Bachgen, 12, 'ofn gadael y tŷ' ar ôl ymosodiad honedig

  • Cyhoeddwyd
AlfieFfynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alfie sgan, wnaeth ddangos nad oes anafiadau mewnol, ond mae ei wyneb yn gleisiau drosto

Mae bachgen 12 oed wedi cael anafiadau i'w wyneb yn dilyn ymosodiad honedig arno yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Dywedodd mam y bachgen, Alfie, ei fod yn chwarae mewn parc ger Clwb Rygbi Cwm-gors gyda'i ffrindiau ar y pryd.

Yn ôl Sue, oedd ddim eisiau rhoi ei chyfenw, mae ei mab wedi bod yn "rhy ofnus i adael y tŷ" ers yr ymosodiad honedig ddydd Sul.

Mae hi'n honni i'w mab ddod adref gyda chleisiau a gwaed yn gorchuddio ochr dde ei wyneb.

Dywedodd mewn cyfweliad gyda Media Wales ei fod wedi derbyn ergydion uwchben ac o dan ei lygad, ei foch, gwefus a gên.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 36 oed a bachgen 16 oed wedi cael eu harestio.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ger Clwb Rygbi Cwm-gors ddydd Sul

Treuliodd Alfie chwe awr yn Ysbyty Treforys yn Abertawe ble cafodd sgan, wnaeth ddangos nad oes anafiadau mewnol, ond mae ei wyneb yn gleisiau drosto.

Dywedodd Sue fod yr effaith fwyaf ar Alfie wedi bod yn seicolegol.

"Mae ei fywyd wedi cael ei fygwth. Mae'n byw mewn ofn a dyw e ddim yn mynd allan. Mae'r ysbyty wedi ei gyfeirio am gwnsela."

Dywedodd Lindsey Sweeney o Heddlu'r De fod yr ymosodiad honedig wedi gadael y bachgen mewn sioc.

Cadarnhaodd Heddlu'r De ddydd Mercher bod dyn 36 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, tra bod bachgen 16 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o glwyfo bwriadol.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw.