Ethol Mary Stallard fel Esgob newydd Llandaf
- Cyhoeddwyd
Y Gwir Barchedig Mary Stallard sydd wedi cael ei hethol yn Esgob newydd Llandaf gan Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru.
Hi oedd un o'r menywod cyntaf i ddod yn offeiriad yng Nghymru yn 1997, ac mae hi ar hyn o bryd yn Esgob Cynorthwyol ym Mangor.
Gwnaed y cyhoeddiad gan Archesgob Cymru, Andrew John, ar ôl i'r Esgob Mary sicrhau'r bleidlais gyda'r mwyafrif angenrheidiol o ddau draean.
Bydd yn olynu June Osborne - a fu'n gwasanaethu fel Esgob Llandaf ers 2017 - yn dilyn ei hymddeoliad fis Rhagfyr.
Dywedodd yr Esgob Mary ei bod yn "wir fraint i dderbyn yr alwad newydd hon a gwnaf fy ngorau glas i'w chyflawni'n ffyddlon".
Bydd etholiad yr Esgob Mary yn cael ei gadarnhau'n ffurfiol mewn gwasanaeth Synod Sanctaidd ym mis Ebrill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2017