Cynllun codi peilonau 'hyll' yn gwylltio pobl Dyffryn Tywi
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau dadleuol i godi peilonau trydan 60 milltir o hyd wedi cythruddo pobl sy'n byw yn ardal y llwybr.
Bwriad cwmni Bute Energy yw cysylltu fferm wynt ym Mhowys gyda'r Grid Cenedlaethol ger Pont Abraham yn y de-orllewin.
Yn ôl rhai ffermwyr a grwpiau ymgyrchu, byddai cynlluniau o'r fath yn difetha tirlun cefn gwlad.
Mae'r cwmni yn bwriadu codi peilonau trydan ar draws Cymru fyddai'n cysylltu nifer o brosiectau ffermydd gwynt gyda'r grid yn Sir Gâr.
Mae sôn yn benodol, er enghraifft, am gysylltu prosiect fferm wynt o Faesyfed gyda'r Grid Cenedlaethol yng Nghaerfyrddin.
Mae nifer o dirfeddianwyr yn Nyffryn Tywi wedi derbyn llythyr gan y cwmni yn cyfeirio at y cynlluniau.
Dyw'r llythyr ddim yn dweud lle yn union mae'r cwmni'n bwriadu codi'r peilonau.
Does dim sôn chwaith am ba fath o beilonau fyddan nhw na chyfeiriad at eu maint.
Dywed y cwmni y byddan nhw'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn er mwyn holi barn tirfeddianwyr a phobl leol.
'Angen i'r gwifrau fynd dan ddaear'
Ofn pobl leol yw y bydd y peilonau yn "hyll" ac y byddan nhw'n difetha tirlun cefn gwlad ac mae ffermwyr yn poeni y byddan nhw'n creu trafferthion.
Un sydd wedi derbyn llythyr gan gwmni Bute Energy yw Ann Davies o fferm Dan-yr-allt.
"Ar ôl derbyn y llythyr mi drefnon ni gyfarfod yn neuadd Llanarthne nos Sul diwetha', a o'dd dros 70 o bobl yno a phob un â phryder," meddai.
"Do'dd neb yn erbyn yr egwyddor o ga'l ynni adnewyddol trwy'r ardal ond beth y'n ni yn erbyn yw cael gwifre yn mynd dros ein tir ac yn y dydd hwn, do's bosib bo ni ddim yn medru cael y gwifrau hyn yn mynd dan ddaear.
"Does dim un rheswm pam bod harddwch a treftadaeth Dyffryn Tywi yn cael ei effeithio gan wifrau yn mynd dros y ddaear.
"Ma' 'da chi gestyll yma a viaduct, cestyll Dinefwr, Dryslwyn, adeiladau Aberglasney - mae'r dyffryn yn llawn treftadaeth, does bosib mai dan ddaear yw'r ateb. Mae angen i Bute Energy fod yn fwy agored."
Effaith ar dwristiaeth?
Wrth ymateb i'r cynlluniau, dywedodd Rachel Evans o'r Gynghrair Cefn Gwlad y byddai'r peilonau yn effeithio'n wael ar dwristiaeth yr ardal.
"Fi'n credu bod e'n bwysig bod ni yn gweithio gyda'r renewable energy sector, ond beth sy'n anghyffyrddus yw bod y peilons hyn, rhan fwyaf o'r amser, yn hyll," meddai.
"Mae'r ardal hyn yn dibynnu ar dwristiaeth, a sai'n gweld pobl eisiau dod fan hyn mewn cymaint o niferoedd efallai os mae'r peilons hyn yn cael eu rhoi yn y Tywi Valley.
"Felly be y'n ni'n gofyn am yw bod y cables yn cael eu rhoi o dan y ddaear, fel maen nhw'n 'neud yn Lloegr."
Mae Ymgyrch dros Gymru Wledig hefyd wedi codi pryderon am y cynlluniau.
Maen nhw hefyd yn galw ar i gwmni Bute Energy gladdu'r ceblau ac i gyhoeddi eu cynlluniau yn agored.
Dywedodd Gareth Williams, Cyfarwyddwr Grid Bute Energy, mai eu huchelgais yw pweru Cymru ag ynni gwyrdd glân a grymuso cymunedau lleol drwy fuddsoddiadau, swyddi a sgiliau.
"Mae Green GEN Cymru, sy'n rhan o grŵp Bute Energy, yn cynnig gosod llinell newydd a fyddai'n cysylltu Parc Ynni Nant Mithil ym Maesyfed â'r Grid Cenedlaethol mewn man ger Caerfyrddin," meddai.
"Bydd yn cynhyrchu tua 237 megawat o ynni gwyrdd, glân yn ardal coedwig Maesyfed ar gyfer y grid."
Ychwanegodd bod y cwmni ar hyn o bryd yn cysylltu â thirfeddianwyr i'w helpu i ddatblygu asesiad manwl a chywir o lwybrau posib.
Nid yw gwneud arolwg tir yn golygu y bydd yn ffurfio rhan o'r llwybr neu y bydd yna seilwaith yn cael ei osod arno, ychwanegodd.
Dywedodd y dylai unrhyw dirfeddiannwr sydd â chwestiynau gysylltu â'r cwmni.
Nododd y cwmni hefyd eu bod yn gweithredu nawr er mwyn sicrhau dyfodol iach i gymunedau gwledig Cymru yn wyneb argyfwng newid hinsawdd.
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod diweddaru grid Cymru'n hanfodol os ydyn ni am gael system egni sy'n addas ar gyfer yr hirdymor.
Ychwanegodd llefarydd eu bod yn gweithio gydag awdurdodau ledled Cymru, a'r bobl a'r busnesau y maen nhw'n eu cynrychioli, i gynllunio ar gyfer y gwaith hwn a bod hyn yn cynnwys cwmnïau rhwydwaith.
Dywedodd hefyd bod angen i gwmni Bute Energy gyhoeddi eu cynlluniau ac y dylai "unrhyw ateb fod yn isel o ran cost ac effaith".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd21 Medi 2022
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2018