Stifyn Parri 'wedi helpu ei hun ac eraill' drwy Brookside

  • Cyhoeddwyd
Gordon Collins (Nigel Crowley) a Christopher Duncan (Stifyn Parri)Ffynhonnell y llun, Stifyn Parri
Disgrifiad o’r llun,

Gordon Collins (Nigel Crowley) a Christopher Duncan (Stifyn Parri)

Ni fyddai Stifyn Parri erioed wedi dychmygu arwyddocâd ei rôl yng nghyfres Brookside pan gafodd gynnig cytundeb i chwarae cymeriad Christopher Duncan yn 1987.

Ni fyddai chwaith wedi rhagweld pwysigrwydd chwarae'r cymeriad i'w fywyd personol.

Wrth i'r gyfres gael ei ail ryddhau wedi 20 mlynedd ar 1 Chwefror mae'r actor yn dal i gael pobl yn diolch iddo am ei ran ym mherthynas hoyw agored cyntaf ar sgrîn ym Mhrydain.

I'r "athrylith" Sir Philip Redmond, cynhyrchydd Brookside, mae'r diolch go iawn, meddai Stifyn Parri wrth Aled Hughes ar Radio Cymru.

"Oni'n ffan. Oni'n arfer gwylio Brookside drwy'r omnibus drwy pnawn dydd Sadwrn gyda hangover yn fy fflat yn Fairwater yng Nghaerdydd," meddai.

"Oedd o yn gyffrous ag oedd o yn wahanol achos dwi'n meddwl roedd y sgwennu a'r concept i gychwyn yn bur wahanol i'r sebonau erill. Ar y pryd doedd 'na ddim hiwmor camp go iawn mewn pethau fel Coronation Street ond roedd hwn yn rough ac yn edgy ag yn wirionedd. Roedden nhw yn trafod pynciau y byddai sebonau eraill ddim yn eu cyffwrdd."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu Corkhill o gyfres Brookside

Fel gwyliwr brwd o Brookside bu Stifyn yn dilyn stori am berthynas rhamantus rhwng dau ddyn yn datblygu, heb iddo wybod y byddai yntau yn dod yn rhan o'r union stori honno.

Dywedodd: "Cyn i Christopher Duncan (sef cymeriad Stifyn Parri) ymddangos ar y sgrin wnaethon nhw ddechrau ei drafod o achos roedd y teulu Collins efo mab o'r enw Gordon. Wnaethon nhw anfon Gordon i Baris a mi ddoth o nôl yn ginger ac yn hoyw, as you do.

"Wnaethon nhw drafod y cariad 'ma, 'Christopher Duncan' am rhyw flwyddyn a dwi wir, wir yn cofio meddwl tybed pwy gawn nhw i chwarae y rhan yna a dwi'n edrych ymlaen i gyfarfod pwy bynnag fydd o.

"Rhyw flwyddyn yn ddiweddareach mi ges i alwad gan fy asiant yn dweud 'you've got an audition for Gordon's friend' a'r ffordd roedd hi wedi dweud 'friend' oni'n meddwl, dwi'n gwbod be mae hon yn olygu…

Ffynhonnell y llun, Stifyn Parri
Disgrifiad o’r llun,

Stifyn Parri a Nigel Crowley

"Wrth gwrs y pryd hynny roedd y gair hoyw, neu gwrwgydiwr fel oedden ni'n arfer dweud, yn tabŵ mawr so roedd fy agent i braidd yn shocked pan oedden nhw eisiau fy ngweld i ar gyfer rhan hoyw."

'Ffawd'

Wedi ei seilio ar gymuned yn Lerpwl daeth Brookside yn un o raglenni mwyaf poblogaidd Channel 4 yn yr 80au gan ddenu hyd at 8 miliwn o wylwyr y bennod.

Daeth yn adnabyddus am gyflwyno straeon heriol a gwirioneddol oedd yn adlewyrchu newid cymdeithasol yn y cyfnod. Roedd cymeriad Stifyn yn bartner i Gordon Collins, sef y cymeriad hoyw cyntaf agored ar deledu ym Mhrydain.

"Nes i eistedd ar y trên am bump awr yr holl ffordd yna yn ail-ddeud drosodd a drosodd canoedd o weithiau y frawddeg mwyaf rude alli di feddwl amdano, ond roedd y synau Lerpwlaidd i gyd ynddo," meddai Stifyn wrth gofio nôl at y clyweliad.

"Fel nes i gerdded i mewn wnaeth Phil Redmond ddweud 'I hope you don't mind but we're recording this' a dyna lle oedd 'na gamera bychain ar dripod o 'mlaen i. 'No not at all'medde fi, a fel oni'n mynd i eistedd wnaeth o ddweud 'by the way your character's Welsh'.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Darlledwyd Brookside am y tro cyntaf ar Channel 4 yn 1982 a daeth i ben yn 2003

"Dyma 'ngwyneb i jest yn syrthio i'r llawr a fi'n dweud 'what? I've just spent five and a half hours in a toilet trying to learn Liverpudlian with the most obscene sentence you've ever heard', a wnaeth e ddweud 'oh please let's hear it' a nes i ddweud 'no, no, no, no, I'll never get the job, you'll send me out'. 'No please let us hear it," medde fo.

"Fel nes i gymryd fy anadl i adrodd y frawddeg hir-wyntog rude uffernol 'ma wnaeth y camera syrthio oddi ar y tripod ar y llawr. A be' nes i wrth gwrs oedd neidio ar y llawr, gorwedd yn fflat ar fy mol, edrych yn syth i mewn i'r lens, dweud y linell ddrwg ma a ges i'r contract. That's showbiz!

"Roedd ffawd wedi nocio'r camera 'na off dwi'n meddwl!"

'Dim affliw o syniad'

Gan adrodd stori'r berthynas hoyw ar deledu ym Mhrydain torrwyd tir newydd ar Brookside.

Mae Stifyn yn cyfeirio at glyfrwch y sgriptwyr am ei wneud yn bosib ond doedd gan yr actor, oedd yn 26 ar y pryd, "ddim affliw o syniad" be fyddai yn dilyn yr olygfa enwog lle roddodd gusan ar foch ei bartner.

"Be' oedd yn ddifyr ac yn glyfar tu hwnt oedd doedd y sgwennwyr ddim wedi sgwennu unrhyw storyline hoyw i ni'n dau am flwyddyn gyfan, fel bod y gynulleidfa yn gallu cymryd perchnogaeth yn ein cymeriadau ni, delio efo ni, arfer efo ni, licio ni, teimlo amdanon ni a wedyn wnaethon nhw ddechrau rhoi'r storylines ma ynglŷn â bobl oedd yn bod yn ofnadwy o wrth-hoyw.

Ffynhonnell y llun, Stifyn Parri
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd Stifyn Parri fel cymeriad Christopher Duncan mewn chwe pennod o Brookside rhwng 1987 a 1988

"Dwi'n cofio gweld ar y script, 'Christopher gives Gordon a peck on the cheek' a dyna fo… mi wnaethon ni wneud yr olygfa."

Mi fyddai amseru craff yr union olygfa honno yn golygu sylw fyd-eang i Brookside a Stifyn ei hun. Darlledwyd y bennod noson cyn i 20 mil o bobol orymdeithio ym Manceinion yn erbyn Clause 28, sef cyfraith gan y Ceidwadwyr wnaeth wahardd 'hyrwyddo' cyfunrywiaeth.

"Roedden nhw wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw ynghlwm a'r storyline yna," esbonia Stifyn.

"Felly ar y Nine,O'clock News, wnaethon nhw ddweud 'and finally two men have finally kissed on British telly' a nes i ddim sylweddoli be' oedd pwysigrwydd y peth."

'Doeddwn i, Stifyn Parri, heb ddod allan'

Ond mae'n ymddangos y byddai ffawd yn gwneud ei waith eto ym myd Stifyn Parri gan nad oedd y Cymro tu ôl i gymeriad hoyw enwog Christopher Duncan wedi dod allan ei hun ar y pwynt yma.

"Diwrnod wedyn, roedden ni ar ffrynt yr orymdaith wedi cael ein gwadd gan Ian Mckellen a Michael Cashman i fod yn rhan o'r ymgyrch ond be oedd neb yn sylweddoli, tra oni'n siarad yn gyhoeddus o flaen 20 mil o bobl, a'r world media o'n blaenau ni yn Albert Square, doeddwn i Stifyn Parri heb ddod allan… doeddwn i heb gyfaddef fy hun.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Stifyn Parri, Michael Cashman a Ian Mckellen yn arwain yr orymdaith yn erbyn Clause 28 ym Manceinion ar Chwefror 1988. Daeth Ian Mckellen, fel Stifyn, allan yn hoyw hefyd yn ystod yr orymdaith

"Y rheswm oedd, roedd gen i broffil eithaf iach yng Nghymru yn barod oherwydd cychwyn S4C a roedd gen i ofn ar y pryd - fel fyddai gan rhai bobl yn dal heddiw - cyfaddef bod nhw yn hoyw oherwydd roedd gen i ofn i'r Cymry Cymraeg droi cefnau arna'i. Roeddwn wedi cael digon o grief yn barod gan bo fi wedi gadael Cymru a mynd i weithio yn Lloegr.

"Be wnaeth ysgogi fi oedd bod na ddim ymateb. Doedd na ddim ymateb negatif o gwbl ac y diwrnod hwnnw roedd na 20 mil ar yr orymdaith a dim un arrest gan yr heddlu.

"So ar ôl dod allan i'r byd ar y NineO'Clock News ac i'r world press nes i benderfynu mynd adref i ddweud wrth Mam."

Ffynhonnell y llun, Peter J Walsh
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y brotest ei chynnal tri mis cyn i'r gyfraith ddod yn fyw

'Dwi dal i gael pobl yn diolch'

"Ti'n gwybod be, mae o yn ddiolch mawr, oherwydd nes i ddysgu gymaint trwy sgwennwyr Brookside am sut i ddygymod gyda bywyd hoyw achos roedd y scripts o flaen y pethau oedd yn digwydd yn fy mywyd i. Ar y pryd roedd dynion hoyw a merched sengl yn cael problemau i gael insurance neu problemau i gael mortgage achos roedden ni yn israddol mewn cymdeithas.

"Mae 'na rai sydd yn dod syth ata'i ac yn rhoi hug gan ddweud 'what you did for us you will never ever understand, thank you so much.

"Dwi dal i gael gymaint o bobl trwy Facebook, Twitter neu Instagram - yn enwedig dynion fy oed i falle - yn diolch oherwydd doedd ganddon ni, dyddiau hynny, neb i uniaethu â nhw a dyna pam doeddwn i heb ddod allan.

"Ges i'r anhrydedd i helpu pobl eraill ond hefyd i helpu fi fy hun."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig