Abersoch: Cyfle'r gymuned i drafod dyfodol hen ysgol

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Abersoch
Disgrifiad o’r llun,

Caeodd Ysgol Abersoch ei drysau ar 31 Rhagfyr, 2021

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal i drafod bwriad troi hen ysgol yn Llŷn yn gyfleuster cymunedol.

Er gwaethaf brwydr leol fe gaeodd Ysgol Abersoch ei drysau yn Rhagfyr 2021 ac mae'n parhau i fod yn wag.

Ond bwriad cyfarfod yn y pentref nos Lun fydd ceisio cael syniadau, gyda'r gobaith o brynu'r adeilad er budd y gymuned.

Yn ôl y cynghorydd lleol, mae awch yn y pentref i gadw'r adeilad fel adnodd i bobl Abersoch.

Y pentref yn 'ddistaw heb yr ysgol'

Dim ond chwe disgybl oedd yn mynychu Ysgol Abersoch pan gaeodd, gyda'r ysgol yn darparu addysg i blant hyd at ddiwedd blwyddyn tri.

Ond ers ei chau mae holl blant y pentref bellach yn derbyn trafnidiaeth i Ysgol Sarn Bach, sydd 1.4 milltir i ffwrdd.

Disgrifiad,

Cau drysau Ysgol Abersoch am y tro olaf

Ymysg pryderon y gymuned dros gau'r ysgol roedd yr effaith ar yr iaith Gymraeg, gyda'r pentref yn adnabyddus fel cyrchfan i dwristiaid ond sydd hefyd â chyfran uchel o ail gartrefi.

Dadl y cyngor oedd nad oedd cadw ysgol gyda chyn lleied o ddisgyblion yn ymarferol.

Roedd yn costio £17,000 y flwyddyn i addysgu pob disgybl yn Ysgol Abersoch tra bo'r cyfartaledd drwy'r sir yn ychydig dros £4,000.

Dywedodd y Cynghorydd John Brynmor Hughes, sy'n cynrychioli ward Abersoch a Llanengan ar y cyngor sir, fod hi'n bwysig nad yw'r adeilad yn aros yn segur.

"Mae pobl y pentref a'r plwyf isho'i gadw fel mae o," meddai wrth Cymru Fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd John Brynmor Hughes: "Mae'n chwith hebddi"

"Mae'n bwysig fod o'n cael ei gadw, mae'n ysgol bren, yn hanesyddol ac yn rhan o'r gymuned.

"Mae'n bechod fod hi wedi cau, dwi'n byw dros y ffordd iddi ac mae'n rhyfedd peidio clywed sŵn y plant yn chwarae.

"Mae hi mor ddistaw erbyn hyn ac mae'n chwith hebddi, ond dyna fo."

Y gred ydy i'r ysgol bren agor ei drysau ar 21 Ionawr 1924 a bu'n ysgol y pentref am 97 mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd yr ysgol ei drysau yn Rhagfyr 2021

"'Da ni'n chwilio am gefnogaeth grantiau a ballu, ond dwi'n dallt fod rhai syniadau wedi'u rhoi ymlaen yn barod.

"Mae 'na un isho gwneud drop-in centre gofal dementia ac mae 'na sôn hefyd am amgueddfa, felly mae 'na syniadau yn dod ymlaen.

"Y peth pwysig ydy ei fod o'n cael ei ddefnyddio, yn sicr 'da ni ddim isho'i weld yn cael ei chwalu.

"Er hynny, ac o ran tegwch i Gyngor Gwynedd, maen nhw'n rhoi cyfle i'r gymuned rŵan i ddod ymlaen a trio sicrhau ei dyfodol."

'Edrych ar gyfleoedd posib'

Dywedodd clerc y cyngor cymuned, Einir Wyn, mai cyfarfod i gasglu syniadau yw e'n bennaf.

"'Da ni'n reit ben agored ar y funud, a bwriad y noson ydy rhoi cyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd a dod ymlaen gyda syniadau am ddyfodol yr adeilad."

Yn ôl cofnodion y cyngor cymuned, bydd chwe mis i lunio unrhyw gynllun busnes ar gyfer menter sy'n dangos diddordeb mewn prynu'r adeilad.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae Adran Tai ac Eiddo a Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau Cyngor Gwynedd mewn trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Llanengan a'r cynghorydd sir lleol ynglŷn â defnydd o hen safle Ysgol Abersoch ar gyfer y dyfodol.

"Rydym yn ymwybodol bod diddordeb yn lleol o ran llunio cynnig cymunedol a allai gynnig manteision economaidd, cymdeithasol a/neu amgylcheddol i'r ardal. Mae'r trafodaethau yn y cyfnod rhagarweiniol ar hyn o bryd, ac mae Gwasanaeth Cymorth Cymunedau'r Cyngor ar gael i gefnogi'r cyngor cymuned i edrych ar gyfleoedd posib.

"Edrychwn ymlaen at barhau gyda'r trafodaethau ynglŷn â defnydd hen safle Ysgol Abersoch yn y dyfodol yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus yn Abersoch."

Pynciau cysylltiedig