Arestio pedwar yn dilyn gwrthdrawiad yn Llandudno

  • Cyhoeddwyd
Lôn Crogfryn, Llanrhos, LlandudnoFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerddwr 48 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Llanrhos y dref

Mae dyn 48 oed yn yr ysbyty gydag anafiadau "sy'n peryglu bywyd" yn dilyn gwrthdrawiad yn Llandudno nos Sadwrn.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod yna wrthdrawiad rhwng cerddwr a cherbyd VW Polo du ar Lôn Crogfryn yn ardal Llanrhos y dref tua 23:30.

Yn ôl y llu roedd y cerbyd wedi gadael y safle cyn i'w swyddogion gyrraedd, a bu "VW Polo du hefyd mewn gwrthdrawiad tu allan i Lys Ynadon Llandudno ar Ffordd Conwy" tua 23:40.

Ychwanegodd: "Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn y digwyddiad."

Mae'r llu'n apelio am wybodaeth a lluniau gan unrhyw un oedd yn Lôn Crogfryn neu Ffordd Conwy tua adeg y ddau wrthdrawiad.

Pynciau cysylltiedig