'Mae Darwin fel Llandudno': Y barbwr o Gymru yn Awstralia
- Cyhoeddwyd
Ydych chi erioed wedi meddwl am neidio ar awyren a dechrau bywyd mewn lle hollol wahanol?
Dyna wnaeth Dion Padan o Gerrigydrudion wyth mlynedd yn ôl pan symudodd i fyw i Awstralia, lle mae wedi setlo gyda'i ŵr, Ben, ac wedi cael ei ddewis i fodelu ar gyfer ymgyrch i farchnata ei gartref newydd.
Gweithio fel barbwr mae Dion ac fe aeth i Awstralia pan gaeodd ei salon yn Lerpwl.
"Oedd genai'r busnes yn Lerpwl am 10 mlynedd a pan wnaeth y busnes gau lawr nes i benderfynu fflio drosodd i Awstralia a rhoi chance ar fyw bywyd mewn gwlad wahanol.
"Pan o'n i'n tyfu fyny oedd gen i wastad obsesiwn efo Awstralia - gwatsiad Home and Away a Neighbours, ac yn obsessed efo Kylie," meddai Dion ar raglen Bore Cothi, Radio Cymru.
Hedfanodd yno gyda fisa gwyliau a setlo yn Sydney i ddechrau.
'Dim byd i'w golli'
Fel rhan o amodau ei fisa roedd rhaid iddo symud i ranbarth arall o'r wlad a dyna pam y symudodd i Darwin, prifddinas Tiriogaeth y Gogledd.
"Oni'n meddwl os dydi o ddim yn gweithio allan, ella i fynd adre. 'Dwi 'di investio yn fy amser i fod yn Awstralia; be sydd gen i i'w golli?" meddai am y symud i ddinas newydd.
Mae yna gymuned gyfeillgar a chlós yno yn ôl Dion, nid yn annhebyg i nôl adre mewn rhai ffyrdd, meddai.
"Mae Darwin, er ei fod yn capital city y Northern Territory, mae o 'run fath â byw yn Llandudno - mae o mor fach a dio'm yn cymryd lot o amser i chi gyfarfod pobl. Ac wrth mod i'n gwneud gwalltiau bob dydd, 'dach chi'n dod i 'nabod pobl yn andros o gyflym.
"Dwi 'di bod wrth fy modd yma - mae Darwin mor boeth, o hyd: 'does ganddon ni ddim seasons fel sydd gan yr UK, mae ganddon ni wet season a dry season a dyna'r cwbl sydd gynnon ni - dydi hi byth yn mynd yn oer yma, mae dros 23 gradd o hyd."
Mae Darwin yn un o brif ddinasoedd mwyaf anghysbell y wlad ac yn agosach at Indonesia na Sydney - mae'n daith o bedair awr mewn awyren i unrhyw le arall yn Awstralia.
Modelu
Yna ddwy flynedd yn ôl, cafodd Dion ei ddewis i fodelu ar gyfer ymgyrch farchnata ryngwladol Tiriogaeth y Gogledd a chael cyfleoedd anhygoel - reidio camelod, teithiau hofrenydd, cychod moethus ac ymweld â threfi a phentrefi mwyaf trawiadol y rhanbarth.
"O'n i methu coelio pa mor lwcus o'n i …'dwi 'di gweld gymaint o'r Northern Territory a mae trips fel'na yn costio ffortiwn - o'n i'n andros o lwcus."
Mae bywyd yn "anhygoel" yn Awstralia gyda llawer o gyfleoedd ac ansawdd bywyd da meddai Dion.
Yn Darwin mae gan bobl lot mwy o amser i siarad am fod bywyd yn llawer mwy hamddenol: "Mae bob man ugain munud o drive i ffwrdd ac mae bywyd lot mwy stress free."
Sglefrod gwenwynig, crocodeils a tharanau
Ond mae Darwin hefyd yn lle llawn peryglon sydd ddim i'w cael yn Llandudno: nadroedd, crocodeiliaid a sglefrod môr gwenwynig, sy'n rheswm i gadw draw o'r dŵr.
"Fyswn i byth yn mynd i mewn i'r môr ond mae pobl sy'n byw yn lleol yn mynd mewn yn y dry season, sydd adeg yr haf yn yr UK.
"Ond dwi ddim mor desperate â hynny i fynd i'r môr - wella gena i fynd i'r pwll nofio!
"Be sy'n frustrating ydi mae'r dŵr o gwmpas ni yn bob man yn Darwin ac allwch chi ddim mynd mewn iddo fo!"
Yn ddiweddar fe brofodd y ddinas un o'r daeargrynfeydd gwaethaf mae'r ardal wedi ei gael ers blynyddoedd.
"Oedd o'n full on a doedd gena' i ddim syniad be i neud. A'th o 'mlaen am ddau i dri munud so nes i jyst gorwedd yn y gwely a gobeithio byse fo'n gorffen.
"Mae pob peth yn Darwin yn gallu'ch lladd chi - y cyclones, yr earthquakes, y taranu. Mae taranau yn hitio Darwin mwy na unlle arall yn y byd."
Teg edrych tuag adre
Un o Darwin ydi Ben, gŵr Dion, ac mae'n gweithio yn Sydney fel cyfarwyddwr Sydney World Pride sy'n digwydd bob dwy flynedd; mae Ben ac yntau wrthi'n penderfynu a ydyn nhw am wneud eu cartref yn Sydney neu Darwin ar hyn o bryd.
Ac er fod Dion wedi magu gwreiddiau yn Awstralia mae ei deulu gartref yng Nghymru yn golygu llawer iddo.
"Es i adre ddwywaith llynedd ac wrth mod i 'di symud i fyw dwi'n teimlo connection pan dwi'n mynd adre - 'dach chi yn sylwi ar bethau nad ydech chi erioed di sylwi arnyn nhw pan oeddech chi'n byw yma - mae'n lyfli mynd nôl adre a dwi yn colli gweld y teulu o hyd - ond dwi yn Facetimio Mam bron bob yn ail diwrnod."
Hefyd o ddiddordeb: