oedd o'n fab i mi ond fo oedd fy ffrind gorau a fy mhartner gwaith.
"Roedd yn ddyn ifanc hwyliog a hapus gydag angerdd a chariad enfawr at beiriannau ers yn ifanc iawn, a byddaf yn gweld ei eisiau yn fwy nag y gall geiriau ei ddisgrifio."
'Falch o fod yn fam iddo'
Dywedodd Carys, mam Macauley: "Ni all geiriau fynegi'r tristwch dwi'n ei deimlo o golli Macauley - yr hiraeth, y tristwch na fydd byth yn gwella a'r hyn y byddwn yn ei wneud i'w ddal yn fy mreichiau eto.
"Dwi mor falch o'i holl gyflawniadau... Dwi'n falch o fod yn fam iddo."
Mae'r rhieni wedi diolch i aelodau o'r cyhoedd ac i'r gweithwyr brys a ofalodd am eu mab, ac i bobl am eu teyrngedau.
Dywedodd chwaer Macauley, Lucy: "Mae fy nghalon wedi torri. Fy mrawd bach, bydda i'n aml yn meddwl amdanat ac yn falch o'r dyn yr wyt ti, byddaf yn cofio dy wên a dy chwerthiniad heintus, direidus.
"Diolch am dy garedigrwydd, dwi'n dy garu di frawd."
Dywedodd Peggy, neu 'Nain' Macauley: "Fy Macauley, yr unig beth y galla'i feddwl amdano i leddfu'r boen o dy golli ydy bod Duw dy eisiau di fyny yna fel un o'i angylion i fod yn yrrwr tractor.
"Nos da Macauley, tan y gwelaf di eto yn fuan."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth, ynghyd â'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE), ac yn trafod â Swyddfa'r Crwner lleol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2023