'Pobl ddim yn gweld gwir werth gweithwyr gofal'
- Cyhoeddwyd
Byddai addysgu plant cynradd fod y sector gofal yn darparu cyfleoedd cyflogaeth yn un ffordd o fynd i'r afael â phrinder staff, yn ôl un o'r undebau.
Mae arweinwyr y gwasanaeth iechyd wedi rhybuddio bod "argyfwng cenedlaethol" ym maes iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd diffyg gweithwyr.
Dywedodd Alyn Thomas o undeb y GMB fod angen i ddisgyblion ysgol, o gychwyn eu taith, weld gofal fel proffesiwn sy'n cael ei barchu.
Yn ôl y diwydiant mae'n colli gweithwyr oherwydd cyflog gwael, gyda staff yn aml yn gallu ennill mwy mewn sectorau eraill fel y sector manwerthu neu letygarwch.
Yn gynharach y mis hwn amcangyfrifwyd bod 1,800 o gleifion yng Nghymru yn ddigon iach i adael yr ysbyty, ond methu gwneud oherwydd diffyg pecynnau gofal neu leoedd gwag mewn cartrefi.
Dywedodd Alyn Thomas: "Yr hyn yr ydym am ei weld yw mwy o waith yn cael ei wneud i hyrwyddo gofal cymdeithasol o fewn ysgolion, er mwyn sicrhau bod hwn yn gyfle i bobl dyfu yn y sector gofal cymdeithasol.
"Mae angen dysgu plant i ystyried y swydd fel gyrfa, yn yr un ffordd ac maen nhw'n ystyried swyddi fel nyrsio neu ddysgu.
"Yn ogystal, mae angen newid canfyddiad cymdeithas o weithwyr sector gofal.
"Ar hyn y bryd 'dan ni'n clywed lot o bobl yn dweud, 'dim ond gofalwyr ydyn nhw', dyw pobl ddim yn gweld gwir werth gweithwyr gofal cymdeithasol i'n cymunedau ni."
Swyddi gwag
Yn gyn-ofalwr, a threfnydd rhanbarthol gwasanaethau cyhoeddus y GMB ar gyfer gogledd Cymru, ychwanegodd Mr Thomas: "Fe wnaethon ni glapio am ofalwyr yn ystod Covid.
"Gwnaeth hynny i ni gydnabod pa mor bwysig oedd y gweithlu gofal. Mae'n rhaid i ni barhau â hynny ac mae'n rhaid i ni barhau i wthio hynny o fewn yr ysgolion, o fewn addysg."
Amcangyfrifodd adroddiad gan Ofal Cymdeithasol Cymru yn 2021 fod tua 91,000 o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol yng Nghymru.
Roedd yr adroddiad yn amcangyfrif bod 5,581 o swyddi gwag.
Ddydd Mawrth fe lansiodd Cyngor Gwynedd ymgyrch recriwtio a fideo yn tynnu sylw at y cyfleoedd o fewn y sector gofal cymdeithasol.
Dywedodd aelod Cyngor Gwynedd dros oedolion, iechyd a llesiant, Dilwyn Morgan mai'r nod yw ceisio denu gofalwyr i'r maes yma yn y sir.
Er gwaetha'r ymgyrch mae Mr Morgan yn cyfaddef bod cyflogau isel yn "ffactor sylweddol" sy'n atal pobl rhag dilyn gyrfa mewn gofal.
"Fel cyngor ar ein pen ei hunain medrwn ni ddim cyflawni'r hyn a hoffwn ni o ran cynyddu cyflogau'n gofalwyr.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru arwain ar hyn, ac os nad ydyn nhw eisiau, neu maen nhw methu arwain, yna dewch â'r cyllid atom ni fel cyngor i ni allu symud pethau ymlaen yma."
'Camau i wella statws gofal'
Mewn ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y rôl anhygoel mae gweithwyr gofal yn ei chwarae ac rydym wedi ymrwymo i wella eu hamodau gwaith, yn ogystal â gwneud y sector yn fwy deniadol i weithio ynddi."
Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi cynnal ymgyrch recriwtio dros yr haf, i hyrwyddo gyrfaoedd a phrentisiaethau yn y maes, yn ogystal â "buddsoddi'n sylweddol i gefnogi recriwtio a chadw staff".
"Mae'r cynnydd sylweddol yn setliad llywodraeth leol 2023-24 yn dangos ein hymrwymiad i ymateb i'r pwysau ym maes gofal cymdeithasol ac mae £70m wedi'i fuddsoddi i sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn parhau i gael oleiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol.
"Rydym yn cymryd camau i broffesiynoli'r sector a gwella statws gofal cymdeithasol fel gyrfa sy'n werthfawr a sicrhau bod mwy o gyfleoedd ar gyfer dilyniant gyrfa."
Mae Iona Heath, 93, wedi byw yng nghynllun tai gofal ychwanegol Hafod Y Gest ym Mhorthmadog, Gwynedd, ers bron i bedair blynedd.
Wedi'i adeiladu yn 2018 gan y gymdeithas dai Grŵp Cynefin, mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, mae'n darparu 40 o fflatiau gyda chefnogaeth 24 awr ar gael i'r preswylwyr os bod angen.
Mae gan Iona ei fflat ei hun gydag ystafell fyw, cegin, ystafell ymolchi a dwy ystafell wely. Mae hi'n byw'n annibynnol, ond yn dweud: "Mae'r help yno, heb unrhyw oedi."
Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn meddwl y gallwch chi ddod yn unman gwell.
"Mae fel gwesty yma. Gallwch chi wneud fel y dymunwch. Gallwch chi fynd a dod fel y dymunwch. Mae gennych chi gogydd yn gwneud cinio i chi. Mae'n wych i mi.
"Allwn i ddim byw ar fy mhen fy hun mwyach."
Mae hi'n derbyn cymorth rheolaidd gan ofalwyr y cyngor drwy gydol yr wythnos.
"Dydw i ddim yn meddwl y gallwn i fyw ar fy mhen fy hun erbyn hyn i fod yn onest. Dwi angen yr help sydd ar gael yma."
Mae Emma Jones yn aelod o staff yn Hafod y Gest.
Dywedodd y gallai'r swydd fod yn "anodd," a bod y staff yn y cartref dan bwysau ar adegau, ond ei bod hefyd yn "swydd werth chweil i fod ynddi".
"Rydyn ni wirioneddol angen staff er mwyn gallu cadw'r sector i fynd. Mae pethau yn anodd iawn yma ar hyn o bryd," meddai.
"Mae 'na restrau aros hir llawn pobl sydd am ddod yma o'r ysbyty, felly mae angen mwy o staff arnom ni."
Colli gweithwyr oherwydd Brexit
Ychwanegodd Emma fod "cyflog dal i fod yn broblem" o fewn y sector.
"Dydy'r cyflogau ddim yn cyrraedd ble dylen nhw fod i'r gwaith mae'r gofalwyr yn gwneud," meddai.
"Ond os mae'ch calon chi yn y gwaith, grêt, achos byddwch chi ddim yn siomedig yn gweithio yn y sector yma."
Dywedodd Llinos Medi, arweinydd Cyngor Môn a llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros iechyd a gofal, fod prinder gofalwyr yn cael ei adlewyrchu ar draws Cymru.
"Ers Covid rydyn ni wedi bod yn trafod y diffyg gofalwyr ym mhob awdurdod yng Nghymru," meddai.
Dywedodd fod Cyngor Môn wedi gweithio'n agos gyda choleg ac wedi gweld "mwy o bobl yn dilyn cyrsiau gofalu", ond cyfaddefodd fod angen ateb tymor hirach.
"Rydyn ni wedi colli'r gweithwyr Ewropeaidd oherwydd Brexit," meddai.
"Rydym hefyd wedi gweld gweithio yn y sector gofal yn ystod Covid yn gyfnod anodd iawn.
"Rŵan rydyn ni'n mynd trwy'r argyfwng costau byw hefyd."
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gychwyn sgwrs am anabledd yna ewch i bbc.co.uk/siaradanabledd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2022