Blwyddyn Newydd Chineaidd: Balchder mewn hunaniaeth gymysg
- Cyhoeddwyd
![Linda a'i theulu yn dathlu Blwyddyn Newydd Chineaidd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1A81/production/_128358760_chinese_new_year_takeaway.jpg)
Ddydd Sul 22 Ionawr 2023, mae Chineaid o amgylch y byd yn dathlu dechrau blwyddyn newydd, sef blwyddyn y gwningen.
Un sydd yn dathlu yma yng Nghymru yw Linda Chan, sy'n byw yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o bentref Glanaman yn Sir Gâr.
![Linebreak](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/11A8B/production/_128313327_mediaitem77300236.jpg)
Cadw siop bwyd Chineaidd takeaway mae teulu Linda. Allfudodd ei rhieni i Gernyw o'r un pentref yn Hong Kong, Luk Keng, er mai ym Mhrydain oedd y ddau wedi cyfarfod.
Felly sut bod y teulu Chan wedi cyrraedd pentref bach yn ne Cymru?
"Agoron nhw'r siop yn fuan ar ôl i mi gael fy ngeni," eglurodd Linda.
"Roedd ffrind i'r teulu yn gwybod am siop yn y pentref random hyn yn ne Cymru, gan ddweud ei fod e'n lle braf i fagu teulu, golygfa neis... felly aethon nhw amdano fe. Er doedden nhw ddim yn gwybod ar y pryd fod yna iaith heblaw Saesneg yno!
![Cartref a Teml yn Luk Keng](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/12BF1/production/_128358767_cartref_teml.jpg)
Y cartref a'r deml teuluol yn ôl ym mhentref Luk Keng yn Hong Kong, wedi eu haddurno yn barod ar gyfer y flwyddyn newydd
"Ges i fy magu yno gyda fy rhieni a fy chwaer hynaf, ac roedd gennym ni gefndryd a modryb ac ewythr yn byw gyda ni hefyd - roedden ni i gyd yn byw yn y fflat uwchben y siop takeaway gyda'n gilydd.
"Ro'n i'n gweithio yn y siop, wrth gwrs - free labour! Bydd fy rhieni yn ymddeol rhywbryd yn fuan... ond maen nhw'n dweud hynny lot!"
![Serk, Evelyn a Linda](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/68A1/production/_128358762_signal-2023-01-18-220857.jpg)
Linda gyda'i gŵr, Serk a'u merch, Evelyn
Teimlo'n wahanol mewn pentref 'gwyn'
Wrth gwrs, doedd yna ddim llawer o bobl eraill o dras Chineaidd yn byw yng Nglanaman. Sut beth oedd hi i gael dy fagu mewn ardal sydd â phoblogaeth sy'n bennaf yn wyn?
"Roedd e'n wahanol," cofiodd Linda. "Ti'n teimlo'n fel mai ti yw'r unig un. Ond doeddet ti ddim wir yn deall pam fod pobl yn dy drin di'n wahanol tan dy fod ti'n hŷn.
"Roedd pob un ohonon ni wedi profi ychydig o hiliaeth, ond roedd yna lawer o bobl clên oedd yn ein croesawu i'r gymuned.
"Dwi'n meddwl beth helpodd oedd ein bod ni'r plant wedi dysgu Cymraeg ac wedi intergreiddio yn y gymuned."
Ar ôl yr ysgol, symudodd Linda i Lundain; profiad gwahanol iddi, a hithau wedi ei magu mewn pentref mor fach, ond un roedd hi wedi ei fwynhau:
"O'n i'n mwynhau bod yn anweledig yn Llundain. Dwi ddim wedi byw yng Nglanaman ers blynyddoedd ond pan dwi'n mynd nôl, dwi'n teimlo'n wahanol eto."
Er hynny, mae hi'n teimlo fod bod yn Gymreig a Chineaidd o fantais iddi, meddai.
"Dwi'n sefyll mas, a dwi'n meddwl ei fod wedi'n helpu i i gael swyddi. Mae pobl yn cymryd sylw ohona i!"
![Linda, ei chwaer a'u cefndryd ar ymweliad â Hong Kong](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B6C1/production/_128358764_children_in_hong_kong.jpg)
Linda, ei chwaer a'u cefndryd ar ymweliad â Hong Kong
Magu teulu a diwylliant
Bellach, a hithau'n fam ei hun, mae Linda eisiau i'w merch, Evelyn, deimlo'r un balchder yn ei chefndir a'i hunaniaeth. Un ffordd mae Linda yn gwneud hyn yw i siarad ei hieithoedd gyda'i merch fach, meddai.
"Hakka yw'r iaith ry'n ni'n ei siarad fel teulu, iaith sy'n cael ei siarad gan y bobl Hakka. Roedden nhw'n bobl oedd yn teithio o amgylch y lle, felly mae'n iaith sy'n cael ei siarad mewn nifer o lefydd.
"Dwi'n siarad Saesneg, Cymraeg a Hakka gydag Evelyn - dwi'n dweud rhai pethau mewn tair iaith wrthi... 'Good afternoon, Prynhawn da, 你好冇?'! Mae'n anhygoel faint mae plant yn ei amsugno.
"Dwi'n meddwl ei fod yn rhywbeth mor bwysig. Mae'n rhan o fy niwylliant i. Dwi'n teimlo ei bod hi'n gallu bod yn anodd gwir ddeall diwylliant heb ddeall ei hiaith.
"Dwi ddim eisiau i Evelyn deimlo mas ohoni; achos o'n i'n teimlo mas ohoni wrth dyfu lan weithiau, fel rhywun Chineaidd yng Nghymru, ac roedd dysgu'r Gymraeg wir wedi helpu i ffitio mewn."
Dathlu blwyddyn newydd arbennig
Wrth gwrs, fel y dywedai Linda, er ei bod hi wedi tyfu i fyny yng Nghymru, cafodd ei magu mewn cartref Chineaidd, ac mae dathlu'r flwyddyn newydd yn rhan annatod o ddiwylliant a thraddodiad hi a'i theulu.
"Mae fel Nadolig; pawb yn ymgynnull a threulio amser gyda'n gilydd nôl adref, a chael pryd mawr o fwyd. Mae plant a phobl di-briod yn derbyn amlenni coch wedi eu llenwi ag arian.
"Rydyn ni'n sicrhau fod y tŷ yn lân ac yn daclus, a dydyn ni ddim yn bwyta cig ar y diwrnod, er parch i'r anifeiliaid yn y calendr Chineaidd.
![Teulu yn y takeaway](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/104E1/production/_128358766_takeaway_2.jpg)
Y teulu yn mwynhau pryd o fwyd blasus yn y siop 'takeaway'
"Gan fod gweddill y teulu o amgylch y byd - mae gan Dad dri brawd a phedair chwaer nôl yn Hong Kong - rydyn ni'n cael sgwrs fideo gyda nhw."
Yn anffodus, gan eu bod nhw wrthi'n symud tŷ, fydd Linda, ei gŵr Serk, ac Evelyn ddim yn gallu ymweld â'r teulu draw yng Nglanaman eleni.
Fodd bynnag, bydd dal yn ddiwrnod i'w gofio gan mai Dydd Sul hefyd yw pen-blwydd Evelyn yn flwydd oed.
恭喜發財!
Blwyddyn Newydd Chineaidd Hapus!