Cynlluniau ynni Bethesda 'yn help i gadw'r biliau lawr'

  • Cyhoeddwyd
Afon Ogwen
Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion Bethesda wedi bod yn defnyddio grym dŵr Afon Ogwen i ar gyfer cynlluniau ynni lleol

Wrth i brisiau trydan ac ynni yn gyffredinol godi, mae pobl yn Nyffryn Ogwen wedi bod yn elwa o ddau gynllun trydan dŵr.

Mae rhai o'r trigolion yn aelodau o Glwb Ynni, sy'n golygu ei bod nhw'n talu cyn lleied ag 8c yr uned ar rai adegau o'r dydd.

Mae cynllun arall sydd wedi datblygu o'r gymuned yn rhoi nawdd i roi paneli solar ar adeiladau, fel y clwb rygbi ym Methesda.

"'Dan ni'n cynhyrchu trydan, ac mae'r trydan yn mynd i'r gymuned," meddai Gareth Cemlyn Jones, cadeirydd Ynni Ogwen.

'Llwyddiannus dros ben'

Mae un o'r cynlluniau trydan dŵr yn cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac o ganlyniad i hynny mae aelodau Clwb Ynni lleol Bethesda yn elwa drwy gael trydan rhatach.

"Mae 'na tua 140 o dai yn y clwb," esboniodd Fflur Roberts un o'r aelodau.

"Beth 'dan ni'n ei wneud ydi mynd efo'n gilydd hefo'r cynhyrchydd trydan hydro o Afon Berthen... at gyflenwr trydan i werthu a phrynu ar yr un pryd er mwyn cael y pris gorau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Fflur Roberts fod y cynllun yn golygu biliau rhatach iddi hi

"O'n i'n edrych ar fy miliau y bore 'ma [ac] mae o'n dangos i mi faint o arbedion dwi'n 'neud [o flwyddyn i flwyddyn]. Roedd o'n £20 y mis yna, felly dros amser mae'n dipyn.

"Yn ychwanegol i hynny mae o wedi gwneud i mi hefyd edrych ar fy nefnydd o drydan i ddefnyddio fo ar amser gwahanol, i drio gostwng y defnydd hefyd, sy'n rhywbeth ddyla pawb ei 'neud dwi'n meddwl."

Mae 'na gynllun hydro arall gan Ynni Ogwen hefyd, a sefydlwyd fel prosiect gan Bartneriaeth Ogwen i gyfrannu arian at gynlluniau i leihau costau ynni yn y gymuned.

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Cemlyn Jones yw cadeirydd menter Ynni Ogwen

Sefydlwyd y cynllun bum mlynedd yn ôl, ac fe godwyd bron i £500,000 i gyd drwy werthu cyfranddaliadau yn lleol.

"Mae o wedi bod yn llwyddiannus dros ben, a 'dan ni wedi cyrraedd ein amcanion i gyd o ran y trydan a gwerthu trydan," meddai Gareth Cemlyn Jones, cadeirydd Ynni Ogwen.

"Mae Ynni Ogwen wedi sefydlu elusen sy'n dosrannu arian yn lleol i brosiectau gwyrdd o gwmpas yr ardal.

"'Dan ni hefyd rŵan yn buddsoddi arian mewn nifer o baneli solar 'dan ni'n gosod ar adeiladu cyhoeddus yn yr ardal."

Mae Clwb Rygbi Bethesda wedi cael paneli solar ar do'r clwb drwy gynllun Ynni Ogwen.

Disgrifiad o’r llun,

Y paneli solar ar do'r clwb rygbi ym Methesda

Wil Sandison ydy cyfarwyddwr y clwb, a dywedodd ei fod yn un o nifer o gynlluniau gwyrdd sydd ganddyn nhw i arbed arian a lleihau eu hôl troed carbon.

"'Dan ni'n prynu'r trydan yn ôl o gwmni lleol a 'dan ni'n talu lot rhatach nag y mae cwmnïau eraill yn supplyio."

Ychwanegodd: "Be' 'dan ni wedi 'neud efo grantiau lleol ydi newid y bylbs i gyd o halogen i LED.

"'Dan ni hefyd wedi gosod sensor lights i gyd lawr grisiau i stopio pobl adael goleuadau ymlaen, a 'dan ni hefyd wedi newid y tapiau dŵr i push button, sy'n helpu efo faint o ddŵr 'dan ni'n ddefnyddio.

"'Dan ni 'di plannu dros 700 o goed fel carbon offset. Mae'r biliau 'dan ni'n talu yn lot llai rŵan."

Pynciau cysylltiedig