'Angen newid y naratif ar gyfraniad pobl ddu a thramorwyr'

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Charlotte WilliamsFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Charlotte Williams yn arwain tasglu Llywodraeth Cymru i ystyried newidiadau i'r cwricwlwm

Dylai cyfraniadau pobl ddu, Eidalwyr a Phwyliaid i Gymru gael ei ddysgu mewn ysgolion, yn ôl pennaeth tasglu sy'n canolbwyntio ar newidiadau i'r cwricwlwm.

Yn ôl yr Athro Charlotte Williams mae hi'n bwysig "peidio â chanolbwyntio ar naratif o anfantais yn unig" o ran hanes pobl ddu.

Dywedodd y dylid dathlu cyfraniadau cerddorion, artistiaid ac academwyr o bob cymuned.

Mae dros 35,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am addysgu plant am rôl Prydain mewn caethwasiaeth yn ysgolion Cymru.

"Mae rhannau helaeth o Gymru ble na fydd plant wedi gweld pobl ddu oni bai am ar y teledu, ac fe all hyn fod mewn ffyrdd negyddol iawn," meddai'r Athro Williams.

"Mae angen i ni newid y naratif."

Yn sgil y protestiadau byd eang yn dilyn marwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau, mae galwadau wedi bod am gydnabod rôl Cymru mewn caethwasiaeth trwy ei ddysgu mewn ysgolion.

Cafodd y tasglu sy'n cael ei arwain gan yr Athro Williams ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i ystyried newidiadau i'r cwricwlwm i gynnwys rhagor o brofiadau'r gymuned ddu a lleiafrifoedd eraill.

'Nid dioddefwyr dan anfantais ydyn ni oll'

Dywedodd yr Athro Williams ei bod yn allweddol dysgu am effaith caethwasiaeth ac anghyfiawnderau eraill y bu'n rhaid i bobl ddu wynebu, ond bod angen gwneud mwy hefyd i ddathlu cyfraniad lleiafrifoedd i Gymru.

"Os nad ydyn ni'n gwneud hyn ry'n ni'n gwneud cam gyda'n hanes ein hunan," meddai.

"Ond dydw i ddim eisiau gyrru'r neges mai dioddefwyr sydd dan anfantais ydyn ni oll.

"Ry'n ni'n apelio ar ysgolion ac athrawon i ymwneud â chyfraniad positif pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig eraill - hanes cyfoethog ac egnïol."

Yn ystod ei magwraeth yn Llandudno, dywedodd yr Athro Williams mai ei theulu hi oedd yr unig deulu du yn y dref.

"Fe ges i fy magu ddim yn deall sut roeddwn i yn rhan o Gymru," meddai.

"Rwy'n meddwl bod hynny'n digwydd i blant - maen nhw'n teimlo nad ydyn nhw'n perthyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol