Shane Williams: 'Fy hoff geisiau Chwe Gwlad'
- Cyhoeddwyd
Mae gan bob cefnogwr rygbi ei hoff gais o gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - ond beth ydi dewis y chwaraewr sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf o geisiadau erioed i Gymru?
Mae cyn asgellwr Cymru a'r Llewod Shane Williams newydd fod ar daith o gwmpas chwe dinas y gystadleuaeth gyda'i arwr, cyn asgellwr Cymru a'r Llewod Ieuan Evans, i ffilmio 6 Gwlad Shane ac Ieuan, dolen allanol i S4C.
Felly wrth i ni edrych ymlaen at gêm agoriadol pencampwriaeth 2022, Cymru Fyw fu'n holi Shane Williams am ei hoff geisiau i gael eu sgorio ymhob dinas.
Dulun
Jonathan Davies, Cymru v Iwerddon, 2012
"Dyma'r Chwe Gwlad cynta' ar ôl i fi reteiro gyda Cymru, a'n Chwe Gwlad cynta' i gyda ITV yn sylwebu. Dweud y gwir do'n i ddim yn hapus ar y penwythnos yna - ro'n i'n gwylio'r gêm, y gynta' yn y Chwe Gwlad, a dal i feddwl os oedd blwyddyn arall yng ngharfan Cymru 'da fi, felly roedd e'n Chwe Gwlad galed i fi.
"Ond fi'n cofio George North yn torri llinell Iwerddon a mynd trwyddo a roddodd e cat flap pass i Jonathan Davies, wnaeth sgorio wedyn jest i'r dde o'r pyst. Roedd hynny wedi cheerio fi lan tipyn bach.
"Falle dyw hwn ddim y cais gorau i ni weld yn stadiwm Aviva, ond i fi yn bersonol roedd e'n neis i weld George yn cadw'r crys 11 i fynd (sef rhif Shane Williams cyn ymddeol) a gyda'r hyder i ddadlwytho'r bêl i Jonathan Davies fedru sgorio'r cais - ac wrth gwrs aeth Cymru ymlaen i ennill y gêm ac ennill y Chwe Gwlad hefyd."
Gwyliwch Jonathan Davies yn sgorio (1.42 i mewn):
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mynd draw i Ddulun ar gyfer gêm gyntaf Cymru? Darllenwch Taith o gwmpas cysylltiadau Cymreig Dulyn
Paris
Wesley Fofana, Ffrainc v Lloegr, 2013
"Fi'n credu'r flwyddyn yna roedd Wesley Fofana yn un o'r chwaraewyr gorau yn y byd. Fi wastad yn cofio'r cais yna gan fod e wedi bron maeddu saith amddiffynnwr Lloegr a sgorio o tua 70 llath mas o'r llinell. Fi'n cofio fe hefyd achos o'n i ddim wedi clywed lot am Wesley Fofana ar ôl y cais yna - roedd e wedi cwympo bant o'r radar tipyn bach.
"Gwylio'r gêm ar y teledu o'n i, a ro'n i'n ffan o Wesley Fafana. Oedd e'n chwaraewr tipyn gwahanol i fi - rhedeg yn syth a falle ddim y traed gorau yn y byd ond fi'n cofio'r cais 'ma, fel oedd e'n mynd heibio chwaraewyr Lloegr a defnyddio'r traed a chryfder yn y diwedd i sgorio'r cais o dri chwarter hyd y cae fi'n credu."
Gwyliwch gais Wesley Fofana:
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Rhufain
Scott Williams, Eidal v Cymru 2015
"Roedd hwn yn gêm eitha' clos hanner amser ond wedyn ail hanner rhedodd Cymru i ffwrdd gyda'r gêm, a'r cais olaf oedd un Scott Williams. Redodd Cymru'r bêl o linell eu hunain. Jonathan Davies yn gynta', wedyn dadlwytho mas o'r tacl ac wedyn Gareth Davies fi'n credu yn dilyn ar y dde a Scott Williams yn gorffen e bant. Roedd e'n gais arbennig ac un o'r ceisiau gorau fi 'di gweld Cymru yn sgorio deud y gwir - a gweld cais fel yna yn fyw hefyd.
"Ro'n i fod ar y ffens gan mod i'n gweithio ar y gêm yn sylwebu ond fi'n cofio dathlu'r cais yna. Mae'n galed iawn i aros ar y ffens - fi'n cefnogi Cymru ers yn chwe blwydd oed felly pan maen nhw'n neud yn dda mae'n galed i beidio gwenu."
Gwyliwch gais Scott Williams yn erbyn yr Eidal yn Rhufain:
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caerdydd
Shane Williams, Cymru v Yr Alban 2010
"Fi wedi bod tipyn bach yn selfish achos mae un yn sticio mas fwy na ceisiau eraill sef cais fi yn erbyn Alban 2010… cais sgories i yn eiliad ola'r gêm. Fi wedi dewis e achos pan mae pobl yn siarad am y stadiwm yng Nghaerdydd, maen nhw wastad yn sôn am y gêm yna yn erbyn yr Alban.
"Mae lot o bobl wedi dweud "cerddes i mas jest ar ôl hanner amser yn meddwl bod y gêm drosodd, roedda ni yn Walkabout neu Tiger Tiger (bar a chlwb nos yng Nghaerdydd) neu ble bynnag a jest clywed y sgrechen o'r stadiwm.
"Mae pobl wastad yn siarad am y gêm yna ac mae e wastad yn sticio 'da ni hefyd achos pryd ma'r bois yn siarad am y gêm yna y gair ma' nhw'n defnyddio yw bonkers.
"Fi'n cofio yn yr hanner gynta' roedden ni'n rubbish - Cymru yn rubbish, fi'n rubbish yn bersonol, y bois yn edrych wedi blino a'r Alban yn lot gwell na ni, a fi jest yn cofio agwedd y bois yn yr ail hanner, byth roi lan, sticio i'r game plan a chadw fynd reit at y funud ola' a sgorio'r cais 'na. Sai byth wedi anghofio hynny - a hefyd dyw pawb fi'n siarad gyda nhw ddim yn gadael i fi anghofio fe chwaith."
Ail-fyw y gais y wers o'r gais yn eiliadau ola'r gêm:
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llundain
Scott Williams, Lloegr v Cymru 2012
"Eto ro'n i'n gweithio yn y gêm yn Twickenham yn sylwebu a fi'n cofio roedd hi'n gêm gyfartal (12-12) ac aeth Scott Williams trwyddo'r sgarmes a dwgodd e'r bêl gan Courtney Laws a gorffennodd e cais reit ar ddiwedd y gêm i ennill y gêm.
"Sai'n cofio lot o gemau nôl yn y dydd, rhai o'n i'n chwarae ynddyn nhw, ond fi'n cofio ble o'n i pan sgoriodd Scott Williams - ac aeth Cymru ymlaen wedyn i ennill y Gamp Lawn.
"Fi'n cofio'r gêm yna hefyd achos ro'n i'n eistedd pitchside ac roedd Gareth Edwards tu ôl i fi gyda Robbie Savage ac am y gêm gyfan roedd Gareth Edwards yn dweud wrth Robbie Savage beth oedd yn mynd 'mlaen felly roedd clust tost gan Robbie Savage ar ôl y gêm.
"Fi'n hoffi gweithio pitchside - fi'n gallu eistedd gyda'r cefnogwyr a fi'n licio hynny - y canu a'r dathlu."
Cais Scott Williams yn erbyn Lloegr:
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caeredin
Sean Maitland, Alban v Lloegr 2018
"Fi'n cofio'r cais yma achos ges i e-bost gan World Rugby yn gofyn beth oedd y ceisiau gorau o dymor 2018 a fi'n cofio dweud roedd cais Maitland yn un o'r ceisiau gorau fi wedi gweld.
"Sgoriodd e reit yn y gornel, eto yn erbyn Lloegr - fi'n pigo lot o geisiau yn erbyn Lloegr sai'n gwybod pam! - ond fi jest yn cofio bod e'n cais arbennig a jest yn dangos beth mae tîm yr Alban yna yn gallu 'neud pan yn dadlwytho pêl mas o dacl, efo chwaraewyr fel Stuart Hogg a Hugh Jones a bois fel hyn - olwyr arbennig, a Maitland hefyd wrth gwrs, yn Llewod.
"Ro'dd jest y ffordd wnaeth nhw sgorio'r cais efo rhan fwya' o'r olwyr, a mynd o un ochr y cae i'r ochr arall ac wedyn o'r ochr dde i'r chwith yn y diwedd i Maitland sgori - cais arbennig."
Gwyliwch gais Sean Maitland: