'Dim lle i gasineb,' medd Pride Cymru ar ôl protest

  • Cyhoeddwyd
Baner PrideFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd y tro cyntaf i orymdaith Pride Cymru gael ei chynnal ers 2019

Mae Pride Cymru wedi dweud nad oes "lle i gasineb" wedi i brotest darfu ar orymdaith LHDTC+ yng Nghaerdydd.

Mae fideo wedi dod i'r amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n dangos yr heddlu yn gofyn i grŵp adael yr orymdaith am resymau diogelwch ddydd Sadwrn.

Ni chafodd unrhyw un ei arestio, yn ôl Heddlu De Cymru, wedi i "grŵp protest bach ymgasglu ar lwybr yr orymdaith er mwyn ei rhwystro rhag parhau".

Roedd trefnwyr y brotest, Get The L Out, yn cario baneri gan gynnwys un oedd yn dweud "mae transactivism yn dileu Lesbiaid".

Ar wefan, mae Get The L Out yn disgrifio'i hun fel "grŵp ymgyrchu ffeminist lesbiaidd".

Fe ddywedodd un o'r sylfaenwyr wrth BBC Cymru ei fod wedi trefnu gorymdaith gyda Merched Cymru, Women's Rights Network Wales a'r LGB Alliance dros hawliau lesbiaid.

"Mae'n ymddangos fod atyniad o'r un rhyw bellach yn troi'n drosedd gasineb," medd Angela Wild.

Fe ddywedodd trefnwyr Pride Cymru: "Fe wnaeth y gymuned a'r dorf eu boddi nhw drwy floeddio'u solidariaeth."

"Fel y dywedodd ein gorymdaith ni heddiw, mae hawliau pobl traws yn hawliau dynol," meddai cadeirydd Pride Cymru, Gian Molinu.

Protestwyr heb gofrestru

Fe wnaeth swyddogion esbonio i'r grŵp "pam fod angen iddyn nhw symud, yn ogystal â rhoi cyngor ar brotestio'n gyfreithlon a chynnig i'w cynorthwyo i wneud hynny," meddai'r llu.

"Fe wnaeth y grŵp gydymffurfio a gadael yr ardal cyn hir."

Ar gyfrif Twitter, fe ddywedodd Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Hannah Blythyn: "Does dim lle i gasineb - rydyn ni'n cydsefyll gyda'r gymuned LHDTC+ ac yn cydsefyll y tu fewn iddi."

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Pride Cymru: "Mae'n rhaid i bawb sy'n rhan o'r orymdaith gofrestru o flaen llaw er mwyn sicrhau diogelwch pawb.

Ffynhonnell y llun, Mark Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd llais y protestwyr ei foddi 'wrth i'r gymuned a'r dorf floeddio'u solidariaeth'

"Fe wnaeth y grŵp yma darfu ar yr orymdaith dros hanner ffordd drwyddi, doedden nhw ddim yn rhan o'r orymdaith, doedden nhw ddim wedi cofrestru felly doedd dim hawl ganddynt i fod yno. Fe wnaeth Heddlu De Cymru eu symud nhw ymlaen."

Fe ddywedodd Ms Wild o Get the L Out iddyn nhw beidio â cheisio cofrestru ar gyfer yr orymdaith.

Roedd hyn am iddyn nhw deimlo y bydden nhw'n cael eu gwrthod, meddai, wedi i rai aelodau o'r gymuned LHDT ddisgrifio'u safbwynt fel un trawsffobig.

"Mae anghenion lesbiaid yn gwrthgyferbynnu'n llwyr gyda dynion sy'n uniaethu fel merched.

"Pan mae lesbiaid yn dweud hynny, rydyn ni'n cael ein galw'n drawsffobig ac mae angen i ni ddechrau trafodaeth am hynny fel man cychwyn," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig