Chwe Gwlad 2023: Enwi Ken Owens yn gapten Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ken OwensFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Ken Owens o'r Scarlets fydd capten Cymru yn y Chwe Gwlad eleni

Mae bachwr y Scarlets, Ken Owens, wedi ei enwi fel capten Cymru ar gyfer ymgyrch y Chwe Gwlad eleni.

Mae Warren Gatland hefyd wedi cyflwyno pedwar cap newydd i'r garfan o 37 - Teddy Williams a Mason Grady o Gaerdydd a Rhys Davies a Keiran Williams o'r Gweilch.

Mae Rhys Webb, Rhys Carre, Rhys Patchell, Aaron Wainwright ac Owen Williams i gyd yn eu hôl.

Bydd Wyn Jones, Dewi Lake a Liam Williams hefyd yn dychwelyd i'r garfan ar ôl methu Cyfres yr Hydref oherwydd anaf.

Mae Ross Moriarty, Nicky Smith a Ryan Elias ymhlith yr absenoldebau amlwg.

Y dewis o gapten

Mae Owens, 36, wedi'i ddewis ar draul Justin Tipuric, a arweiniodd Cymru drwy Gyfres yr Hydref, a Dan Biggar, fu wrth y llyw ar gyfer y Chwe Gwlad yn 2022 a thaith yr haf i Dde Affrica.

"Mae Ken yn hynod brofiadol ac yn Gymro angerddol - mae'n golygu llawer iddo chwarae dros Gymru," meddai Gatland.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Hon fydd pencampwriaeth Chwe Gwlad cyntaf Warren Gatland ers dychwelyd i ofal y tîm cenedlaethol fis diwethaf

"Mae e hefyd yn boblogaidd iawn gyda'r chwaraewyr. Daeth yn ôl o anaf ac roedd yn arbennig yn ystod ymgyrch yr hydref.

"Mae'n debyg, os ydych chi'n dewis tîm ar hyn o bryd, mae e yw'r rhif un yn y safle hwnnw. Ond mae'n mynd i gael rhywfaint o gystadleuaeth gyda Dewi a Bradley hefyd, sy'n mynd i fod yn wych."

Er ymgyrch siomedig y llynedd bydd Cymru'n gobeithio efelychu llwyddiant 2021 pan sicrhawyd y bencampwriaeth ar ôl curo pob gwlad heblaw am Ffrainc.

Yn ystod ei gyfnod cyntaf fel hyfforddwr rhwng 2007 a 2019, dan ofalaeth Gatland fe enillodd Cymru bedair pencampwriaeth Chwe Gwlad, tair Camp Lawn, cyrraedd dwy rownd gynderfynol Cwpan y Byd a chael statws swyddogol o dîm gorau'r byd am gyfnod byr.

Bydd ymgyrch Cymru eleni yn cychwyn gartref yn erbyn Iwerddon brynhawn Sadwrn, 4 Chwefror.

Carfan Cymru ar gyfer Chwe Gwlad 2023

Blaenwyr: Rhys Carre (Caerdydd), Wyn Jones (Scarlets), Gareth Thomas (Gweilch), Dewi Lake (Gweilch), Ken Owens (Scarlets, capten), Bradley Roberts (Dreigiau), Leon Brown (Dreigiau), Tomas Francis (Gweilch), Dillon Lewis (Caerdydd), Adam Beard (Gweilch), Rhys Davies (Gweilch), Dafydd Jenkins (Caerwysg), Alun Wyn Jones (Gweilch), Teddy Williams (Caerdydd), Taulupe Faletau (Caerdydd), Jac Morgan (Gweilch), Tommy Reffell (Caerlŷr), Justin Tipuric (Gweilch), Christ Tshiunza (Caerwysg), Aaron Wainwright (Dreigiau).

Olwyr: Kieran Hardy (Scarlets), Rhys Webb (Gweilch), Tomos Williams (Caerdydd), Dan Biggar (Toulon), Rhys Patchell (Scarlets), Owen Williams (Gweilch), Mason Grady (Caerdydd), Joe Hawkins (Gweilch), George North (Gweilch), Nick Tompkins (Saracens), Keiran Williams (Gweilch), Josh Adams (Caerdydd), Alex Cuthbert (Gweilch), Rio Dyer (Dreigiau), Leigh Halfpenny (Scarlets), Louis Rees-Zammit (Caerloyw), Liam Williams (Caerdydd).