Streic ambiwlans arall wrth i ffigyrau ymateb gael eu cyhoeddi
- Cyhoeddwyd
Mae dros 1,000 o staff ambiwlans yn streicio ar draws Cymru ddydd Iau yn sgil anghydfod dros gyflogau ac amodau gwaith.
Dyma'r diwrnod cyntaf o weithredu gan undeb Unite, gan dod ar ôl dau ddiwrnod o streicio gan undeb y GMB.
Daw'r streic wrth i ffigyrau newydd ddangos fod nifer y galwadau 999 mwyaf brys gafodd eu hateb o fewn yr amser targed wedi gostwng i'w lefel isaf erioed.
Mae Unite - sy'n cynrychioli tua thraean staff ambiwlans Cymru - yn galw am gynnydd cyflogau sy'n adlewyrchu costau byw.
Yn ôl yr undeb dydy'r taliad untro sydd wedi'i gynnig gan Lywodraeth Cymru ddim yn mynd i fod yn ddigon i atal streiciau pellach.
Ond mae'r gweinidog iechyd wedi dweud bod "y cloc yn tician" ar yr amser sydd gan yr undebau i benderfynu a ydyn nhw am dderbyn y cynnig.
Wrth siarad ar raglen Today BBC Radio 4 fore Iau, dywedodd Eluned Morgan fod y taliad untro yn "gorfod mynd allan cyn y ddiwedd mis Chwefror os yw'n mynd i gael ei dalu o gwbl".
Yn y cyfamser, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn deall rhwystredigaeth y gweithwyr ac yn galw ar y cyhoedd i leihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn ystod y cyfnod streicio.
Mae Unite yn dweud y byddan nhw'n parhau i ddarparu gofal brys lle mae bywydau mewn perygl uniongyrchol, ond eu bod eisiau i drafodaethau symud ymlaen yn llawer cynt.
Dywedodd swyddog rhanbarthol Unite yng Nghymru, Richard Munn: "Mae'r pwysau ar ein haelodau'n cynyddu pob dydd.
"Mae codiad cyflog arall sy'n llai na chwyddiant yn mynd â phethau'n rhy bell.
"Mae dibrisio tâl pob blwyddyn tra bod staff ambiwlans yn wynebu mwy a mwy o bwysau wedi arwain at y streicio yma.
"Rydym yn derbyn bod Llywodraeth Cymru eisiau datrys yr anghydfod hwn ond dyw eu cynnig presennol yn amlwg ddim yn ddigon i ddod â hyn i ben."
Mae Tace Richards o Bontypridd yn un o'r parafeddygon sydd wedi bod ar streic ddydd Iau, a dywedodd fod y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans "yn codi pob blwyddyn".
"Mae'r cleifion sy'n aros i ambiwlans ddod yn aros am orie i ni ddod. Ni'n aros tu fas ysbytai am oriau maith," meddai.
"Ni'n gweld un claf mewn shifft o pryd ni'n cymryd drosodd o'r criw. Ma'r criw 'na'n mynd adref i fynd i gwely. Maen nhw'n dod 'nôl yn y bore a'n gweld yr un person.
"Mae'r bobl sydd yn y gymuned yn aros i ni fynd iddyn nhw, ac ma' rhai methu mynd i'r ysbyty ar eu hunain nhw.
"Os oedden ni'n ennill bach mwy o arian gallen ni wedyn gael mwy o staff falle, a bydd y staff sydd yna moen bod yna."
'Mor galed gweithio yn yr amodau yma'
Ychwanegodd Mr Richards fod rhai gweithwyr ambiwlans yn gwneud oriau ychwanegol er mwyn gallu fforddio eu costau byw, ond bod "neb moyn byw fel 'na".
"Y peth olaf ni moen 'neud yw'r streic 'ma," meddai.
"Ni'n teimlo does dim dewis gyda ni i 'neud dim byd arall. Ni'n 'neud y streic yma i wella'r wasanaeth iechyd ond hefyd i wella'r patient experience.
"Ma' pobl yn dweud ar y diwrnodau streic bydd pobl yn marw - wel, maen nhw'n marw beth bynnag. A ni ddim isie hwnna i ddigwydd. Fel gwasanaeth ni ddim isie pobl i ddioddef."
Dywedodd bod staff yn "gwneud popeth gallen nhw", ond nad oedd digon o arian yn dod i'r gwasanaeth ambiwlans gan lywodraethau Cymru na'r DU.
"Ma' fe mor galed i weithio yn yr amodau yma - ma' lot o staff yn mynd bant o'r gwaith nawr 'da rhyw fath o burnout," meddai.
"Yn bersonol ma' fe mor anodd. Ni'n clywed pobl yn control yn gofyn a gofyn a gofyn i bobl i fynd at alwadau coch. A s'neb yn gallu mynd iddyn nhw. S'dim lle yn yr ysbytai.
"Yn enwedig heddiw, peidiwch 'neud unrhyw beth fydd yn rhoi chi at risk. Ni wastad yn 'neud ein gore i ddod mas atoch chi, ond gyda'r streic plîs edrychwch ar ôl eich hunan.
"Ond os chi'n teimlo fel bod isie ambiwlans, plîs ffoniwch ni."
'Gwasanaeth iechyd yn marw'
Un fuodd yn streicio tu allan i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ddydd Iau oedd Heather Rees, uwch dechnegydd yng ngorsaf Hendy-Gwyn.
"Ni ar streic heddiw achos dyma'r unig opsiwn sy' gyda ni ar y funud," meddai.
"Dyw e ddim yn unig am pai ond amodau gwaith hefyd.
"Ni'n gofalu am gleifion ond ar y funud dydyn nhw ddim yn cael y gwasanaeth ma' nhw'n haeddu.
"Ma'r gwasanaeth iechyd genedlaethol yn marw ac mae wedi bod am flynydde'. Ma'n nghydweithwyr yn teimlo'n isel iawn.
"Ma' pobl yn marw ac wedi bod am sawl blwyddyn achos ma' cleifion yn aros tu allan i ysbytai, a does dim i gael i fynd i achosion brys."
Dywedodd James Green, oedd yn picedu ym Mangor, eu bod wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan aelodau o'r cyhoedd.
"Mae pobl yn deall y trafferthion 'da ni'n wynebu, dydi'r tâl heb fod yn codi mewn lein hefo inflation ond 'da ni hefyd yn streicio yn erbyn conditions.
"Mae 'na ambiwlansys yn eistedd tu allan i ysbytai am oriau ac oriau hefo un claf ac methu ymateb i'r cleifion eraill yn y gymuned sydd eu hangen nhw. Mae pawb yn colli allan."
Profiad 'poenus' wrth ddisgwyl am ambiwlans
Roedd Nora Roberts wedi datgymalu ei chlun wrth wisgo yn ei chartre' ym Mhorthmadog ac er galw am ambiwlans y bore hwnnw, roedd hi'n 03:00 y bore wedyn arnyn nhw'n cyrraedd i'w chludo i'r ysbyty.
Er ei bod yn pwysleisio iddi gael gofal da pan ddaeth y criw ambiwlans, mae'n dweud ei fod wedi bod yn brofiad anodd iawn.
"Roedd o'n boenus ofnadwy ac o'n i'n methu cysgu," meddai. "O'dda chi jyst yn gorwedd yna yn gwitshad a gwatshad y cloc yn mynd rownd.
"Does 'na ddim bai ar yr hogiau a'r merched ambiwlans, maen nhw'n gweithio'n galed ac yn gwneud be' maen nhw'n goro 'neud.
"Wedyn maen nhw'n goro gwitshad tu allan i'r ysbyty er mwyn cael lle i fynd i mewn."
Yn ôl Nora Roberts, mae ei phrofiad hi wedi gwneud hi'n fwy nerfus.
"Dwi'n fwy peth 'na ynglŷn â mynd allan rŵan, y tywydd yma'n enwedig - ofn llithro ac ofn i'r goes fynd eto 'de. Mae o'n ddifrifol o boen."
Er ei sefyllfa hi, mae hi'n cefnogi'r gweithwyr ambiwlans a staff iechyd eraill sy'n streicio ar hyn o bryd.
"Maen nhw'n gweithio'n galed," meddai. "Maen nhw'n gweld pethau mawr, ofnadwy a goro gwitshad am oriau h'wrach ynde.
"Trwy Covid a phopeth mae wedi bod yn amser caled iawn arnyn nhw, maen nhw'n gwneud pob peth cofiwch."
'Cynnal gofal arbed bywyd'
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n "adnabod pam bod cymaint o weithwyr ambiwlans wedi pleidleisio dros streicio, ynghyd â'r dicter a'r siom mae nifer o weithwyr sector cyhoeddus yn teimlo ar y funud".
Ychwanegodd llefarydd bydd y llywodraeth yn parhau i weithio gyda'r GIG, yr undebau a phartneriaid i sicrhau bod gofal sy'n arbed a chynnal bywyd yn cael ei ddarparu a bod diogelwch cleifion yn cael ei gynnal.
"Ond mae'n hanfodol bod pawb yn gwneud hynny y gallan nhw i leihau'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn ystod y streicio ac yn ystyried yn ofalus pa weithgareddau maen nhw'n eu gwneud."
Mae Unite yn bwriadu cynnal dwy streic 24-awr, gyda'r ail i'w chynnal ddydd Llun nesaf.
Dim ond staff yng Nghymru fydd yn picedu y tro hwn ond bydd gweithwyr yn Lloegr hefyd yn ymuno'r wythnos nesaf.
Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd a San Steffan o dan bwysau cynyddol ar ôl i drafodaethau fethu ac undebau yn cyhoeddi rhagor o streiciau.
Bydd undeb y GMB yn gweithredu fis Chwefror a mis Mawrth, gyda miloedd o nyrsys y Coleg Nyrsio Brenhinol hefyd yn streicio ar 6 Chwefror.
'Taliad untro ddim yn ddigon'
Yn ôl Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, mae mynd i'r afael â'r "problemau mawr o fewn strwythurau'r gweithlu yn un o'r prif flaenoriaethau".
Ychwanegodd: "Heb ein bod ni'n talu ein staff ar lefel sy'n dderbyniol, does ganddon ni ddim seiliau i adeiladu gwell dyfodol i'r NHS.
"Dydy'r taliad untro yn amlwg ddim yn mynd i fod yn ddigon achos 'dan ni'n sôn am sefyllfa sydd wedi datblygu dros ddegawd a mwy o gyflog yn cael ei wasgu, cyflog yn cael ei dorri.
"Mae 'na benderfyniadau mae Llywodraeth Cymru'n gallu gwneud - dim ots pa mor dynn ydy'r sefyllfa gyllidol - i flaenoriaethu, i edrych ar arian wrth gefn ac ati, mewn ffordd sydd yn rhoi setliad teg."
Dywedodd Russell George AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymraeg ar iechyd, fod y pwysau ar staff yn "anferthol".
"Rydym angen y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd i ddechrau trafod o ddifrif yn hytrach na beio gweinidogion y DU am fethu yn eu cyfrifoldebau nhw - rhywbeth mae'r undebau hefyd wedi'i fynegi.
"Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod Cymru wedi cofnodi eu hamseroedd ymateb arafaf erioed ar gyfer ambiwlansys, a'r rhestrau aros unedau brys hiraf ym Mhrydain.
"Allwn ni ddim caniatáu i gleifion ddiodde' gyda'n gwasanaethau cyhoeddus ar stop, a gallwn ni ddim disgwyl i staff losgi'u hunain allan am nad all gweinidogion Llafur gael trefn ar bethau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2022