Macauley Owen wedi marw o anaf pen difrifol gan drelar
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn 26 oed o Ynys Môn ar ôl i gefn trelar agor a'i daro yn ei ben, mae cwest wedi clywed.
Clywodd gwrandawiad agoriadol i farwolaeth Macauley Owen iddo farw yn Ysbyty Brenhinol Stoke yn dilyn y digwyddiad ar fferm ger Amlwch.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon bod y digwyddiad yn ymwneud â thractor a threlar ar fferm yng Ngharreglefn - a bod giât ôl y trelar wedi agor a tharo Mr Owen yn ei ben.
Aeth i Ysbyty Gwynedd ac yna Ysbyty Stoke, a bu farw ar 6 Ionawr.
Cafodd achos ei farwolaeth ei nodi dros dro fel methiant organau yn dilyn anaf pen difrifol.
Yn dilyn ei farwolaeth, cafodd Mr Owen ei ddisgrifio fel "dyn ifanc hwyliog a hapus".
Dywedodd ei dad, Wil: "Nid yn unig yr oedd o'n fab i mi ond fo oedd fy ffrind gorau a fy mhartner gwaith."
Fe wnaeth crwner cynorthwyol gogledd orllewin Cymru, Sarah Riley, ohirio'r cwest wrth i ymholiadau barhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2023