Rhedeg ras yn ysbrydoliaeth i newid bywyd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ian Owen yn trafod newid ei ffordd o fyw, rhedeg Ras Cefn y Ddraig a beth sy'n ei ysbrydoli

Mae'n deg dweud bod Ian Owen o Fethel ger Caernarfon yn hoffi her - o symud i ben arall y byd i fyw yn Awstralia i dreulio blwyddyn yn dysgu kung fu gyda mynachod Shaolin yn Tsieina, mae antur yn ei waed.

Ei her ddiweddaraf oedd cymryd rhan yn un o rasys mynydd anodda'r byd, sef Ras Cefn y Ddraig - daeth nôl i Gymru fis Awst i redeg y ras a gweld ei deulu am y tro cyntaf ers pedair blynedd.

Yn anffodus, wnaeth o ddim llwyddo i'w chwblhau ond mae wedi bod ar daith gorfforol a meddyliol arbennig er mwyn gallu cymryd rhan o gwbl.

Stopio yfed a dechrau rhedeg

Ddeunaw mis yn ôl, doedd Ian ddim yn hapus gyda'i fywyd - roedd wedi colli'r ffitrwydd anhygoel oedd ganddo ar ôl y flwyddyn yn Tsieina, wedi "gadael ei hun i fynd" ac yn gwybod bod rhaid iddo newid ei ffordd o fyw.

Ffynhonnell y llun, MONTANE DRAGON'S BACK RACE® | NO LIMITS
Disgrifiad o’r llun,

Ian Owen ar fynyddoedd Cymru ar ail ddiwrnod Ras Cefn y Ddraig

Penderfynodd bod rhaid iddo ddechrau rhedeg, stopio yfed a newid ei ddeiet - am gyfnod roedd yn bwyta dim ond bwyd fegan amrwd ond mae'n disgrifio ei hun fel llysieuwr bellach.

Ers blwyddyn, mae paratoi ar gyfer y ras yma wedi bod yn ffocws llwyr iddo ac wedi ei helpu i gario ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian wedi bod yn ymweld â mynyddoedd Awstralia yn rheolaidd i redeg dros y flwyddyn ddiwethaf

Roedd y ras yn "brutal" meddai Ian, ac er iddo wthio ei hun i'r eithaf, roedd rhaid iddo dynnu allan ar y trydydd diwrnod oherwydd problemau gyda'i bengliniau a'i fferau.

"Oedd y diwrnod cyntaf yn uffernol, dwi ddim yn gwybod faint o bobl wnaeth fethu cwblhau y diwrnod cyntaf ond y diwrnod caletaf dwi erioed wedi ei gael yn fy mywyd yn rhedeg," meddai gan egluro bod y llwybrau rhedeg llawer mwy gwyllt nag roedd wedi ei ddisgwyl.

Owen Rees ar Grib Goch
Montane Dragon's Back Race® | No Limits
Ras Cefn y Ddraig

O Gonwy i Gaerdydd

  • 380kmhyd copaon Cymru

  • 6 diwrnodi'w chwblhau

  • 17,400mo ddringfa dros yr holl ras

  • 264 rhedwro 26 gwlad (2022)

  • llai na hannerwedi ei chwblhau

Source:

"Dwi wedi 'neud lot o newididau yn fy mywyd i gyd yn anelu at yr wythnos yma, a dwi di methu. A 'nath hynna frifo ar y dydd Mercher, diwrnod tri, pan nes i dynnu allan.

"Ond ti'n gallu cymryd cam yn ôl diwrnod neu ddau wedyn a ti'n gallu sbio ar y llun mawr.

"A na, dwi wedi gwneud gymaint a gen i dal stwff i weithio arno, so game on!

"Dwi'n hapus efo lle nes i gyrraedd.

"Mae 'di gwneud i fi sylweddoli nad ydw i mor gryf ag o'n i'n meddwl o'n i."

Gadael Cymru a dechrau'r daith

Mae taith Ian mewn gwirionedd yn dechrau ryw 10 mlynedd yn ôl pan oedd yn athro mathemateg ifanc ond anniddig yn Ysgol Llangefni.

"Ar ôl tair mlynedd o ddysgu o'n i'n gwybod mod i eisiau gadael Cymru am ychydig bach, eisiau trafaelio a gweld be' oedd allan yna," meddai.

"So yn 2012 es i Awstralia a gwneud blwyddyn yn fanna yn trafaelio o gwmpas ar gefn moto beic a mynd o job i job - amazing o flwyddyn, yn ei wingio hi!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"O'n i'n gwatchiad ffilm Kung Fu un diwrnod ar y ffarm yma a nes i gael epiphany - pam ddim mynd i Tsieina am flwyddyn i ddysgu kung fu efo monks? So dyna nes i.

"A oedd y flwyddyn yna yn un o flynyddoedd gorau mywyd i."

Blwyddyn gyda'r mynachod

Mae mynachod kung fu Shaolin yn ymarfer un o'r crefftau ymladd hynaf yn y byd; roedd Ian yn hyfforddi gyda nhw am wyth awr y dydd, bob dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

"O'n i'n pwshio fi fy hun ac oedd rhai o'r Shifu Masters yn waldio chdi os oeddach chdi ddim yn treinio ddigon caled.

