Atal anfon parseli dramor yn 'broblem enfawr' i fusnesau
- Cyhoeddwyd
Mae gwaharddiad y Post Brenhinol ar anfon parseli dramor wedi achosi "problem enfawr" i nifer o fusnesau yng Nghymru sy'n allforio eu cynnyrch.
Dywedodd cyfarwyddwr Cadwyn, sy'n gwerthu nwyddau traddodiadol Cymreig, fod 25% o'u harchebion ar-lein fel arfer yn dod o dramor, a bod y trafferthion diweddar yn "rhwystredig" tu hwnt.
Fe wnaeth y Post Brenhinol ddioddef ymosodiad seibr Rwsiaidd dair wythnos yn ôl, wnaeth effeithio'r systemau cyfrifiadurol roedden nhw'n ei ddefnyddio i anfon parseli dramor.
Oherwydd hyn mae'r gwasanaeth ar stop nes i'r mater gael ei ddatrys - a hynny hyd yn oed wedi gorfodi un dyn busnes i fynd â pharsel gydag ef ar wyliau i'r UDA er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd cwsmer.
'Tipyn o ergyd'
Mae gan Cadwyn siop yn Abertawe, ond maen nhw hefyd yn gwerthu ar-lein gyda llawer o'u nwyddau Cymreig nhw'n cael eu prynu gan bobl o dramor.
Ond ers 10 Ionawr, mae eu cyfarwyddwr Sioned Elin yn dweud fod yr holl barseli oedd i fod i gael eu hanfon dramor wedi bod yn sownd yng nghanolfan leol y Post Brenhinol.
"Ni wedi bod yn cael problem enfawr o ran anfon parseli," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.
"Ni'n danfon nifer fawr o lwyau caru, i America yn bennaf.
"Ond ychydig iawn o gyfathrebu sydd [gan y Post Brehninol], a dyw eu gwefan nhw ddim yn cael ei ddiweddaru'n ddyddiol o gwbl chwaith.
"Mae cwsmeriaid yn cysylltu gyda ni - mae un person yng Ngweriniaeth Iwerddon sy'n priodi fis nesa', ac maen nhw wedi archebu llwyau caru genno ni sydd werth cannoedd o bunnau, ac mae'r parsel yna'n sownd yn Abertawe."
Ychwanegodd nad oedd defnyddio cwmnïau dosbarthu eraill yn fforddiadwy gan eu bod nhw'n costio "bedair gwaith" yn fwy na'r Post Brenhinol.
"Mae tua chwarter ein busnes ar-lein ni yn cael ei ddanfon dramor, felly mae hwn wedi bod yn dipyn o ergyd," meddai.
"Ers yr holl drafferth yma ni'n gorfod cysylltu gyda phawb sy'n archebu o dramor i esbonio'r sefyllfa iddyn nhw, ac mae nifer yn canslo'u harchebion achos does dim dal pryd gawn nhw eu harcheb.
"Mae'n eitha rhwystredig achos er bod Ionawr yn fis eitha' tawel yn fasnachol, i ni mae gyda chi briodasau ar y gorwel, Sant Ffolant ac ati, felly mae pobl yn archebu llwyau caru, felly mae e'n ergyd."
Mynd â pharsel ar wyliau
Fe wnaeth person busnes arall o Gymru hefyd dderbyn archeb yn ddiweddar gan gwsmer o Tennessee - a phenderfynu mai'r peth hawsaf oedd mynd â'r parsel i'r UDA ei hun.
Dywedodd Vern, sy'n rhedeg busnes offer cŵn WildBarc, ei fod wedi edrych ar opsiynau eraill ond y byddai wedi costio £58 iddo anfon bocs bychan.
Felly gan ei fod yn mynd ar wyliau i Efrog Newydd beth bynnag, fe aeth â'r parsel gydag ef, a'i anfon ymlaen o fanno i'r cwsmer "hapus".
"Pan gawson ni'n archeb yna, gan wybod ein bod ni'n mynd i Efrog Newydd am gyfnod byr, roedden ni'n gwybod beth oedd angen ei wneud," meddai Vern, sydd ddim am roi ei gyfenw.
Dywedodd Vern fod ei gwmni'n anfon tua 30 o archebion dramor bob wythnos, ond nad oedd yn gwybod pryd fyddai problem y Post Brenhinol yn cael ei ddatrys.
"O leia' gyda'r streics oedd yn cael eu cynnal, roedden ni'n gwybod beth oedd yn digwydd," meddai.
"'Dy'n ni heb gael llawer o wybodaeth am yr ymosodiad seibr, 'dyn ni'n cael cwpl o negeseuon wrth geisio prynu ar-lein ond does neb wir yn gwybod beth sy'n digwydd."
Mewn datganiad fe ddywedodd y Post Brenhinol eu bod nhw'n gweithio ar broses anfon newydd, ond eu bod nhw dal yn cynghori pobl i beidio â cheisio anfon parseli dramor am y tro.
"Ein ffocws cychwynnol fydd clirio'r parseli allforio sydd eisoes wedi eu prosesu, ac sy'n aros i gael eu hanfon," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2022