Y Madryn wedi cael ei henwi'n dafarn wledig orau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Y MadrynFfynhonnell y llun, Emlyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r perchnogion wedi diolch i'w staff a'u cwsmeriaid am eu cefnogaeth

Mae tafarn Y Madryn, yn Chwilog, wedi cael ei henwi'n dafarn wledig orau Cymru.

Bu'r dafarn ar gau am sawl blwyddyn ond yn 2021 fe wnaeth pum ffrind ei phrynu a'i hailagor.

Dywedodd perchnogion y dafarn eu bod yn "ddiolchgar i bawb am eu henwebiad, pleidlais a chefnogaeth drwy'r flwyddyn".

"Y mae'n anrhydedd i ni ein bod wedi ennill y wobr arbennig yma ac yn cael cyfle i gynrychioli Cymru," meddai Emlyn Roberts ar ran ei gyd-berchnogion.

Ffynhonnell y llun, Emlyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Perchnogion y Madryn yn dathlu wedi iddyn nhw ennill y wobr

Rhoddwyd y wobr i'r dafarn gan The Countryside Alliance Awards mewn seremoni yng Nghaerdydd.

Enillodd Y Madryn y wobr wedi i'r cyhoedd ei henwebu a phleidleisio iddi ac fe gafodd hi hefyd sêl bendith y bwrdd beirniadu.

Daeth y canlyniad fel ychydig o sioc gyda'r ffrindiau'n dweud: "Mae'r ffaith ein bod wedi cael ein henwebu yn y lle cyntaf wedi golygu cymaint i ni. Wnaethom ni ddim breuddwydio y buasem yn dod yn gyntaf drwy Gymru!"

Teimla'r perchnogion bod y "freuddwyd o gael ailagor tafarn wledig gymunedol wedi cael ei gwireddu" ar ôl ennill y wobr.

Cafodd y rhai a enwebwyd eu dyfarnu ar nifer o feini prawf gan gynnwys y teimlad o gymuned a'r defnydd o fwyd lleol.

Ffynhonnell y llun, Emlyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y perchnogion eu bod yn ddyledus i'w staff

Mae'r perchnogion wedi diolch i'w staff am eu gwaith caled ac i'w cwsmeriaid am eu cefnogaeth.

Bydd y dafarn yn cynrychioli Cymru nesaf yn y gystadleuaeth Brydeinig, gyda'r canlyniadau'n cael eu cyhoeddi ym mis Mai yn Nhŷ'r Arglwyddi yn Llundain.

Pynciau cysylltiedig