"Nes i ddysgu lot am fy hun y flwyddyn yna - meditation, bywyd syml, reis i frecwast, reis a llysiau i ginio a te."

Roedd ar binacl ei ffitrwydd pan ddaeth nôl adre.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Dim i fod yn rhy egotistic ond o'n i'n machine!" meddai.

Ond buan roedd ei draed yn cosi eto a chododd ei bac eto i Seland Newydd i ddechrau ac yna nôl i Awstralia lle mae'n byw ers chwe blynedd bellach.

Mae'n gweithio yn y diwydiant adeiladu i gwmni sy'n ei hedfan o Perth bob tair wythnos i'r chwareli yng ngogledd y wlad.

Cryfhau yn ara' bach

Ond sut ddechreuodd yr ysfa i redeg?

"Tua blwyddyn a hanner yn ôl o'n i jyst yn hel meddyliau ac yn sylweddoli mod i wedi colli ffitrwydd a gadael fy hun i fynd.

"Oedd gynna fi syched am y beint," esbonia ymhellach "ac un diwrnod ges i jyst y foment 'ma ac oni'n meddwl 'Be ti'n 'neud?'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Do'n i ddim yn cyrraedd potensial fi yn byw fy mywyd fel o'n i. Dwi'n meddwl yng nghefn fy mhen o'n i'n gwybod mai rhedeg oedd y llwybr oni'n gorfod cymryd.

"Pan nes i ddechra o'n i methu rhedeg lawr y lôn, o'n i'n stopio, methu cael fy ngwynt, coeau'n brifo, o'n i mor allan o condition, ond o'n i'n gwybod mai dyma ydi'r llwybr i fi.

"A fel oedd yr wythnosau a'r misoedd yn pasio ti'n gweld dy hun yn cryfhau, mae dy ffitrwydd yn mynd yn well yn ara' bach a'r motivation na yn cryfhau.

"Nes i ddechrau enjoio fo a wedyn o'n i ddim wedi cael peint ers tua chwech i saith mis."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth mynd allan i'r unigeddau helpu Ian i newid ei ffordd o fyw

'Forrest Gump'

Ers penderfynu cymryd rhan yn y ras flwyddyn yn ôl mae pob awr rydd sydd ganddo o'i waith wedi ei dreulio yn rhedeg degau o gilomedrau'r dydd.

Fe gafodd help gan hyfforddwr i roi cychwyn arni ond mae'r drefn hyfforddi wedi bod yn un galed: "Codi tua tri y bore, ella rhedeg ryw chwe milltir bach, dod yn ôl, cael cawod, mynd i gwaith erbyn tua 5am tan 5pm - 12 awr - wedyn ar ôl gwaith, oni'n rhedeg rwbeth o rhwng chwech a 12 milltir, 10-20km."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Ar y penwythnos roedd yn rhedeg mwy a hyd at ryw 60 milltir (100km) yr wythnos.

Roedd wedi cael ei hun i lefel o ffitrwydd lle roedd yn gallu gwneud tri marathon yn olynol heb deimlo'n boenus.

Bob pythefnos mae'n cael wythnos i ffwrdd o'i waith ac ar yr adegau hynny roedd yn gyrru i wahanol ardaloedd i gampio a "rhedeg run fath â Forrest Gump bob diwrnod, mae di bod yn brilliant" meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Dwi di rili enjoio fo a'r peth pwysicaf ydi dwi'n hapus ar y funud achos do'n i ddim yn hapus blynyddoedd yn ôl ond rŵan, dwi mewn lle da ar y funud."

Does ganddo ddim cartref sefydlog yn Perth gan ei fod yn gweithio i ffwrdd mor aml.

"Ar y funud gynna i bag ar y nghefn, aros mewn hotel noson neu ddau a jyst mynd off a campio.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Pan o'n i yn dysgu mathemateg oedd yna rwbeth yng ngefn fy mhen, o'n i ddim yn barod i setlo eto, o'n i'n gwybod bod na fyd mawr allan yna o'n isho'i weld. Dwi yn enjoio rhyddid.

"Cyn imi ddechrau rhedeg yn Conwy oedd y ras 'ma wedi syrfio'i bwrpas yn barod i fi, oedd o wedi cadw fi o'r pyb am flwyddyn, so dwi'n hapus efo be nes i gyflawni yn y ras - dwi di dod yn bell mewn blwyddyn a hanner."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Bydd yn mynd nôl adre i Awstralia ymhen rhai wythnosau ond mae'n benderfynol ei fod eisiau dod nôl i gwblhau'r ras ymhen dwy flynedd.

"Mae'r ras yma wedi torri fi, a rŵan dwi reit hapus am hynna, dwi'n meddwl mai dyna o'n i'n chwilio amdano, achos trwy mywyd, efo chwaraeon a phethau, dwi di bod yn llwyddiannus a dwi heb rili methu mewn dim byd fel hyn, sydd yn brifo.

"So mae'r ego wedi cael hit… ond 'dan ni angen hynny weithiau, so dwi'n edrych ymlaen...."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr