Targedu pweru Cymru ag ynni adnewyddadwy erbyn 2035
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru yn anelu i gael ei phweru'n gyfan gwbl gan ynni adnewyddadwy erbyn 2035.
Bydd mwy o bympiau gwres mewn cartrefi a phrosiectau ynni cymunedol fel rhan o darged Llywodraeth Cymru i ddiwallu 100% o drydan o ynni adnewyddadwy ymhen 12 mlynedd.
Ar hyn o bryd mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos bod 56% o'r ynni rydym yn ei ddefnyddio yn dod o ynni adnewyddadwy.
Mae'r cyhoeddiad diweddaraf yn dangos uchelgais dipyn uwch na'r targed presennol o gyrraedd 70% erbyn 2030.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James fod y targed yn "uchelgeisiol ond credadwy".
Fel rhan o'r ymgynghoriad gyhoeddwyd ddydd Mawrth, mae cynlluniau i gynyddu capasiti ynni adnewyddol, ond hefyd i leihau'r galw amdano.
Ond does dim lle i laesu dwylo yn ôl y felin drafod flaenllaw, y Sefydliad Materion Cymreig (SMC).
Yn ôl Auriol Miller, Cyfarwyddwr SMC, "does dim byd yn awtomatig" am gyrraedd y targedau hyn.
Mae'n rhaid i'r llywodraeth ganolbwyntio ar "ddod o hyd i ffynhonellau newydd ac amgen o ynni", meddai, yn ogystal â lleihau ein defnydd drwy wella effeithlonrwydd ynni tai.
Wrth siarad yn y Senedd, cyhoeddodd Julie James ymgynghoriad ar y targedau newydd, sy'n "cynnig llwybr i ni gyrraedd 100% o'n galw ni am drydan yn flynyddol drwy ynni adnewyddol erbyn 2035, ac hefyd i barhau i gadw at y targed wrth fynd ymlaen".
Mae'r cynlluniau yn cynnwys targed bod o leiaf 1.5Gigawatt o gapasiti ynni yn dod o broseictau cymunedol llai.
Yn ddibynnol ar well gefnogaeth gan Lywodraeth y DU a chwymp yn y gost, mae'r gweinidog eisiau i 5.5GW o ynni i ddod o bympiau gwres erbyn yr un cyfnod.
Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos bod Cymru'n cwrdd â 56% o'r galw am ynni o ffynonellau adnewyddadwy fel gwynt, yr haul a dŵr.
Ond i gyrraedd 100% mewn ychydig dros ddegawd, mae'n rhaid goresgyn llawer o rwystrau.
Felly sut wnawn nhw hynny?
Gwella Isadeiledd
Mae isadeiledd ynni, fel y grid, a chysylltu'r ynni sy'n cael ei greu gan ffermydd gwynt yn y môr gyda'r grid yna, yn un o'r heriau enfawr.
Fel rhan o'r cyhoeddiad ddydd Mawrth, mae'r gweinidog wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn rhoi £1m i edrych ar y potensial o ynni gwynt yn y Môr Celtaidd.
Bydd cwmni Associated British Ports (ABP) yn gwneud cyfraniad cyfatebol o £1m fydd yn "dechrau datblygiad o hyb ynni gwyrdd ym Mhort Talbot".
Dywedodd Andrew Harston o ABP fod y £2m "yn allweddol i adeiladu isadeiledd trawsnewidiol fydd yn caniatáu y datblygiad o ynni arnofiol ym Mhort Talbot".
Roedd Julie James yn derbyn bod y buddsoddiad yn gymharol fach o ystyried y buddsoddiad sydd ei angen i ddarparu ynni arnofiol yn ne-orllewin Cymru, ond dywedodd fod y buddsoddiad yn arwydd i'r diwydiant o ymroddiad y llywodraeth.
Ychwanegodd: "Nid dyma ddiwedd ein cefnogaeth."
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod bod angen newid sylweddol i hybu capasiti'r grid yng Nghymru.
Mae grŵp o Aelodau Seneddol wedi edrych ar y problemau yn y grid ac mewn ymateb, sydd wedi ei gyhoeddi ddydd Mawrth, mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddent yn parhau i weithio ar "gynllunio strategol, cynllunio ac esmwytho cysylltiadau ar draws Prydain yn cynnwys Cymru".
Symleiddio Cynllunio
Mae'n rhaid i'r llywodraeth wella gweithdrefnau cynllunio yn ôl cynrychiolwyr o'r diwydiant.
Mae Manon Kynaston, Dirprwy Gyfarwyddwr RenewableUK Cymru, corff sy'n cynrychioli'r diwydiant, yn croesawu'r targed diwygiedig ac yn cytuno ei fod yn uchelgeisiol ond yn gredadwy.
Er hynny, mae'n dweud bod llawer iawn o waith i'w wneud er mwyn nid yn unig cyrraedd y targedau, ond er mwyn cadw'r buddion hynny yng Nghymru.
"Mae angen system sy'n amrywiol a hyblyg, sydd yn cynnwys ffermydd gwynt oddi ar arfordir gogledd Cymru ond hefyd y cyfle sylweddol sydd gennym ni o wynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd," dywedodd.
"Mae angen i ni ddatgloi rhai rhwystrau allweddol, gyda chynllunio a thrwyddedu'n bennaf, a chydweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU hefyd i sicrhau bod gennym fuddsoddiad yn ein porthladdoedd a'n seilwaith."
Prosiectau Cymunedol
Mae sicrhau bod y buddion yn aros mewn cymunedau lleol yn ganolog i weledigaeth Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau nad yw'r elw yn gadael Cymru i gwmnïau mawr rhyngwladol.
Mae Ynni Ogwen yn un enghraifft o brosiect cymunedol yr hoffai'r gweinidog weld mwy ohonynt.
Mae'n brosiect trydan dŵr ar Afon Ogwen ger Bethesda sy'n cynhyrchu trydan ac yn ailfuddsoddi'r elw yn ôl i'r gymuned.
Yn ddiweddar, fe roddon nhw £20,000 yn ôl i leddfu'r argyfwng costau byw yn yr ardal.
Mae Meleri Davies sy'n un o sylfaenwyr Ynni Ogwen yn dweud ei bod yn wych bod targedau newydd ond bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru "sicrhau bod y prosiectau wedi'u seilio ar y gymuned".
"Ry'n ni angen mwy o brosiectau fel hyn dim ond oherwydd effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y cynllun yma."
Ond dywedodd Ms Davies y byddai'n hoffi i'r llywodraeth fynd ymhellach a sicrhau bod modd defnyddio'r ynni maen nhw'n ei gynhyrchu yn lleol.
"Ar hyn o bryd mae'r ynni rydyn ni'n ei gynhyrchu yma yn cael ei allforio i'r grid sy'n talu ni amdano.
"Pe gallem ddefnyddio'r egni hwnnw i bweru cartrefi yn lleol ar dariff is - mi fyddai hynny'n wych. Dyna'r math o uchelgais fydden ni'n hoffi i Lywodraeth Cymru symud tuag ato."
Dywedodd Ms Davies hefyd bod angen mwy o arian i'w gwneud hi'n haws i brosiectau fel Ynni Ogwen ddechrau.
Lleihau'r defnydd
Gyda disgwyl i'r defnydd o drydan godi yn y blynyddoedd i ddod wrth i ni symud tuag at gerbydau trydan ac i ffwrdd o foeleri nwy, bydd angen i gyflymder cyflwyno ynni adnewyddadwy gynyddu os am gyrraedd y targed o 100%.
Rhan o'r uchelgais hwnnw yw annog mwy ohonom ni i osod pympiau gwres, ond dydy hynny "ddim yn digwydd yn ddigon cyflym" yn ôl Auriol Miller.
Mae hi'n dweud bod hi'n bwysig peidio â rhoi gormod o gyfrifoldeb ar unigolion.
Dywedodd: "Mae angen i Lywodraeth Cymru [a Llywodraeth y DU] feddwl am y buddsoddiad i hynny ddigwydd ac yna gweithredu ar hynny hefyd.
"Felly mae ôl-osod (retrofitting) cartrefi yn wych, ond nid yw'n digwydd yn ddigon cyflym ar hyn o bryd."
Mae'n ymddangos bod y diwydiant yn ymwybodol o'r brys i weithredu, ac yn ôl RenewableUK, maen nhw'n barod i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael ond mater i'r llywodraeth yw gwneud mwy i sicrhau bod prosiectau'n symud yn gyflymach.
"Ni mewn argyfwng hinsawdd, mae'n amser i symud nawr," meddai Manon Kynaston.
Ac mae amser o'r hanfod yn ôl Auriol Miller: "Rydyn ni'n gwybod o'r her newid hinsawdd fyd-eang, mae gennym ni 10 mlynedd mewn gwirionedd i wneud gwahaniaeth o ran diogelu dyfodol ein planed.
"Mae hwnna'n wir amdanom ni yma yng Nghymru hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd30 Awst 2022
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2019