Clare Drakeford: Teyrngedau yn y Senedd i wraig y prif weinidog

  • Cyhoeddwyd
Mark and Clare DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mark a Clare Drakeford briodi yn 1977

Cafodd munud o dawelwch ei gynnal yn Siambr y Senedd ddydd Mawrth wrth i wleidyddion roi teyrnged i'r ddiweddar Clare Drakeford.

Cafwyd cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ddydd Sadwrn fod gwraig y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi marw.

Wrth i'r Senedd gyfarfod am y tro cyntaf ers hynny, dywedodd y Llywydd Elin Jones fod Mr Drakeford a'i deulu "yn ein calonnau a'n gweddïau".

Ychwanegodd y Gweinidog Busnes, Lesley Griffiths, y byddai'r prif weinidog yn gwerthfawrogi geiriau caredig Aelodau'r Senedd.

Negeseuon o bob plaid

"Weithiau mae'n anodd i bobl tu allan i'r Siambr hon ddeall, ond gall rhywbeth sy'n poeni un ohonom ni ein poeni ni i gyd," meddai Ms Jones.

"Yn yr achos yma, mae poen y prif weinidog yn rhywbeth sydd wedi effeithio ar bobl drwy Gymru."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei fod yn "newyddion ysgytwol".

Ychwanegodd fod Mrs Drakeford yn ddynes "garedig a thosturiol", a'i bod hi a'i gŵr "wedi ymroi i'w gilydd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Mark a Clare Drakeford dri o blant, ac roedden nhw wedi byw ym Mhontcanna, Caerdydd ers 30 mlynedd

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price hefyd gynnig cydymdeimlad ar ran ei blaid, gan ddweud ei bod hi'n "anodd dygymod" â'r newyddion.

Mae Downing Street eisoes wedi dweud bod Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak, wedi cydymdeimlo gyda Mr Drakeford yn breifat.

Yn ddiweddarach fe ddywedodd Mr Sunak ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod yn "drist tu hwnt" i glywed am farwolaeth Mrs Drakeford, ac nad oedd yn gallu "dychmygu'r boen mae Mark a'i deulu yn ei deimlo".

Ar ran y blaid Lafur, dywedodd Syr Keir Starmer ei fod wedi "synnu a thristáu" gan y newyddion.

"Rydw i'n gwybod pa mor agos oedden nhw fel cwpl, ac allai ond ddychmygu'r golled mae Mark a'r teulu cyfan yn ei deimlo," meddai.

'Dyddiau anodd' Covid

Yn ystod pandemig Covid, daeth i'r amlwg fod Mark Drakeford yn byw mewn adeilad yn ei ardd er mwyn diogelu ei deulu, gan fod ei wraig a'i fam-yng-nghyfraith yn "fregus", ac ymhlith y grwpiau oedd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer y brechlyn.

Ym mis Hydref 2020 fe siaradodd am y "dyddiau anodd" yn gynharach y flwyddyn honno pan fu ei wraig a'i fam-yng-nghyfraith yn sâl gyda Covid.

Dywedodd ei fod hefyd wedi petruso cyn rhoi ei enw ymlaen yn 2018 i olynu Carwyn Jones fel Prif Weinidog Cymru, oherwydd yr effaith bosib ar ei deulu.

Pynciau cysylltiedig