Newidiadau posib i IVF yng Nghymru yn 'annheg'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r newidiadau sy'n cael eu hystyried i newid y trothwy oedran ar gyfer triniaeth gyda'r GIG yn "annheg" yn ôl Sharlaine Quick-Lawrence

Mae rhai o'r newidiadau posib i'r modd mae triniaethau ffrwythlondeb yn cael eu cynnig yng Nghymru yn "annheg", yn ôl un fam sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth.

O dan gynlluniau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd, ni fyddai menywod dros 40 oed na phobl sengl yn gymwys ar gyfer triniaeth IVF gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Ond byddai'r newid posib yn galluogi rhagor o gyplau heterorywiol i gael triniaeth gan y byddai'r rheolau ar Fynegai Màs y Corff (BMI) yn cael eu llacio.

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (PGAIC), sy'n ymgynghori ar y newidiadau ar hyn o bryd, yn dweud ei bod yn rhan arferol o'u gwaith i "adolygu polisïau yn gyson".

'Ni eisiau gyrfa'

Mae Sharlaine Quick-Lawrence yn fam i ddau o fechgyn gafodd eu geni wedi triniaeth ffrwythlondeb.

Cafodd ei mab hynaf ei eni wedi triniaeth gyda'r gwasanaeth iechyd.

Yn ôl Sharlaine, mae'r newid i'r trothwy oedran - dros 40 - yn "annheg".

"Dylai merched fod yn gallu gwneud e'n hŷn. Ni eisiau cael gyrfa ein hunain. Mae'n wahanol i flynyddoedd yn ôl pan oedd merched yn cael plant yn ifancach.

"Fi'n 'nabod lot o bobl sydd wedi cael babis yn hŷn na hynny [40 oed]."

Disgrifiad o’r llun,

Mae menywod eisiau eu gyrfa eu hunain, dywedodd Sharlaine

Mae Sharlaine hefyd yn siomedig gyda'r syniad o stopio cynnig triniaeth ffrwythlondeb i bobl sengl.

"Dwi'n meddwl bod hwnna'n drueni mawr eto," meddai.

"Mae gyda fi grŵp ar-lein sy'n cefnogi pobl sy'n mynd trwy IVF a lot o famau sengl, hyfryd, sy'n famau arbennig.

"Dyw e ddim yn deg i wneud y penderfyniad dros bobl.

"Dyw e ddim yn fai ar fenyw sengl bod dim partner gyda chi. Chi dal eisiau bod yn fam."

I fod yn gymwys am driniaeth, mae'n rhaid i bobl fod wedi cael diagnosis o anffrwythlondeb y "gellir ei esbonio" oherwydd cyflwr meddygol, neu "na ellir ei esbonio" ar ôl i iddyn nhw geisio beichiogi'n naturiol am ddwy flynedd.

Byddai'r argymhellion newydd yn golygu na fyddai rhaid aros am 12 mis cyn dechrau triniaeth IVF, gan gyflymu'r broses i rai.

Beth all newid?

Ni fyddai merched dros 40 oed yn gymwys am driniaeth IVF ar y GIG - ar hyn o bryd gallan nhw gael un gylchred os ydyn nhw rhwng 40 a 42 oed.

Byddai'r ystod BMI yn cael ei ymestyn gan ehangu mynediad. BMI o 19-30 yw'r ystod ar hyn o bryd, ond byddai hynny'n cael ei ymestyn i 18-35 o dan yr argymhellion newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae IVF yn driniaeth feddygol lle mae wy yn cael ei ffrwythloni tu allan i'r corff

Ni fyddai pobl sengl yn gymwys am IVF - ar hyn o bryd gallan nhw gael triniaeth os ydyn nhw wedi cael chwe ymgais aflwyddiannus o IUI (triniaeth gyda theclyn ble mae sberm yn cael ei osod yn y groth).

Byddai cyplau o'r un rhyw yn dal yn gymwys am IVF, ond ar ôl cael 12 cylchred o IUI. Ar hyn o bryd chwe ymgais sydd ei angen.

Dydy triniaeth IUI ddim yn cael ei ariannu gan PGAIC ac mae'r cyllid yn cael ei bennu ar lefel byrddau iechyd unigol, felly gall rhai pobl dderbyn y driniaeth gan y GIG tra bod eraill yn gorfod ei ariannu'n breifat.

Byddai cyplau heterorywiol yn dal i fedru cael dwy gylchred o IVF.

Mae Emma Rees yn gydlynydd Cymru ar gyfer elusen Fertility Network UK ac yn dweud ei bod wedi ei "synnu ac yn flin" gyda'r cynigion sydd dan ystyriaeth.

Maen nhw'n annog pobl i roi eu barn yn yr ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal tan 17 Chwefror.

"Ma' fe'n anodd iawn i fynd trwyddo IVF," medd Emma Rees, "ac mae'r bobl sydd gyda fertility issues, mae fe'n really trawmatig i nhw.

"Ma' fe'n cael effaith fawr ar gyd o'ch bywyd - gwaith, relationships, iechyd meddwl.

"Felly mae'r polisïau newydd yn mynd i gael real negative impact ar gyd o'r bobl yna."

'Adolygu polisïau yn gyson'

Dywedodd yr Athro Iolo Doull o PGAIC: "Gallwn sicrhau ein cleifion, y cyhoedd a rhanddeiliaid ein bod yn adolygu polisïau yn gyson fel rhan arferol o'n gwaith i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r dystiolaeth glinigol fwyaf diweddar ynghyd ag anghenion ehangach y GIG yng Nghymru i wella'n barhaus y gwasanaethau clinigol a'r canlyniadau i gleifion.

"I gefnogi hyn, cafodd grŵp eang o randdeiliaid ei sefydlu oedd yn cynnwys elusennau, gan gynnwys Fertility Network UK a Genetic Alliance, sy'n cefnogi plant sydd â chyflyrau genetig prin, a gyfrannodd at ddatblygu'r polisïau drafft yma.

"Nod y polisïau yw gwella canlyniadau i gleifion a sicrhau bod yr arian rydym yn ei wario ar wasanaethau ffrwythlondeb yn darparu'r gwerth gorau i gleifion ar y GIG yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y "dylai clinigwyr gefnogi teuluoedd o unrhyw fath gyda phroblemau ffrwythlondeb a gallan nhw eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol lle bo hynny'n briodol".

"Mae Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru yn adolygu'r cyngor ar gomisiynu clinigol yn gyson ac yn cynghori ar sail effeithiolrwydd clinigol.

"Rydym yn annog y cyhoedd i gyfrannu i'r ymgynghoriad."