Cyflwyno cynllun dychwelyd poteli a chaniau erbyn 2025
- Cyhoeddwyd
Bydd cynllun dychwelyd poteli a chaniau diod er mwyn annog ailgylchu yn dod i rym yng Nghymru erbyn 2025.
Bydd pobl yn talu blaendal, ac yn cael yr arian hwnnw yn ôl pan fyddan nhw'n dychwelyd y poteli neu ganiau gwag i beiriannau neu siopau.
Mae galw wedi bod am gyflwyno cynllun o'r fath ers sawl blwyddyn gan elusennau cadwraeth ac amgylcheddol.
Yn ôl Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru Julie James, mae'n "gam arall ymlaen wrth i Gymru ddatblygu'n economi fwy cylchol, lle mae llai o wastraff yn cael ei gynhyrchu, a lle caiff adnoddau eu hailddefnyddio a'u hailgylchu yn hytrach na'u bod yn mynd i safleoedd tirlenwi".
Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi penderfynu faint y byddan nhw'n ei godi fel blaendal, ond mae'n disgwyl i'r swm ddibynnu ar faint yr eitem a'r deunydd.
Ym Mhrydain bob blwyddyn, mae 'na amcangyfrif bod 14 biliwn o boteli diod plastig a naw biliwn o ganiau diod yn cael eu defnyddio.
Er mwyn hawlio'r ad-daliad am ailgylchu, bydd siopwyr yn talu blaendal wrth brynu caniau a photeli, ac yn cael yr arian yn ôl ar ôl mynd â'r botel neu'r can gwag i beiriant arbennig neu i siop.
Peiriant gwerthu o chwith, neu reverse vending machine, fydd un o'r ffyrdd ble bydd modd i bobl gael eu harian yn ôl.
Mae'r peiriannau yn sganio côd a deunydd y botel neu gan er mwyn cadarnhau ei fod yn ddilys, cyn rhoi taleb i'r cwsmer am ailgylchu.
Siopau hefyd fydd yn gyfrifol am y gost o brynu neu dalu les am y peiriant.
'Sicrhau bod cynhyrchwyr yn gyfrifol'
Dywedodd Ms James: "Ar hyn o bryd, arian cyhoeddus sy'n talu am yr holl ailgylchu ry'n ni'n ei wneud, ond mae hyn yn ffordd o sicrhau bod cynhyrchwyr yn gyfrifol am beth o'r gost o roi hwn yn yr amgylchedd.
"Ry'n ni'n gobeithio y bydd hyn yn eu helpu i newid ymddygiad, fel eu bod nhw'n meddwl mwy am yr hyn sydd yn eu cynnyrch, a sut y gallen nhw ostwng y gost drwy ddefnyddio deunyddiau wedi ei ailgylchu."
Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno ar y cyd â Lloegr a Gogledd Iwerddon, sy'n golygu y byddai modd prynu diod yng Nghymru a'i ddychwelyd tu hwnt i Glawdd Offa.
Mae Llywodraeth Yr Alban yn sefydlu ei chynllun ei hun, fydd yn dechrau'n ddiweddarach eleni.
Mae cynlluniau tebyg eisoes yn digwydd mewn gwledydd eraill yn Ewrop fel Yr Almaen, Ffindir a Norwy. Yno, mae cyfraddau ailgylchu dros 90%.
Cynllun peilot llwyddiannus
Cafodd cynllun peilot ei gynnal yn Sir Conwy yn 2020.
Wrth ailgylchu, roedd yn rhaid sganio poteli oedd â label arbennig er mwyn derbyn 20c y botel.
O'r 237 cartref oedd yn rhan o'r cynllun peilot, fe gymrodd 73% ran drwy'r cynllun, a sganio pob potel yn ystod y cyfnod o bedair wythnos.
Mae Llywodraeth Cymru'n amcangyfrif y bydd y cynllun yn arwain at daflu 85% yn llai o boteli neu ganiau diod fel sbwriel o fewn tair blynedd.
Poteli wedi eu gwneud o blastig polyethylene terephthalate (PET) neu wydr, a chaniau dur ac alwminiwm fydd yn cael eu cynnwys.
Yn ôl prif weithredwr elusen Cadwch Gymru'n Daclus, Owen Derbyshire, maen nhw'n credu y bydd "ychwanegu gwerth i ddeunyddiau sy'n cael eu hailgylchu yn cael effaith fawr ar gyfraddau ailgylchu, lleihau sbwriel a gwella ansawdd ein hamgylchedd leol.
"Ry'n ni wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynllun cynhwysfawr sy'n cynnwys gwydr.
"Mae'n gam pwysig tuag at drawsnewid y ffordd ry'n ni'n defnyddio adnoddau a lleihau gwastraff fel cenedl."
Galw am gydweithio
Yn ôl Cymdeithas Diod Ysgafn Prydain "er bod hyn yn gynllun amgylcheddol, mae'n rhaid ei drin fel mwy na chynllun gwrth-sbwriel os ydym am wireddu ei addewid yn llwyr".
"Os yw'n cael ei gynllunio'n gywir, gallai fod yn sbardun i economi gylchol ym Mhrydain ar gyfer pecynnu, a rhoi mynediad i ddeunyddiau wedi eu hailgylchu o ansawdd uchel i gynhyrchwyr a chreu buddsoddiad hanfodol mewn adnoddau ailgylchu ym Mhrydain."
Ond mae cydweithio'n bwysig rhwng gwledydd Prydain, yn ôl eu cyfarwyddwr cyffredinol Gavin Partington, sy'n dadlau y byddai diffyg cydlynu "yn peryglu llwyddiant economi gylchol Prydain, a chreu rhwystrau diangen i farchnadoedd Prydain, ac o bosib effeithio ar ddewis y cyhoedd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021