Gwrthdrawiad Pontypridd: Cyhoeddi enwau dau fu farw
- Cyhoeddwyd

Roedd Kayleigh Cornwell yn fam i bump o blant
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau enwau'r ddau berson a fu farw wrth gerdded ar ffordd ym Mhontypridd.
Bu farw Jason Morgan, o ardal Ynysybwl y dref, a Kayleigh Cornwell o Hampshire - y ddau yn 32 oed - ar ôl cael eu taro gan gar ar y B4273, sef Heol Ynysybwl, tua 18:30 nos Wener.
Cafodd trydydd cerddwr, dyn 36 oed o Lantrisant, driniaeth am fân anafiadau wedi i'r grŵp gael eu taro gan Ford Focus du.
Dywed y llu bod gyrrwr y cerbyd "wedi aros yn lleoliad y gwrthdrawiad i roi cymorth i swyddogion", gan ychwanegu: "Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad."
Yn ôl datganiad yr heddlu, mae teulu Mr Morgan yn dweud eu bod yn ddiolchgar i bawb fu'n rhan o'r digwyddiad a bod "eu meddyliau gyda gyrrwr y cerbyd oedd yn y gwrthdrawiad".

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Ynysybwl, Pontypridd
Dywedodd teulu Ms Cornwell ei bod "yn ferch, chwaer a mam i bum plentyn prydferth roedd hi'n eu haddoli ac yn cael ei haddoli ganddyn hwythau".
Ychwanegodd y teulu: "Roedd bywyd Kayleigh yn gythryblus ond fe wnaeth y gorau ohono ac roedd hi'n gallu gweld dyfodol i'w hun. Mae ein calonnau'n torri.
"Rydym yn gobeithio bod Kayleigh bellach mewn heddwch ac yn symud ymlaen i fywyd gwell, gan wybod gymaint roedden ni oll wir yn ei charu."
Mae'r heddlu'n parhau i ofyn am wybodaeth a lluniau allai fod o fudd i'r ymchwiliad sy'n parhau i'r gwrthdrawiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2023