Y cysylltiad rhwng gwlân Dolgellau a chaethwasiaeth
- Cyhoeddwyd
Roedd y diwydiant gwlân yn hollbwysig i economi Dolgellau am ganrifoedd - ond prin yw'r sôn am ochr dywyllach yr hanes.
Roedd brethyn o'r ardal - yr hyn yr oedden nhw'n ei alw'n Welsh plains - yn cael ei werthu i ddilladu caethweision yn America a'r Caribî.
Dywed un arbenigwr ei bod hi'n "glir bod yna gysylltiad uniongyrchol, rhwng pobl gyffredin o gefn gwlad Cymru â'r farchnad mewn caethwasiaeth".
Mewn rhaglen newydd ar Radio Cymru, dywed Natalie Jones o Gyngor Hil Cymru ei bod yn bwysig bod yr holl hanes yn cael ei ddysgu'n llawn mewn ysgolion fel bod modd dysgu gwersi o'r gorffennol.
Dywed Dr Marian Gwyn o Brifysgol Bangor: "Does neb yn licio meddwl bod y Cymry wedi cymryd rhan mewn rhywbeth mor erchyll â'r fasnach caethweision.
"Roedd faint o frethyn oedd yn cael ei yrru o Gymru yn syfrdanol.
"Yn 1812, mae cofnodion yn dangos bod bron i wyth miliwn o lathenni o Welsh plains wedi eu cludo i Ogledd America a'r Caribî."
Fe gafodd ei "gludo i Orllewin Affrica mewn symiau enfawr i'w gyfnewid am Affricaniaid a gymerwyd wedyn ar draws yr Iwerydd fel caethweision".
Ond fe aeth symiau "llawer mwy i ddarparu dillad caethweision ar draws Gogledd a De America ac yn y Caribî".
Yn ôl cyfraith America ar y pryd, roedd rhaid darparu dillad sylfaenol ar gyfer caethweisio, ac roedden nhw'n ffafrio brethyn o Ddolgellau am ei fod yn cynnig "gwerth rhagorol am arian, yn rhad ac yn wydn", yn ôl Dr Gwyn.
Mae yna ddigon o gofnodion yn tystio i hyn, yn ôl Dr Gwyn.
Brethyn Dolgellau oedd y gorau
Mewn erthygl papur newydd ym mis Rhagfyr 1899 mae'r dilledydd a maer Dolgellau, John Meyrick Jones, yn sôn am ba mor dda oedd y brethyn o ran cryfder a gwytnwch ym marn y caethfeistri.
Dywedodd "nad oedd dim yn eu bodloni - dim ond y brethyn cartref o fframiau gwehyddu Dolgellau".
Mae ei bwysigrwydd hefyd i'w weld yng nghyfraith talaith De Carolina ar y pryd, sydd yn enwi Welsh plains fel defnydd oedd yn cael ei argymell ar gyfer caethweision.
Ond pwy oedd yn gweithio yn y diwydiant?
Yn ôl Gareth Beech, uwch guradur yr economi wledig yn Amgueddfa Cymru, pobl gyffredin iawn oedd yn creu'r brethyn yma.
"Ffermwyr tyddynnod, gwragedd, plant oedd yn gwneud y gwaith. Mi oedd y gwaith yn cael ei wneud ynghyd â gwaith arall bob dydd fel rhedeg tyddynnod a ffermio, mi oedd o'n ffordd o ychwanegu incwm."
Ond er bod y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud gyda llaw, ac ar yr aelwyd, fe esboniodd bod y diwydiant wedi tyfu yn syfrdanol yn sgil y twf yn y fasnach mewn caethweision.
"Yn yr 17eg ganrif bu twf aruthrol yn nifer y bobl oedd yn cynhyrchu'r math yma o frethyn yng nghefn gwlad Sir Feirionnydd. Ac roedd hwnna yn adlewyrchu'r nifer o gaethweision.
"Rhwng 1688 a 1812 mi oedd nifer y caethweision yn yr ynysoedd oedd yn cynhyrchu siwgr yn y Caribî wedi cynyddu o 87,000 i 743,00.
"Wedyn yn America bu'r cynnydd yn fwy fyth o 10,000 i 1.19 miliwn. Roedd y farchnad yn fawr iawn iawn."
Wrth i nifer y caethweision gynyddu, ac yn sgil hynny y galw am Welsh plains, tyfu hefyd wnaeth tref Dolgellau mewn maint a statws.
Does dim dwywaith bod yr ardal wedi elwa ar draul dioddefaint caethweision.
Ond un cwestiwn mawr oedd gen i wrth ddysgu am yr hanes yma oedd faint fyddai pobl y cyfnod wedi ei wybod am ble roedd eu gwlân yn mynd?
Gwybod lle oedd y gwlân yn mynd?
Mae nifer o gofnodion teithio yn dweud yn glir iawn fod gwlân Cymreig yn cael ei werthu i ddilladu caethweision.
Credai Dr Marian Gwyn y byddai pobl yn gwybod i ble'r oedd yn mynd yn enwedig o ganol y ddeunawfed ganrif "pan fyddai'r gwlân yn cael ei werthu yn syth i Lerpwl a'i gludo o fanna i America".
"Yn 1798 dywedodd y Parchedig John Evans fod Welsh plains yn cael ei gludo i'r Caribî. Dywedodd Arthur Aikinn yn glir bod "the clothing of the slaves creates a large demand," meddai Dr Gwyn.
Doedd gwehyddion Dolgellau ddim yn bobl gyfoethog o ganlyniad i'r fasnach gyda'r caeth feistri, ond eto does dim dwywaith bod eu safon bwy wedi gwella.
"Yn hytrach na chael prin digon i fyw," meddai Dr Gwyn, "roedd ganddyn nhw bellach llawer mwy o arian i wario i wella eu bywydau.
"Byddai wedi cymryd person cryf iawn i ddweud na fydden nhw'n elwa o hyn, yn enwedig gan ei fod yn bosib nad oedden nhw wedi meddwl cymaint â hynny am realiti caethwasiaeth."
Dysgu o'r gorffennol
Gyda hanes lleol a hanes pobl ddu nawr yn rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol, mae Natalie Jones o Gyngor Hil Cymru yn gobeithio y bydd yr elfennau hyn o'n hanes, nawr yn cael eu hadrodd yn ein hysgolion hefyd.
"Dwi'n meddwl ei bod o'n bwysig cael hanes cywir, dim efo rhannau wedi eu tynnu allan i wneud i ni deimlo'n fwy cyfforddus," meddai.
"'Da ni'n dysgu o'r gorffennol felly mae'n bwysig cael y straeon yma yn iawn.
"Mae hwn yn gyfle i'r genhedlaeth nesaf ddysgu bod hanes du a hanes Cymru wedi cael ei glymu. Maen nhw'r un peth."
Gallwch glywed mwy am y cysylltiad rhwng gwlân Cymreig a chaethwasiaeth yn y rhaglen - Gwlân i Siwgwr ar BBC Radio Cymru, Sul 29 Ionawr am 18:30 a Llun 30 Ionawr am 18:30.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd22 Awst 2020
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020