Colofn Shane: Sut mae atal Iwerddon?
- Cyhoeddwyd
Mae hi yr adeg yna o'r flwyddyn unwaith eto. Dros yr wythnosau nesaf bydd degau o filoedd o bobl yn teithio i brifddinasoedd gwledydd y Chwe Gwlad i gefnogi eu timau yn y gystadleuaeth rygbi eiconig.
Un o sêr rygbi Cymru yn hanes y gystadleuaeth yw Shane Williams, ac mi fydd yn rhannu ei farn gyda BBC Cymru Fyw am y bencampwriaeth dros yr wythnosau nesaf. Yma mae Shane yn sôn am Warren Gatland yn dychwelyd i Gymru, y bygythiadau ddaw gan Iwerddon a'r chwaraewyr ifanc mae'n edrych mlaen i'w gweld ar y cae.
Dwi'n hoffi'r tîm mae Warren wedi ei ddewis. Mae 'na chwaraewyr sy'n haeddu cael y cyfle 'ma gan bo' nhw wedi bod yn chwarae'n dda i'r clybiau rhanbarthol - bois fel Jac Morgan a Justin Tipuric. Mae hefyd yn neis gweld Rio Dyer yn cael cyfle ar ôl creu argraff yn yr Hydref.
Ond mae Gats hefyd wedi troi nôl at brofiad gan ddewis chwaraewyr fel Alun Wyn Jones a Ken Owens, felly ma'n gymysgedd dda rwy'n credu. Mae eisie'r profiad 'na ond mae hefyd yn braf gweld bechgyn sy'n chwarae'n dda'n gyson yn cael cyfle.
Gatland yn dychwelyd
Bydd Gats yn creu impact achos mae'r chwaraewyr yn trystio fe, ac mae'r garfan yn gwybod beth mae e'n gallu gwneud pan mae'n hyfforddi. Dwi ddim yn becso, ond dydy e heb fod gyda garfan Cymru ers hir nawr ac heb wario lot o amser gyda'r bois i hyfforddi fel mae e eisie.
Mae rygbi wedi symud mlaen ers iddo fe hyfforddi Cymru gyntaf, felly mae lot o waith 'da fe i wneud mewn amser byr. Falle bod rhai pobl yn meddwl y bydd Gats yn gallu creu gwyrthiau mewn cwpwl wythnosau - dwi ddim yn gwybod os yw hynny am ddigwydd. Mae rhaid ni gael amynedd da fe, ac amynedd gyda'r systemau newydd achos mae ganddo garfan newydd dan ei reolaeth e.
Fel dwedes i mae rygbi wedi symud mlân dros y blynyddoedd diweddar, ond wedi dweud hynny mae lot o dimau dal yn chwarae'r hyn mae bobl yn galw'n 'Warren ball' - cadw'r bêl am amser hir a mynd o un ochr o'r cae i'r llall. Ond mae rygbi'n gêm syml ar ddiwedd y dydd. Mae rhaid chi gadw'r bêl, chwarae drwy'r cymalau, croesi'r llinell fantais a rhoi pwysau ar y gwrthwynebwyr.
Mae lot o'r pethau oedd Gats yn dysgu ni dal yn gweithio heddiw, ond o 'nabod e bydd e eisie newid pethe rhywfaint hefyd. Mae e'n lot o waith i wneud mewn pythefnos efo'r garfan, ond o 'nabod Gats bydd e'n rhoi lot o hyder i fechgyn y garfan ac i'r cyhoedd hefyd gan adeiladu at Cwpan y Byd ar ddiwedd y flwyddyn.
Y rheng-ôl
Gyda fy nghap Gweilch am fy mhen allai ddweud mai nhw sy'n chwarae'r rygbi gorau yng Nghymru ar y funud, dwi'n mwynhau y ffordd ma nhw'n chware. Rwy'n mwynhau gweld Tips (Justin Tipuric) yn chwarae fel mae fe - odd e mas am sbel gydag anaf ond mae e nôl ac yn chwarae yn well ac yn well bob wythnos. Mae wedi bod yn arbennig dros y mis diwethaf.
Ond rwy'n edrych ymlaen yn ofnadwy i weld Jac Morgan unwaith eto - boi o'r Dyffryn (Aman) sy'n byw gyda'i deulu'n lan yn Brynaman. Fi'n 'nabod e ac yn gwybod bod e wedi gweithio'n galed iawn i gael lle nôl yn y garfan. Roedd e'n arbennig yn yr Hydref, ac hefyd Taulupe Faletau wrth ei ochr.
I ddweud y gwir rwy'n edrych mlaen i weld ein rheng-ôl i gyd yn chwarae achos penwythnos 'ma mae nhw'n erbyn y rheng-ôl gore yn y byd, gyda chwaraewyr fel Josh van der Flier, Caelan Doris a Tadhg Beirne. Os bydd rheng-ôl Cymru'n cael gêm arbennig mae cyfle 'da i ni ennill y gêm.
Bob tro o'n i mewn tîm 'nath maeddu Iwerddon roedd o wastad mewn tîm ble roedd bois y rheng-ôl, Justin Tipuric, Sam Warburton, Dan Lydiate, yn chwarae'n arbennig o dda.
Y rheng-flaen
Mae'n mynd i fod yn her achos mae fainc Iwerddon yn y rheng-flaen mor, mor gryf. Ond mae profiad da Tomas Francis ac os edrychwn ni ar Rhys Carre, mae e wedi bod yn chwarae'n dda ar lefel rhanbarthol.
Mae'n rhaid i ni fod yn drefnus yn y sgrym achos mae Iwerddon yn gallu ennill ciciau cosb yno ac yna bydd Sexton yn cicio i'r corneli. Mae gan Iwerddon sgarmes symudol effeithiol hefyd, gyda'r bachwr yn dod rownd i'r cefn ac yn gallu sgorio - mae rhaid bod yn ofalus efo hynny.
Mae'r gwaith yn dechrau lan yn y rheng-flaen, ond ma profiad 'da Ken cystal â unrhyw un yn y byd rygbi. Mae Dewi Lake yn chwaraewr sydd wedi dod nôl o anaf ac wedi bod yn arbennig i'r Gweilch, felly rwy'n siomedig iawn bod e wedi ei anafu yn ddiweddar, dwi'n gytud drosto fe. Ond rydyn ni mor lwcus i gael rhywun cystal â Ken Owens sydd am roi shifft rhywun am rhyw awr, gyda Scott Baldwin yna'n dod mlaen.
Rhys Webb yn y garfan
Mae'n dda gweld Rhys Webb nôl yn y garfan - mae e wedi bod yn chwarae'n dda i'r Gweilch ers dau neu dri tymor nawr. Mae'r profiad 'da fe ac mae e'n gwella a gwella gyda'r profiad 'na. Nôl pan o'n i'n chwarae da fe oedd e'n gwneud y 'show and go' ond yn cael ei ddal ar brydiau, a ddim falle'n gwneud y dewis gore pob tro.
Ond nawr mae 'di tyfu i mewn i chwaraewr da iawn gyda gêm gicio arbennig o dda, ac mae'n meddwl lot am y chwarae cyn ei wneud. Hefyd, mae wedi cael profiad diweddar o gapteinio'r Gweilch ac fe all hynny brofi'n bwysig iawn yn y bencampwriaeth.
Oes gwendidau yn nhîm Iwerddon?
Does dim lot ar goll yn eu gêm nhw yn anffodus! Dwi'n falch bo ni'n chware nhw'n gyntaf, achos mae'n cymryd amser i dimau ddod at ei gilydd yn iawn ac fe wneith Iwerddon gryfhau drwy'r gystadleuaeth. Bydd Iwerddon yn drefnus yn y chwarae gosod, felly bydd rhaid i ni wneud yn siŵr i ennill pêl glan ein hunain.
Dwi'n gobeithio y bydd ein olwyr ni'n cael 'crac' ar amddiffyn Iwerddon, ond mae am fod yn anodd. Mae'n bwysig bod ni'n chware nhw gartre' hefyd, achos fe all unrhywbeth ddigwydd yma.
Ffrainc ac Iwerddon yw'r ffefrynnau ar gyfer y gystadleuaeth, a bydd Ffrainc mas yn Ffrainc yn galed iawn, iawn - mae pawb yn gwybod hynny. Ond os ni'n gallu ennill yn erbyn Iwerddon yn y gêm gyntaf bydd Gats yn dweud wrth y bois bo nhw'n gallu maeddu unrhyw dîm yn y byd.
Pwy sydd am ennill?
Mae am fod yn gêm agos ac yn hynod o gystadleuol, ond dwi'n meddwl y bydd Cymru'n ennill o chwe phwynt.
Hefyd o ddiddordeb: