Dyn ifanc â'r ffliw yn diolch i staff achubodd ei fywyd

  • Cyhoeddwyd
Jack HollingsworthFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Jack Hollingsworth yn ôl i'r uned gofal dwys yn ddiweddar i ddiolch i'r staff fu'n gofalu amdano

Mae dyn 19 oed o Ynys Môn wedi diolch i staff Ysbyty Gwynedd am achub ei fywyd ar ôl iddo fod angen gofal dwys ar ôl cael y ffliw cyn y Nadolig.

Cafodd Jack Hollingsworth o Langristiolus ei ruthro i'r adran achosion brys ym Mangor ar 15 Rhagfyr wedi iddo fynd yn ddifrifol wael yn ei gartref.

Wedi iddo gael ei asesu penderfynwyd ei roi mewn coma a gofalu amdano yn yr uned gofal dwys.

Dywedodd ei fam mai gweld ei mab yn cael ei roi ar beiriant anadlu oedd "eiliad waethaf fy mywyd".

'Meddwl ein bod ni'n mynd i'w golli'

"Roedd Jack wedi bod yn sâl ers rhai dyddiau. Roedden ni i gyd yn meddwl ei fod yn annwyd gwael neu hyd yn oed yn Covid," meddai Claire Hollingsworth.

"Daeth y prawf Covid yn ôl yn negyddol a thua diwedd yr wythnos aeth yn fwy sâl. Roedd ganddo dymheredd uchel iawn a chyfradd curiad calon cyflym iawn.

"Allwn i ddim aros yn hirach. Rwy'n gyn-nyrs felly roeddwn i'n gwybod nad oedd fy mab yn dda iawn ac roeddwn i'n teimlo bod risg y gallem ei golli.

"Fe wnes i yrru Jack yn fy nghar i'r adran a rhedeg i mewn i gael rhywfaint o help."

Fe wnaeth profion ddatgelu fod Jack wedi dal y ffliw, a bod hynny wedi datblygu'n niwmonia.

Bu mewn coma am 10 diwrnod, gyda'i fam Claire, ei dad John, a'i gariad Erin wrth ei ochr.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu Jack mewn coma am 10 diwrnod, gyda'i fam, ei dad a'i gariad wrth ei ochr

"Yn ystod y 10 diwrnod roedd Jack mewn coma roedd yna adegau roedden ni'n meddwl ein bod ni'n mynd i'w golli," meddai Claire.

"Ni ddylai rhiant byth orfod gweld eu plentyn mor sâl ac roedd yn dorcalonnus i ni fel rhieni weld ein babi yn cael ei awyru.

"Mae Jack yn hynod ffit... ond dangosodd sut y gall unigolyn ifanc gael ei lethu'n sydyn gan y ffliw ar ôl iddynt gyrraedd pwynt pan fydd eu system imiwnedd wedi llosgi allan.

"Roedd yn ein hatgoffa pa mor beryglus y gall ffliw fod."

Ar noswyl Nadolig fe wnaeth Jack ddangos arwyddion ei fod yn gwella, ac fe gafodd ei gymryd o'r coma.

Llwyddodd i wella'n gyflym wedi hynny, a chafodd adael yr ysbyty ar Ddydd San Steffan, mewn pryd ar gyfer ei ben-blwydd yn 19 y diwrnod canlynol.

'Byddaf yn ddiolchgar am byth'

Fe wnaeth Jack a'i rieni ymweld â'r uned gofal dwys yn ddiweddar i ddiolch i'r staff fu'n gofalu amdano.

"Roedd yn wych dod yn ôl i weld y staff oedd yn gofalu amdanaf," meddai Jack.

"Gan fy mod mewn coma dydw i ddim yn cofio sut olwg oedd ar yr un ohonyn nhw.

"Roedd yn hyfryd cwrdd â nhw a diolch iddynt yn bersonol. Byddaf yn ddiolchgar am byth iddynt am achub fy mywyd."