Y syniadau dadleuol y tu ôl i Plant y Fflam
- Cyhoeddwyd
Mae Cleif Harpwood wedi bod yn trafod yr albwm Plant y Fflam ar raglen Rhys Mwyn, gan ddatgelu'r syniadau a'r athronyddiaeth y tu ôl i'r cyfanwaith uchelgeisiol hwnnw.
Plant y Fflam oedd albwm olaf Edward H. Dafis, band hynod boblogaidd a ffurfiwyd ar ddechrau'r saithdegau. Roedd yn cynnwys Cleif fel prif leisydd, Dewi 'Pws' Morris, Hefin Elis, Charli Britton a John Griffiths, cerddorion oedd yn cael eu hadnabod eisoes fel aelodau o fandiau poblogaidd ar droad y degawd.
Rhyddhawyd yr albwm flwyddyn ar ôl refferendwm 1979. Ar Ddydd Gŵyl Dewi y flwyddyn honno, pleidleisiodd bron i 80% o'r wlad yn erbyn creu cynulliad cenedlaethol.
Eglurodd Cleif, "Crewyd rhwyg ofnadwy yn y gymdeithas Gymraeg. Hefyd, siomwyd y garfan [genedlaetholgar] oherwydd i ni golli mas bryd hynny.
"Ond mi'r oedd 'na apêl gan bobl i ddal i chwilio, dal i gredu ac i gydweithio tuag at y gôl yna o... Gymru newydd, gyfoes, rhydd".
Gwreiddiau gwleidyddol
Mae gwreiddiau'r casgliad, sydd yn cynnwys caneuon enwog fel Dewch At Eich Gilydd, yn hynod wleidyddol. Roedd egwyddorion a gweledigaeth mudiad Adfer i'w gweld yn amlwg drwy gerddoriaeth y band ers eu cyfnod cynnar ar ddechrau'r saithdegau. Roedd y mudiad yn ymateb i'r ffaith bod nifer o bobl yn mudo o ardaloedd gwledig y Gorllewin, problemau sydd heb eu datrys hyd heddiw, yn ôl Cleif.
"Beth ydyn ni'n sôn yn fan hyn ydi'r problemau sydd gyda ni o hyd, sef y diboblogi... pobl yn gadael y cadarnleoedd a'r ardaloedd gwledig. Roedd hwn yn broses llawer mwy amlwg bryd 'ny, ond mae'n cyfeirio at y dewis 'na oedd pobl yn ei wneud, pobl fel fi, ddewisiodd fynd o gymuned yn y Gorllewin i Gaerdydd i weithio".
Albwm sy'n dweud stori
Er mwyn mynegi'r teimladau hyn ar ffurf albwm, penderfynodd y band greu albwm gysyniadol, gyda stori oedd wedi ei dylanwadu gan chwedloniaeth Gymreig a Cheltaidd.
"Roedd [Dewi Pws a fi] yn teimlo bod neges gyda ni. Oedden ni isio cyfleu'r neges yna mewn ffordd chwedlonol, Tolkien-istaidd, Mabinogol. Mae gen i ddarn o bapur, y cynllun gwreiddiol, sef map oedd yn arwain i'r 'Tir Glas', ac ar sail hwnnw mae'r albwm wedi ei chreu.
"Dyma ni'n clywed [stori] am y teithiwr yma yn eistedd o flaen y tân, ac yn y fflamau, dyma'n gweld y plant yma yn gweld y Tir Glas yn y pen draw."
Aelodau Edward H. Dafis yn anghytuno
Mi ddatgelodd Cleif hefyd nad oedd aelodau eraill y band yn cytuno â'r egwyddorion hyn i'r un graddau ag yntau a Dewi Pws.
"Mi wnaeth Dewi a finnau benderfynu ar y trywydd yma yn erbyn dymuniad y bois eraill, dwi'n meddwl.
"Doedd dim pob un ohono' ni yn gytun hefo'r athroniaeth yna... ond 'roedd yn thema ar ddechrau a diwedd gyrfa Edward H."
Er hyn, mae cyfraniad y cerddorion eraill, sef Hefin Elis a'r diweddar aelodau John Griffiths a Charli Britton, yn holl bwysig i'r gerddoriaeth. Bu i'r pump gytuno i weithio ar bob cân yn yr albwm yma ar y cyd.
"Mae eu gwaith nhw yn amlwg iawn ar yr albwm yma, achos cywaith oedd yr albwm. Fe benderfynwyd ein bod ni gyd yn mynd i gyfrannu, nid caneuon unigol ond ein bod ni i gyd yn mynd i gydweithio ar bob un trac ar yr albwm. Dyna pam does na ddim credydau i unigolion ar yr albwm, mae'r cyfan yn gywaith gan y pum aelod".
Mae Cleif hefyd wedi bod yn hyrwyddo ei hunangofiant, Breuddwyd Roc a Rôl, yn ddiweddar, gyda thaith acwstig ar y cyd hefo Geraint Cynan. Bydd yn trafod y gyfrol gyda Dei Tomos ar raglen nos Sul 5 Chwefror.
Hefyd o ddiddordeb: