Ethol Esgob Bangor yn Archesgob newydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, wedi cael ei ethol yn Archesgob nesaf Cymru.
Cafodd ei ddewis yn dilyn pleidlais ymhlith aelodau Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandrindod.
Fe allai'r Coleg Etholiadol fod wedi treulio hyd at dridiau'n dod i benderfyniad gyda drysau'r eglwys ar glo ond roedd yna gytundeb ar ddiwrnod cyntaf y drafodaeth.
Esgob Andy John sydd wedi arwain yr Eglwys yng Nghymru ers ymddeoliad ei ragflaenydd, Archesgob John Davies, ym mis Mai.
Roedd pum esgob arall yn y ras, sef Esgobion Llanelwy, Abertawe ac Aberhonddu, Tyddewi, Llandaf a Mynwy, ac roedd angen sicrhau dau draean o'r pleidleisiau.
Wedi ei benodiad dywedodd Andy John: "Wrth inni edrych ymlaen at y dyfodol, rydym yn wynebu llawer o heriau, ond nid ydym yn gwneud hynny ar ein pen ein hunain. Rydym yn wynebu'r heriau gyda gras Duw a gyda'n gilydd, oherwydd gyda'n gilydd rydym yn gymaint cryfach a chymaint yn well.
"Rwy'n hyderus y bydd yr Eglwys yng Nghymru yn gallu ymateb ag egni a gweledigaeth. Mae'n fraint enfawr i fi wasanaethu ein Heglwys i'r perwyl hwn."
'Trydydd Esgob Bangor i fod yn Archesgob'
Croesawodd Archddiacon Meirionnydd, Andrew Jones, y newyddion ar ran Esgobaeth Bangor gan ddweud: "Ar ran Esgobaeth Bangor, rwyf am longyfarch Esgob Andy ar ei ethol yn Archesgob Cymru nesaf.
"Mae ei arweinyddiaeth yn Esgobaeth Bangor ers 2009 wedi bod yn rhagorol ac yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
"Dyma fraint fawr i ni fel Esgobaeth. Bydd Esgob Andy y trydydd Esgob Bangor i ddod yn Archesgob Cymru yn y ganrif ddiwethaf gan olynu GO Williams ar ddiwedd y 70au/80au a Charles Green yn y 30au.
"Gadawodd y ddau farc sylweddol ar hanes ein Heglwys ac rwyf yn sicr y bydd Esgob Andy yn Archesgob eithriadol yn yr un modd, a fydd yn arwain ein Heglwys yn strategol, yn ddiwyd ac yn fugeiliol."
Cafodd yr Esgob Andy ei fagu yn Aberystwyth a'i addysgu yn Ysgol Penglais cyn graddio yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, yn 1986 ac mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham yn 1988.
Fe wnaeth hefyd ennill Diploma mewn Astudiaethau Bugeiliol yn 1989 yng Ngholeg Sant Ioan, Nottingham.Cafodd ei ordeinio'n ddiacon yn 1989 ac yna'n offeiriad yn Esgobaeth Tyddewi yn 1990.
Bu'n gurad yn Aberteifi, y Ferwig a Mwnt o 1989 a 1991 a hefyd yn Aberystwyth rhwng 1991-1992.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bu hefyd yn ficer ym Mywoliaeth Reithorol Aberystwyth rhwng 1992 a 1999, cyn ei benodiad i blwyf Henfynyw gydag Aberaeron a Llanddewi Aberarth yn 1999 - plwyf a ehangodd yn 2005 i gynnwys Llanbadarn Trefeglwys.
Cafodd ei benodi'n ficer Pencarreg gyda Chwmann a Llanycrwys, ac yna'n Archddiacon Aberteifi yn 2006 cyn cael ei ethol yn Esgob Bangor yn 2008.
Bydd yr Archesgob newydd yn cael ei orseddu yn ei gadeirlan gartref, sef Cadeirlan Bangor.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021
- Cyhoeddwyd2 Mai 2021